Heddiw, agorodd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru i beidio a chefnogi rhoi trwyddedau newydd ar gyfer codi petrolewm yng Nghymru.
Ar 1 Hydref 2018, o dan Ddeddf Cymru 2017, Gweinidogion Cymru, yn lle’r UK Oil and Gas Authority, fydd yn gyfrifol am roi trwyddedau ar gyfer codi petrolewm.
Wrth lansio’r ymgynghoriad, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig:
“Mae’r pwerau newydd ar gyfer trwyddedu petroliwm yn rhoi cyfle inni ystyried sut y dylem echdynnu petroliwm yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Fel maes newydd o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, comisiynwyd tystiolaeth gennym yn 2017 i lywio ein polisi yn y dyfodol tuag at echdynnu petroliwm.
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y dystiolaeth honno a’n polisi arfaethedig ar echdynnu petrolewm gan gynnwys ffracio.
“Ein nod yw rheoli’n hadnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ffordd sy’n bodloni anghenion Cymru heddiw, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ateb eu hanghenion hwy. I gyrraedd ein targedau o ran newid yn yr hinsawdd, ein nod hirdymor yw dileu tanwyddau ffosil o’r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio heb gael effaith niweidiol ar yr economi. Byddwn hefyd yn rhoi eglurder i fuddsoddwyr a’u hannog i fuddsoddi mewn ynni amgen carbon isel.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:
“Drwy beidio â rhoi trwyddedau newydd ar gyfer echdynnu petrolewm yng Nghymru na chefnogi ceisiadau am drwyddedau ar gyfer ffracio petrolewm, byddwn yn cymryd cam bach ond pwysig tuag at ddyfodol di-garbon yng Nghymru ac yn cefnogi mudiad byd-eang i ddefnyddio llai o danwyddau ffosil.”