Gwahoddir gyrwyr, trigolion ac aelodau'r cyhoedd i rannu eu barn ar y gwelliannau arfaethedig i ddarn o ffordd ar yr A40.
Yn dilyn dwy gyfres o Arddangosfeydd Gwybodaeth i'r Cyhoedd ynghynt eleni, a oedd yn dangos y rhestr fer o opsiynau, mae ymgynghoriad newydd wedi agor ar gynlluniau i wneud newidiadau i'r ffordd rhwng Cylchfan Penblewin a Redstone Cross.
Mae tair rhan i'r gwaith:
- yr ateb a ffefrir a nodwyd yn y lle cyntaf
- gwelliannau y gellid eu gwneud i'r ateb a ffefrir
- mesurau teithio llesol y gellid eu hymgorffori o bosibl.
Mae nifer o broblemau wedi cael eu nodi yn dilyn y gwaith o gasglu a dadansoddi gwybodaeth a data. Roedd y dystiolaeth a'r data a gasglwyd yn cynnwys arolygon geoffisegol, arolygon o fioamrywiaeth, cyfrifiadau traffig, dibynadwyedd amserau siwrneiau, darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus, data traffig tymhorol, data ar ddifrifoldeb damweiniau, data economaidd-gymdeithasol a chyfyngiadau amgylcheddol.
Mae wyth amcan i'r cynllun, gan gynnwys cadernid y rhwydwaith a mynediad gwell, gwella diogelwch Cyffwrdd Redstone Cross, ac o ganlyniad lleihau nifer a difrifoldeb y gwrthdrawiadau, hyrwyddo teithio llesol drwy annog pobl i feicio, marchogaeth a cherdded i gynnig cyfleoedd ar gyfer ffyrdd iach o fyw a hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, gan integreiddio'r rhwydwaith trafnidiaeth lleol er mwyn creu cysylltiadau gwell rhwng cymunedau lleol a chanolfannau trafnidiaeth allweddol.
Gan ystyried yr heriau hyn, rhoddwyd pedwar opsiwn ar restr fer i'w hystyried ymhellach.
- opsiwn 1A – Llwybr gogleddol â Chyffordd-T Groesgam yn Redstone Cross
- opsiwn 1B – Llwybr gogleddol (dim Cyffwrdd yn Redstone Cross)
- opsiwn 2A – Llwybr deheuol â Chyffordd-T Groesgam yn Redstone Cross
- opsiwn 2B – Llwybr deheuol (dim Cyffwrdd yn Redstone Cross)
Mae'r holl opsiynau’n cael eu hamlinellu'n glir yn yr ymgynghoriad.
Bydd Digwyddiad Ymgynghori yn cael ei gynnal yn Neuadd y Frenhines yn Arberth ar 2 Medi 2019, rhwng 12pm a 8pm.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae heriau amlwg yn gysylltiedig â chyflawni'r prosiect hwn, ac rydyn ni am wneud yn siŵr y bydd pawb y bydd y newidiadau'n effeithio arnyn nhw'n cael y cyfle i fynegi eu barn ar yr opsiynau sydd ar gael.
"Hoffwn i annog pawb sy'n gweithio neu'n byw yn yr ardal i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.