Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd, yn lansio’r ymgyrch Gwlad, Gwlad. Hyfforddi. Gweithio. Byw. ar ei newydd wedd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd yr ymgyrch ryngwladol ac ar draws y DU gyfan yn targedu myfyrwyr meddygaeth, meddygon sydd newydd raddio ac sy'n ystyried y cam nesaf o ran gyrfa, a hyfforddeion sy'n dod at ddiwedd eu hyfforddiant. Mae'r ymgyrch yn eu hannog i hyfforddi, gweithio a byw yng Nghymru. Bydd hefyd o ddiddordeb i feddygon teulu sydd wedi cymhwyso'n ddiweddar, y rhai sydd yng nghyfnodau cynnar eu gyrfaoedd, ynghyd â meddygon teulu profiadol sy'n dymuno cael patrwm gwaith gwahanol neu ddychwelyd i Gymru.

Mae llwyddiant yr ymgyrch yn golygu bod 91% o leoliadau hyfforddiant meddygon teulu yng Nghymru wedi’u eu llenwi yn 2017.

Heddiw, bydd Vaughan Gething yn ymweld â  Meddygfa Winch Lane yn Hwlffordd, Sir Benfro i gwrdd â hyfforddeion sydd wedi dewis cychwyn eu hyfforddiant meddygon teulu yma yng Nghymru. 

Sir Benfro yw un o’r ardaloedd sy’n cael yr anogaeth fwyaf gan Lywodraeth Cymru -  yn 2016, nid oedd un lleoliad hyfforddi wedi ei lenwi, ond ar ôl yr ymgyrch Gwlad, Gwlad. Hyfforddi. Gweithio. Byw. llwyddwyd i lenwi 100% o’r lleoliadau yn 2017.

Yn ystod yr ymweliad, bydd yr Ysgrifennydd Iechyd yn cyhoeddi bod y cynllun hyfforddi meddygon teulu ar gael eto eleni. Mae’r cynllun yn cynnig £20,000 i hyfforddi yn y rhannau hynny o Gymru sydd wedi cael problemau hirdymor o ran llenwi lleoliadau, ar yr amod bod yr hyfforddeion yn aros yn yr un lle i ymarfer am flwyddyn wedi hynny. 

Cymhelliant arall yw bod meddygon teulu sydd ar raglen hyfforddi arbenigol yn cael taliad untro i dalu am eu harholiadau terfynol am y tro cyntaf. Bydd hyn yn parhau hefyd.

Eleni, mae cymhelliant newydd i annog seiciatryddion i hyfforddi yng Nghymru. Mae hwn yn daliad untro o hyd at £1,900 i hyfforddeion craidd mewn seiciatreg i dalu am sefyll yr arholiadau aelodaeth MRCPsych unwaith

Mae’r ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol newydd yn cynnwys gweithwyr proffesiynol meddygol go iawn. Gweithwyr sydd naill ai’n hanu o’r tu allan i Gymru ac wedi dewis symud yma i fyw ac i hyfforddi neu’r rhai sy’n dychwelyd i Gymru ar ôl cyfnod yn gweithio’n rhywle arall.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae llwyddiant yr ymgyrch hon yn wych, ond nid da lle gellir gwell. Rhaid sicrhau bod pob un o’n lleoliadau hyfforddi meddygon teulu ni yn llawn ar gyfer y dyfodol.

“Heddiw, byddaf yn cyhoeddi bod y gwahanol gymhelliannau sydd yn eu lle yn parhau. Rwy mor falch o allu ehangu’r ymgyrch bresennol i geisio denu seiciatryddion i Gymru. Mae recriwtio i’r gweithlu seiciatreg yn dalcen caled ledled y  DU. 

“I’r rheini sy’n ystyried gyrfa yng Nghymru, mae’n bwysig tynnu sylw at y manteision o weithio ac o fyw yma, heb anghofio’r Contract Addysg i feddygon iau, y cyntaf o’i fath yn y DU. Bydd y cytundeb hwn yn gwarantu y bydd amser yn cael ei neilltuo ar gyfer addysg yn ystod wythnos waith meddygon dan hyfforddiant, er mwyn sicrhau eu bod i gyd yn cael mynediad at yr ystod eang o gyfleoedd addysgol fydd o fudd iddyn nhw wrth ddatblygu eu gyrfaoedd.  

“Rwy’n hynod falch o effaith yr ymgyrch hon hyd yn hyn. Mae wedi dangos bod Cymru'n fwy na lle gwych i fyw, i hyfforddi ac i weithio. Rwy’n hyderus y bydd yn parhau i fynd o nerth i nerth.”


Mae Harriet Poynter yn Feddyg Teulu dan Hyfforddiant a welodd yr ymgyrch, ac sydd bellach wedi manteisio ar y cyfle hwn gan Lywodraeth Cymru ac wedi symud o Lundain i Sir Benfro. Dywedodd: 

"Fel merch o Lundain, roedd symud i Gymru yn gam mawr iawn i mi. Fy mwriad oedd parhau â’r hyfforddiant yn Llundain, ond ar ôl blwyddyn o ganlyn bachgen sy’n gweithio yng Nghymru, roedd yn bryd i mi edrych ar fy opsiynau. 

“Roedd yr wybodaeth a gefais drwy’r ymgyrch Gwlad, Gwlad: Hyfforddi. Gweithio. Byw. wedi gwneud y penderfyniad drosta i i ryw raddau, heb sôn am y cymhelliant i ddod i’r ardal. Roedd y cymhelliant yn gymorth i mi roi blaendal ar dŷ - rhywbeth sydd bron yn amhosib ei wneud yn Llundain y dyddiau hyn.

“Rwy’n gweld y manteision o symud i Sir Benfro yn barod. Y peth gorau am weithio yn yr ysbyty yma yw’r effaith y mae contract addysg Cymru yn ei gael ar fy hyfforddiant, sy’n bodloni fy anghenion. Rwy’n mwynhau byw ar yr arfordir. Rwy’n dal i ryfeddu at harddwch yr ardal wrth yrru i’r gwaith. Mae ’na gymaint i’w wneud yma ac mae pawb yn hynod o gyfeillgar a chroesawgar."