Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gyrwyr sy’n anwybyddu’r Terfyn Cyflymder Amrywiol ar ran prysur o’r M4 ger Casnewydd yn wynebu camau gorfodi llymacg.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y rhybudd yn cael ei gyflwyno cyn yr ymgyrch ddiogelwch newydd sy’n cael ei lansio heddiw [25 Gorffennaf] sy’n anelu at sicrhau bod gyrwyr yn fwy ymwybodol o’r terfynau cyflymder amrywiol sydd wedi’u cyflwyno ar yr M4 rhwng Cyffyrdd 24 (Coldra) a 28 (Parc Tredegar), ac yn cadw atynt, cyn i’r camau gorfodi fynd yn llymach.  

Cyflwynodd Llywodraeth Cymru Derfyn Cyflymder Amrywiol ar hyd y rhan hon o’r ffordd yn 2011 fel ffordd o leihau tagfeydd a gwella diogelwch a sicrhau bod amseroedd teithio yn fwy dibynadwy.   

Mae’r seilwaith a’r dechnoleg sy’n cael eu gosod ar y draffordd rhwng Cyffrydd 24 a 28 yn monitro llif y traffig ac yn darganfod y terfynau cyflymder gorau ar gyfer y traffig ar y pryd.  Caiff y terfynau eu harddangos yn gyfreithiol ar yr Arwyddion Ffyrdd Gweledol electronig uwchben y ffyrdd ac ar ymyl y ffordd.  

Pan fydd cerbydau yn teithio ar gyflymder cyson a thebyg, daw yn haws i ragweld amseroedd teithio.  Bydd llai o dagfeydd a llai o giwio wrth i draffig barhau i lifo yn gyson, ac mae’r risg o ddamweiniau wrth i gerbydau agosáu at gefn ciw yn llai tebygol.   

Fel yr eglurodd Ken Skates: 

“Ers ei lansio, mae’r cynllun wedi helpu i wella llif y traffig a lleihau nifer y damweiniau ar hyd y rhan hon o’r ffordd, gyda mwyafrif y gyrwyr yn cadw at y terfynau sydd wedi eu gosod.  

“Fodd bynnag mae rhai gyrwyr yn parhau i anwybyddu y terfynau sy’n cael eu harddangos ac yn ymddwyn fel nad yw’r cyfyngiadau yn berthnasol iddyn nhw, felly y gyrwyr hyn rydyn ni’n eu targedu’n bennaf gyda’r ymgyrch ymwybyddiaeth hon a’r camau gorfodi dilynol.”   

Caiff yr ymgyrch ei harwain gan Gan Bwyll, Partneriaeth Lleihau Damweiniau Ffyrdd Cymru, a bydd yn cynnwys dau gam.  

Bydd Cam un yn canolbwyntio ar ymgyrch addysg ac ymwybyddiaeth, i dynnu sylw gyrwyr y bydd gorfodi mwy llym yn dod i rym yn fuan.  Bydd yn cynnwys cyhoeddi nifer y troseddau sy’n digwydd ar y rhan honno o’r draffordd a chyfnod arbennig i yrwyr, pryd fydd y rhai sy’n mynd dros y terfyn cyflymder yn derbyn rhybudd.  

Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar orfodi, a bydd y rhai sy’n cael eu dal yn mynd dros y terfyn cyflymder sy’n cael ei arddangos yn derbyn Rhybudd o Fwriad i Erlyn.  

Mae Rheolwr Partneriaeth Gan Bwyll, Chris Hume, yn ychwanegu ei gefnogaeth i’r fenter, gan ddweud: 

“Mae rheoli cyflymder traffig ar y rhan brysur hon o draffordd yr M4 yn hollbwysig, ac mae rheoli y terfyn cyflymder amrywiol yn broactif yn helpu Gan Bwyll i gyflawni ei nod strategol o wneud pobl yn fwy diogel ar ffyrdd Cymru drwy leihau damweiniau ac arbed bywydau.”  

Ychwaengodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae lle i wella bob amser wrth wella diogelwch ar y ffyrdd, ac mae gan bawb gyfrifoldeb dros wella diogelwch a chwarae eu rhan.  Mae terfyn cyflymder amrywiol yr M4 yn un elfen o’r dulliau amrywiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu defnyddio i wella diogelwch ar y rhwydwaith priffyrdd a chefnffyrdd yn gyffredinol.      

“Drwy weithio gyda Gan Bwyll a phartneriaid eraill rydym am wella diogelwch a lleihau y risg o ddamweiniau ar y ffordd, yn enwedig y rhai hynny sy’n arwain at niwed difrifol ac angheuol, ac mae’r cynllun hwn yn anelu at wneud hynny drwy addysgu a gorfodi.”