Strategaeth Genedlaethol am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â Thrais yn erbyn Menywod , Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad .
Mae'r Strategaeth yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a sefydliadau perthnasol, ac yn blaenoriaethu darpariaeth ym meysydd ataliaeth, diogelu a darparu cymorth.
Mae hefyd yn ateb y gofyn am Strategaeth Genedlaethol yn Neddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant:
"Mae'r Strategaeth hon yn nodi ein bod wedi ymrwymo eto i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru - chwe blynedd ar ôl cyhoeddi ein Strategaeth gyntaf; yr Hawl i fod yn Ddiogel.
"Mae llawer o waith wedi'i wneud yn ystod y cyfnod hwnnw i wella'r ffordd rydym yn gweithio gyda'r rheini sy'n cael eu heffeithio gan drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Mae llawer o gydweithio wedi digwydd rhwng asiantaethau, ac mae gennym drydydd sector arbenigol a phroffesiynol yn gweithio ochr yn ochr â'r sector cyhoeddus i ddarparu gwasanaethau hanfodol ledled Cymru.
"Ond mae mwy i’w wneud, a byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda’r awdurdodau perthnasol a sefydliadau eraill i roi'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol ar waith.
"Mae'r strategaeth hon yn rhoi’r arweinyddiaeth a’r cyfeiriad sydd eu hangen arnom i greu sector cryfach a chadarnach, i wella'r ffordd rydyn ni’n blaenoriaethu ac yn mynd i’r afael â’r materion hyn ledled Cymru.”