Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 30 Ebrill 2013.

Cyfnod ymgynghori:
6 Chwefror 2013 i 30 Ebrill 2013
Sefydliad:
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 384 KB

PDF
384 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Mae'r ymgynghoriad hwn yn holi eich barn am gyfres o opsiynau sy'n gysylltiedig â'r cyfnod amser rhwng arolygu ysgolion a darparwyr.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Mae hefyd yn pennu’r opsiynau i newid y cyfnodau hysbysu y mae ysgolion a darparwyr yn eu derbyn cyn i’r arolwg ddigwydd.  Mae elfen derfynol yr ymgynghoriad yn gysylltiedig â’r cyfnod amser sydd gan ysgolion a darparwyr yn dilyn arolwg i baratoi ar gyfer eu cynllun gweithredu wedi arolwg.

Yn dilyn yr ymgynghoriad ar y cyd ar newidiadau arfaethedig i gylch arolygu Estyn a’r amserlen o ran llunio cynlluniau gweithredu yn dilyn arolygiad rydym wedi diwygio’r rheoliadau fel a ganlyn:

  • cael gwared â’r cysylltiad rhwng arolygiadau a gynhaliwyd yn y gorffennol ac arolygiadau i ddod gan ei gwneud yn ofynnol i ysgolion a lleoliadau addysg gael eu harolygu o leiaf unwaith bob 6 mlynedd. Bydd y newid hwn yn golygu na fydd hi mor hawdd i ysgolion a lleoliadau addysg allu rhagweld pryd y cynhelir eu harolygiad nesaf
  • cael gwared â’r gofyniad bod ysgolion yn gorfod rhoi tair wythnos o rybudd cyn cynnal cyfarfod â rhieni cyn arolygiad. Bydd hyn yn rhoi hyblygrwydd i Estyn roi llai o rybudd i ysgol am arolygiad os yw’n dymuno
  • lleihau’r cyfnod a ganiateir ar gyfer llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolygiad i 20 diwrnod gwaith er mwyn sicrhau bod cynllun yn cael ei lunio yn gyflym fel mater brys.

Mae Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) wedi cael eu gwneud. Dônt i rym ar 1 Medi 2014 ac maent wedi’u cyhoeddi ar y wefan ddeddfwriaeth (dolen allanol).

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 854 KB

PDF
854 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Fersiwn i bobl ifanc , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 906 KB

PDF
906 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.