Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams wedi lansio ymgyrch newydd yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Treorci a fydd yn ceisio sicrhau bod plant yn barod i ddechrau'r ysgol.
Mae'r ymgyrch ‘Parod i Ddysgu’ wedi cael ei gynllunio i helpu rhieni a gofalwyr i baratoi eu plentyn ar gyfer yr ysgol drwy ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau diddorol sydd ar gael gan ysgolion a meithrinfeydd.
Mae'r adnoddau wedi'u hanelu at rieni a gofalwyr plant sy'n bedair oed neu rai a fydd yn dechrau'r ysgol yn fuan. Bydd yr adnoddau'n darparu cyngor ac awgrymiadau ynglŷn â sut i baratoi plant ar gyfer trosglwyddo o chwarae i ddysgu mwy strwythuredig.
Mae'r deunyddiau sydd ar gael yn cynnwys:
- taflen weithgareddau ‘parod i ddysgu’
- siart weithgareddau y gall rhieni a gofalwyr ei defnyddio gyda'u plentyn i'w helpu i baratoi ar gyfer y broses drosglwyddo i'r ysgol gynradd; ac,
- animeiddiad fideo byr i roi syniadau i rieni a gofalwyr am yr hyn y gallant ei wneud yn y cartref gyda'u plentyn i'w baratoi ar gyfer dechrau'r ysgol.
Mae'n ffurfio rhan o'r ymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref, a gafodd ei lansio ym mis Mai 2014. Roedd yr ymgyrch hwn yn ceisio pontio'r bwlch dysgu rhwng y disgyblion mwyaf cefnog a'r rhai mwyaf difreintiedig drwy ddangos i rieni a gofalwyr sut mae'r pethau bach maent yn eu gwneud yn y cartref yn gallu helpu eu plentyn i wneud yn well yn yr ysgol.
Dywedodd Kirsty Williams:
“Mae dechrau'r ysgol yn newid anferth ym mywyd plentyn bach, ac yn addasiad mawr ar gyfer y rhieni hefyd. Rydyn ni hefyd yn gwybod mai'r cartref yw'r ffactor pwysicaf o ran cyrhaeddiad addysgol.
“Bydd helpu plant i ddatblygu'r sgiliau bywyd hollbwysig hynny yn y cartref – bod yn chwilfrydig, yn hyderus ac yn barod i ddysgu – yn sicrhau bod dechrau'r ysgol yn brofiad positif a chyffrous o'u diwrnod cyntaf yno.
“Bydd y fenter hon yn helpu i greu amgylchedd sy'n gwerthfawrogi addysg ac yn cefnogi dysgu i roi'r dechrau gorau posibl i'n plant wrth iddyn nhw gychwyn ar eu taith academaidd.”