Daeth yr ymgynghoriad i ben 25 Awst 2023.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 351 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Rydyn ni eisiau eich barn ar y ddeddfwriaeth eilaidd sydd ei hangen i weithredu’r drefn gaffael newydd a sefydlwyd gan y Bil Caffael.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Dyma’r ail o ddau ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth sy’n angenrheidiol i greu’r drefn gaffael newydd yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn a yw manylion technegol y drafftio yn gywir ac yn gyraeddadwy. Mae’n canolbwyntio’n bennaf ar hysbysiadau tryloywder. Maent yn helpu awdurdodau contractio i weithredu mewn modd agored, tryloyw ac addysgiadol.
Ni cheisir barn ar y polisi ei hun sydd eisoes wedi’i sefydlu gan y Bil.