Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Gorffennaf 2023.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o’r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 347 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Hoffem glywed eich barn ar yr is-ddeddfwriaeth sydd ei hangen i weithredu'r drefn gaffael newydd a sefydlwyd gan y Bil Caffael.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Dyma'r cyntaf o 2 ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth sy'n angenrheidiol i greu'r drefn gaffael newydd yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn gofyn a yw manylion technegol y drafftio yn gywir ac yn gyraeddadwy. Mae'n canolbwyntio ar feysydd y Bil Caffael sy'n ei gwneud yn ofynnol i restrau, cyfrifiadau neu ddiffiniadau pellach gael eu defnyddio'n ymarferol.
Ni cheisir barn ar y polisi ei hun sydd eisoes wedi'i sefydlu gan y Bil.