Neidio i'r prif gynnwy

Y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati cyn hir i ddechrau ymgynghori ar welliannau mawr i un o’r rhannau prysuraf ar ffyrdd y Gogledd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ymgynghoriad ar brosiect Coridor Glannau Dyfrdwy yn dechrau ar 13 Mawrth ac yn para 12 wythnos. Nod y prosiect yw mynd i’r afael â thagfeydd a diogelwch rhwng Queensferry a Llaneurgain, a gofyn barn am y ddau opsiwn a gynigir. Byddai’r ddau yn arwain at fuddsoddiad o fwy na £200 miliwn. 


Un opsiwn yw pecyn o welliannau ar ffyrdd presennol yr A55/A494, a byddai’r ail yn cynnwys cyfres o welliannau dros Bont Sir y Fflint ar hyd yr A548, ynghyd â ffordd gyswllt newydd i’r A55 yn Llaneurgain.


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


“Mae cryn dystiolaeth am y problemau ar y rhan hon o’r ffordd a dw i’n falch iawn ein bod yn cymryd camau pendant i fynd i’r afael â’r problemau hynny.

“Mae mwy o draffig yn teithio ar y ffordd hon nag y’i dyluniwyd ar ei gyfer, ac mae hynny’n achosi tagfeydd yn aml. Mae’n gwbl glir bod angen uwchraddio’r ffordd a sicrhau ei bod yn bodloni safonau modern. 

“Bydd y ddau opsiwn yn yr ymgynghoriad hwn yn arwain at ffordd fwy diogel a chynaliadwy. Bydd cysylltiadau gwell rhyngddi a ffyrdd eraill, bydd yn gallu ymdopi â mwy o draffig, a bydd yn fwy dibynadwy ac yn gwella amserau teithio. Ac wrth inni gyflawni hyn i gyd, bydd yn rhaid inni sicrhau bod cyn lleied o effaith â phosibl ar y trigolion lleol, y dirwedd, ansawdd aer, bioamrywiaeth a llygredd.  

“Mae hwn yn fater o bwys mawr i bobl yn yr ardal, a hoffwn wahodd unrhyw un sydd â barn am y mater i gyfrannu at yr ymgynghoriad pan gaiff ei lansio ym mis Mawrth, er mwyn inni fedru ystyried yr holl dystiolaeth a chynifer o safbwyntiau â phosibl. 

“Bydda i’n mynd ati wedyn i wneud penderfyniad er mwyn sicrhau rhaglen o welliannau a fydd yn cynnig yr ateb gorau posibl i’r Gogledd.”