Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Flwyddyn y Môr fynd yn ei blaen, mae'r ymgyrchoedd marchnata sy'n hyrwyddo Cymru mewn marchnadoedd amlwg yn cynyddu

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

  • Hyrwyddo Cymru yn y sioe deithio fwyaf yn y byd
  • Luke Evans ar y sgrîn yn Stadiwm y Principality
Yr wythnos hon, bydd Croeso Cymru a phartneriaid yn sioe amlycaf y Diwydiant Teithio - ITB Berlin. Bydd oddeutu 120,000 o ymwelwyr masnach a'r cyfryngau yn bresennol ac oddeutu 26,000 o ddefnyddwyr.  Bydd Croeso Cymru yn cynnal cyfarfodydd gyda'r diwydiant teithio yn yr Almaen, y Swistir ac Awstria, y wasg a'r cyfryngau dros y 3 diwrnod cyntaf, ac yn hyrwyddo Cymru i ddefnyddwyr yn ystod 2 ddiwrnod olaf y sioe. Ar y stondin gyda'r tîm, bydd y partneriaid o fewn y diwydiant Alpine Travel; Cyrchfan Conwy; Cadw a Cambria DMC.
Mae bod yn bresennol yn yr ITB yn un elfen o ymgyrch farchnata yn yr Almaen. Mae o fis Ionawr i fis Mawrth yn gyfnod archebu allweddol i ymwelwyr yn yr Almaen, ac mae'r ymgyrch yn anelu at ysbrydoli ymwelwyr posibl i ddod i Gymru yn 2018. Mae ymgyrchoedd eraill sydd â phartneriaid dylanwadol rhyngwladol yn hyrwyddo Blwyddyn y Môr a Ffordd Cymru, sy'n cynnwys atodiad a chystadleuaeth yn y National Geographic, a gweithio mewn partneriaeth â Lonely Planet, Flybe, P&O, Secret Escapes a manwerthwyr awyr agored yn yr Almaen, Sportscheck a Globetrotter, ar-lein ac ymgyrchoedd wedi'u hargraffu.

Yn ystod yr wythnos hon hefyd, bydd Croeso Cymru yn mynd â neges Blwyddyn y Môr i ddigwyddiad Sea Trade Global yn yr UDA, er mwyn codi proffil Cymru fel cyrchfan ar gyfer llongau mordeithiau a chwaraeon dŵr. SeaTrade yw prif ddigwyddiad y diwydiant mordeithiau ledled y byd, a dyma'r unig ddigwyddiad sy'n debygol o ddod â phob agwedd ar y busnes, gan gynnwys cwmnïau mordeithio, cyflenwyr, asiantaethau teithio a phartneriaid at ei gilydd. 
Mae ffilm ymgyrch Croeso Cymru yn cynnwys yr actor o Hollywood, Luke Evans (dolen allanol) yn cael ei ddarlledu unwaith eto hefyd ac ar fideo ar alw yn ystod mis Mawrth yng Nghymru a Lloegr. Ar 1af Mawrth dangoswyd tirweddau a morluniau prydferth o Gymru ar y sgrîn symud fawr yn Waterloo i ddathlu Dydd Gwyl Dewi  a bydd yr hysbysebu dwys yn parhau hyd at Fawrth 11eg.

Bydd ymgyrch aml-lwyfan i hyrwyddo Cymru yn Iwerddon hefyd yn cael ei chynnal drwy gydol mis Mawrth ar deledu a fideo ar-alw; yn ogystal ag ymgyrch ddigidol. Mae Croeso Cymru yn falch iawn hefyd o weithio mewn partneriaeth eto â Irish Ferries, Stena Line a Flybe i hyrwyddo teithiau uniongyrchol - ar y môr ac yn yr awyr - i Gymru.
Mae ymgyrchoedd Croeso Cymru yng Nghymru hefyd wedi cynnwys hysbysebu yn y wasg ac yn ddigidol ar walesonline, y Western Mail a'r Daily Post. Mae'r hysbysebion sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn cynnwys '50 peth hanfodol i chi eu gwneud ar arfordir Cymru' (dolen allanol) ac ymgyrch arlein Canllaw Blwyddyn y Môr (dolen allanol). Bydd ffilm yr ymgyrch yn cael ei dangos yn Stadiwm y Principality pan fydd Cymru yn wynebu yr Eidal y penwythnos hwn ac eto ar 17eg Mawrth yn ystod gêm Ffrainc. 
Meddai'r Gweinidog Twristiaeth, Yr Arglwydd Elis-Thomas: 
"Mae gweithgareddau marchnata'r Gwanwyn gan Croeso Cymru yn rhan o raglen uchelgeisiol o weithgarwch sy'n hyrwyddo cynnyrch, gweithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau o safon fyd-eang, yn ystod Blwyddyn y Môr.  Mae Ras Cefnfor Volvo yn agosáu'n gyflym, a dyma un o brif ddigwyddiadau 2018 - pan fydd llygaid y byd ar Gymru unwaith yn rhagor.  Bydd hwn yn gyfle gwerthfawr inni hyrwyddo Cymru fel un o'r cyrchfannau arfordirol gorau yn yr 21ain ganrif, ac i ddathlu ein Prifddinas a'n cymunedau arfordirol.  
"Cynnyrch amlwg arall ar gyfer y flwyddyn hon fydd Ffordd Cymru - ein teulu newydd o dri o lwybrau prydferth i deithio arnynt sy'n croesi rhai o dirweddau gorau y wlad, fel ffyrdd o arddangos hanes, arfordiroedd ac atyniadau anhygoel Cymru - a rhoi yr hyder a'r wybodaeth i ymwelwyr tramor grwydro ymhellach yng Nghymru."
Wrth weithio gyda Croeso Cymru ar ffilm yr ymgyrch, dywedodd Luke Evans: 
“Roedd cael gweld arfordir Cymru fel hyn yn anrhydedd ac yn fraint."Aethon ni heibio i gannoedd o draethau, harbyrau, cilfachau ac ynysoedd – gan wylio llamhidyddion a dolffiniaid trwyn potel yn chwarae yn y pellter – a phobl yn mwynhau rhwyfo mewn ceufadau a phadlfyrddio a chymryd rhan mewn arforgampau. Mae cymaint i'w wneud ar hyd arfordir Cymru."Mae gennyf atgofion melys iawn o dreulio gwyliau ar yr arfordir yng Nghymru, a dw i'n trïo dod 'nôl yma mor aml ag y galla i. Mae'n gyfle i gael seibiant llwyr o ffair a ffwndwr bywyd bob dydd ac mae'n fy atgoffa o ba mor lwcus oeddwn i gael dod i oed ynghanol golygfeydd mor anhygoel."