Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wedi lansio ymgynghoriad ar y Canllawiau Addysg Rhyw a Pherthnasoedd diwygiedig i ysgolion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Datblygwyd y canllawiau drafft newydd yn unol  ag argymhellion adroddiad y panel arbenigol a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd. Byddant yn helpu ysgolion roi ‘dull gweithredu ysgol gyfan’ ar waith o ran Addysg Rhyw a Pherthnasoedd; gan ystyried y cwricwlwm, polisïau ehangach yr ysgol, ffynonellau cymorth allanol ac astudiaethau achos sy’n dangos arferion gorau.

Mae’r enw wedi newid o Addysg Rhyw a Pherthnasoedd i Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn y canllawiau drafft, a hynny er mwyn rhoi cymorth i ysgolion drin a thrafod ystod o bynciau pwysig, fel, perthnasoedd iach, trais domestig a materion LGBT. 

Gwnaed y cyhoeddiad yn ystod ymweliad ag Ysgol Gynradd Glyncollen yn Abertawe, ysgol arloesi sy’n rhan o’r grŵp sy’n datblygu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Yn ystod yr ymweliad, ymunodd y Gweinidog â gweithgareddau’r grŵp pontio cenedlaethau sydd wedi cael ei fabwysiadu gan yr ysgol, sef ‘Fun with Friends’. Mae’r grŵp yn dod â disgyblion ysgol a phobl hŷn o’r gymuned leol ynghyd, gan roi tasgau iddynt gydweithio arnynt, ac annog y ddwy ochr i drafod a dysgu gan y naill a’r llall.

Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams:

 “Y llynedd, cyhoeddais na fyddem yn aros tan y cwricwlwm newydd i newid y ffordd mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei addysgu yn ein hysgolion, ac felly rwyf wedi penderfynu mai nawr yw’r amser i ailedrych ar y canllawiau presennol.

“Bydd ein canllawiau newydd yn helpu ysgolion i baratoi ar gyfer newid y ffordd y mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn cael ei addysgu yn ein cwricwlwm newydd, drwy roi cyngor a chymorth ychwanegol iddynt o ran rhoi dull gweithredu ysgol gyfan ar waith mewn perthynas ag addysg o’r fath.

“Mae Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb o ansawdd uchel yn greiddiol i’n strategaethau Ffyniant i Bawb ac Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl.

“Mae’r sgiliau sy’n cael eu meithrin mewn Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yn arfogi disgyblion i wynebu’r dylanwadau eang sy’n newid yn gyflym a allai effeithio ar ei gallu i feithrin perthnasoedd iach.

“Y perthnasoedd gydol oes, gyda’n teulu a’n ffrindiau, sy’n rhoi sylfaen gadarn i ni a’r diogelwch a’r sicrwydd sydd ei angen i gynnal ein lles.

“Rwy’n annog pawb i gyfrannu at yr ymgynghoriad hwn, er mwyn sicrhau ein bod yn cael Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy’n iawn i’n disgyblion.”

Dywedodd Emma Renold, Cadeirydd y Panel Arbenigol ac Athro Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol Caerdydd:

“Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi lansio’r ymgynghoriad hwn, a bod y canllawiau drafft diwygiedig i ysgolion wedi eu llywio gan weledigaeth y panel arbenigol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, i drawsnewid Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb yng Nghymru.

“O’u gwreiddio mewn dull gweithredu ysgol gyfan sy’n seiliedig ar yr egwyddorion craidd o hawliau, tegwch, cynwysoldeb, diogelu a grymuso a’u hategu gan ddatblygiad proffesiynol effeithiol, ac os rhoddir digon o amser i’w cyflwyno, gall y canllawiau hyn helpu i sicrhau Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb sy'n berthnasol, yn ddiddorol ac o ansawdd uchel ac sy’n diwallu anghenion pob plentyn a pherson ifanc."

Dywedodd pennaeth Ysgol Gynradd Glyncollen:

“Fel ysgol arloesi sy’n  rhan o’r grŵp sy’n datblygu’r Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles, rhoddwyd cyfle unigryw i ni brofi dulliau arloesol er mwyn newid y ffordd o addysgu Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb mewn ysgolion yng Nghymru.

“Drwy’r grŵp pontio cenedlaethau ‘Fun with Friends’, rydym wedi gallu defnyddio’r gymuned leol i ddangos i’n disgyblion sut i feithrin perthnasoedd ystyrlon, gan annog cydlyniant a cheisio cael gwared ar unigedd ac arwahanrwydd yn y gymuned.”