Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant, wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar Ddiwygio Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (LCC) yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae angen diwygio'r drefn oherwydd bod y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi ailddosbarthu LCCiaid fel cynhyrchwyr y farchnad gyhoeddus yn ystod adolygiad diweddar. Roedd hyn yn golygu y byddai unrhyw lefelau benthyca marchnad y sector preifat a gymerir gan LCCiaid sydd newydd gael eu hailddosbarthu i'r sector cyhoeddus yn sgorio yn erbyn cyllideb gyfalaf Llywodraeth Cymru. Daw pwerau benthyca Llywodraeth Cymru i rym yn ystod 2018/19. Mae terfyn penodol wedi'i osod gan y pwerau hyn ac felly ni fyddai digon o gapasiti yn weddill i ddarparu ar gyfer gofyniad benthyca blynyddol presennol LCCiaid. 

Nododd yr adolygiad reolaethau llywodraeth leol a’r llywodraeth ganolog. Y rhain oedd yn sail i benderfyniad ONS y dylai LCCiaid gael eu hailddosbarthu. Pwerau a nodir yn Neddf Tai 1996 a darpariaethau a fewnosodwyd gan Fesur Tai (Cymru) 201 yw'r rhain gan mwyaf. Felly, mae'r ymgynghoriad yn cynnig diwygio'r drefn ar gyfer rheoleiddio LCCiaid i ddileu neu ddiwygio'r pwerau perthnasol er mwyn i ONS allu ystyried ailddosbarthu LCCiaid yng Nghymru i'r sector Corfforaethau Preifat Anariannol, gan adfer eu gallu i fenthyca. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cymunedau:

"Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn chwarae rôl hanfodol yn ein helpu i gyflawni ein targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy newydd. Felly maen nhw, yn eu tro, angen i'r sector barhau i gael y rhyddid i fenthyca gan y sector preifat er mwyn ychwanegu at gyllid grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyllido eraill. 

"Byddai ailddosbarthu i'r sector cyhoeddus yn golygu na fyddai modd adeiladu cynifer o dai fforddiadwy newydd. Byddai hefyd yn cyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru fanteisio i'r eithaf ar y cyfraniadau cadarnhaol y mae'r Landlordiaid hyn yn eu gwneud i'r cymunedau y maent yn gweithio ynddynt. Mae hyn yn cynnwys manteision cyflogaeth ac economaidd sylweddol yn lleol. Yn ogystal, byddai’n arwain at ansicrwydd i gyllidwyr sydd wedi ymrwymo dros yr hirdymor i gyllido sector Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig annibynnol. 

"Oni bai ein bod yn gweithredu i alluogi ONS i wrthdroi'r ailddosbarthiad er mwyn i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gael eu dosbarthu yn ôl i'r sector preifat, bydd effaith ddifrifol ar ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder yn nifer y tai fforddiadwy yng Nghymru."