Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi lansio ymgynghoriad ar y ddarpariaeth o wasanaethau awtistig yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnig y dylid cael Cod Ymarfer newydd er mwyn sicrhau mwy o gefnogaeth i bobl awtistig, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Bydd yn nodi'r gofynion a roddir ar awdurdodau lleol yn y meysydd canlynol.
- Trefniadau ar gyfer asesu a diagnosis
- Trefniadau ar gyfer cael gafael ar ofal a chymorth
- Trefniadau ar gyfer codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant
- Trefniadau ar gyfer cynllunio, monitro a chyfraniad rhanddeiliaid
Nod yr ymgynghoriad yw sicrhau bod byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol a'u partneriaid yn deall eu dyletswyddau presennol i ddarparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar anghenion, gan gynnwys cefnogi gofalwyr.
Ewch : Côd ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth.
Dywedodd Vaughan Gething:
"Rydym wedi gwneud ymrwymiad cadarn i wella gwasanaethau awtistiaeth yma yng Nghymru.
"Gwnaethom wrando pan ddywedwyd wrthym fod llawer o bobl awtistig yn dal i'w chael hi'n anodd cael gafael ar y gefnogaeth roedd ei hangen arnynt, er gwaetha'r cynnydd a wnaed. Adnewyddwyd ein cynllun cenedlaethol yn 2016 a sicrhawyd bod gennym ddull gweithredu mewn lle oedd yn seiliedig ar angen, er mwyn datblygu a darparu gwasanaethau awtistiaeth.
"Rydym hefyd wedi rhoi Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cenedlaethol mewn lle sydd ar gael mewn pum rhanbarth yng Nghymru a bydd ar gael ym Mae'r Gorllewin a Gorllewin Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ar yr un pryd, gwnaed buddsoddiad sylweddol gennym mewn gwasanaethau niwroddatblygiadol i blant a phobl ifanc er mwyn gwella'r gwaith asesu a'r amseroedd aros am ddiagnosis.
"Yn hollbwysig, drwy ddeddfwriaeth bresennol, bydd gan y Cod bwerau cryf a fydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i ymyrryd pan nad yw'r gwasanaethau yn bodloni safonau boddhaol.
"Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod staff yn cael eu hyfforddi, cydymffurfio â gofynion i gynnal asesiadau'n brydlon a chasglu data fel sy'n ofynnol. Byddwn yn mynnu bod awdurdodau lleol a byrddau iechyd yn ystyried awtistiaeth fel thema allweddol annibynnol wrth gynnal asesiadau o anghenion y boblogaeth yn y dyfodol, a fydd yn cael eu cyhoeddi mewn cynlluniau ardal lleol.
"Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn cael ei chyhoeddi ar adeg pan fo llawer o drafod a dadlau am ddeddfwriaeth benodol i awtistiaeth yng Nghymru.
"Nid deddfwriaeth ychwanegol sydd ei hangen er mwyn gwneud cynnydd cyflymach, ond yn hytrach, gweithredu'r gwasanaethau a'r cynlluniau newydd sy'n cael eu rhoi ar waith ar hyn o bryd mewn modd effeithiol. Mae'r Cod rydym yn ymgynghori arno yn hanfodol wrth lywio hyn."