Ymgynghoriad ar ddibenion gwariant y dyfodol ar gyfer arian asedau segur yng Nghymru
Rydym yn ceisio eich barn ar sut y dylem ddefnyddio arian heb ei hawlio i wella bywydau pobl yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y dibenion gwariant ar gyfer arian asedau segur yng Nghymru yn y dyfodol. Mae’n cynnig pedwar opsiwn posibl i’w hystyried: plant a phobl ifanc, yr argyfyngau hinsawdd a natur, cynhwysiant ariannol a gweithredu cymunedol. Mae'n annhebygol o allu ariannu pob un o'r pedwar opsiwn a bydd angen blaenoriaethu.
Mae’r ymgynghoriad yn nodi’r cefndir i’r Cynllun Cyfrifon Segur presennol, yn rhoi rhywfaint o gyd-destun i bob un o’r pedwar diben posibl ac yn cynnig cyfle i ymatebwyr ddarparu awgrymiadau amgen.
Sut i ymateb
I ymateb i’r ymgynghoriad hwn cwblhewch y ffurflen ar-lein.
Fel arall, gall ymatebwyr ddefnyddio’r ffurflen ymateb ar wahân a ddarperir a gellir anfon hon drwy e-bost at cyllidasedausegur@llyw.cymru neu drwy'r post i'r cyfeiriad isod. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 28 Chwefror 2024.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.
Manylion cyswllt
I gael rhagor o wybodaeth:
Ymgynghoriad Asedau Segur
Is-adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: dormantassetsfunding@llyw.cymru
Rhagair gan y Gweinidog
Mae ased segur yn gynnyrch ariannol, fel cyfrif banc, nad yw’r cwsmer wedi’i ddefnyddio ers blynyddoedd lawer, ac nad yw’r darparwr wedi gallu ei aduno ag ef, er gwaethaf ymdrechion yn seiliedig ar arfer gorau’r diwydiant. Sefydlodd Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Deddf 2008) y fframwaith ar gyfer cynllun lle y gellid dosbarthu arian mewn cyfrifon banc a chymdeithasau adeiladu segur er budd y gymuned.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF) i ddosbarthu’r gyfran Gymreig o’r arian hwn, sydd wedi dod i gyfanswm o £28 miliwn ers sefydlu’r cynllun.
Y llynedd, ehangodd Deddf Asedau Segur 2022 y diffiniad o ‘ased segur’ i gynnwys asedau o’r sectorau yswiriant, rheoli cyfoeth, gwarantau a phensiynau. Mae’n dod ag amcangyfrif o £3.7 biliwn o asedau ychwanegol i gwmpas y Cynllun Asedau Segur (DAS) ac amcangyfrifir y gallai’r ehangu ryddhau £880 miliwn pellach at achosion da ledled y DU. Ar ôl bron i 10 mlynedd o weithredu, mae hyn i'w groesawu.
Gydag ehangiad y DAS, mae’r amser yn iawn i ailedrych ar ein blaenoriaethau ar gyfer defnyddio asedau segur yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd safbwyntiau ar bedwar achos posibl yn y dyfodol. Yn ogystal â chroesawu barn ar gynnal y flaenoriaeth bresennol o blant a phobl ifanc, a diwygio’r flaenoriaeth bresennol sy’n ymwneud â newid yn yr hinsawdd i gynnwys yr argyfwng natur, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ceisio barn ar gynhwysiant ariannol a gweithredu cymunedol. Mae’n annhebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ariannu pob un o’r pedwar diben a bydd eich barn yn hollbwysig i’w helpu i flaenoriaethu.
Hyd yma, mae’r DAS wedi cefnogi pum rhaglen ariannu yng Nghymru, gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu arian i gefnogi pobl ifanc i gael mynediad at gyfleoedd hyfforddiant, addysg a chyflogaeth, ac i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru ac yn parhau i wneud hynny drwy raglen Camau Cynaliadwy Cymru, gyda grwpiau cymunedol yn cael eu cefnogi i gymryd camau amgylcheddol a gwella eu perfformiad amgylcheddol eu hunain. Mae hefyd wedi dyfarnu cyfres o grantiau i gefnogi cymunedau nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn gweithredu ar yr hinsawdd i helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ac ysbrydoli eraill.
Mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am i'r cynllun barhau i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at glywed eich barn ar y ffordd orau i’r DAS estynedig fynd i’r afael â’r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol y mae Cymru’n eu hwynebu.
Dawn Bowden AS, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth
1. Cyflwyniad
Y Cynllun Asedau Segur
Mae’r Cynllun Asedau Segur (DAS) yn cefnogi cwmnïau ariannol i gyfeirio cronfeydd o asedau segur yn wirfoddol at achosion da, tra’n sicrhau y gellir aduno perchnogion â’u harian ar unrhyw adeg. Mae'n galluogi symiau mawr o arian na fyddai fel arall yn cael eu cyffwrdd mewn cyfrifon anghofiedig i gael eu gwario ar achosion cymdeithasol ac amgylcheddol. Gweinyddir y cynllun gan Reclaim Fund Ltd (RFL). Mae wedi derbyn dros £1.6 biliwn o asedau segur hyd yn hyn ac mae’n penderfynu faint o hwnnw y dylid ei gadw i dalu am unrhyw adenillion gan berchnogion cyfreithlon y cyfrifon hynny. Fformiwla Barnett sy'n pennu'r gyfran a ddyrennir i Gymru.
Mae’r TNLCF yn gyfrifol am ddosbarthu unrhyw warged i achosion da ledled y DU tra bod Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo TNLCF ar sut i wario cyfran Cymru drwy gyfarwyddiadau polisi (mae’r cyfarwyddiadau presennol i’w gweld yn Atodiad A). Cytunwyd ar y dibenion gwariant presennol yn 2010 ac mae'n bosib y gallai pasio Deddf Asedau Segur 2022 yn ddiweddar arwain at fwy o arian ar gael at achosion da yng Nghymru. O ganlyniad, mae adolygiad o’r dibenion presennol yn amserol ac mae’r ymgynghoriad dilynol hwn yn cael ei gynnal gan TNLCF ar ran Llywodraeth Cymru. Mae’n gwahodd safbwyntiau gan gymunedau, mudiadau trydydd sector ac unrhyw unigolion sydd â diddordeb ar y dibenion gwario ar gyfer arian asedau segur yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gwahodd safbwyntiau penodol ar bedwar diben posibl:
- plant a phobl ifanc;
- yr argyfyngau hinsawdd a natur;
- cynhwysiant ariannol; a
- gweithredu cymunedol.
Pam y dibenion arfaethedig hyn?
Yn ogystal â Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 sy’n darparu bod dibenion gwariant asedau segur naill ai’n gymdeithasol neu’n amgylcheddol eu cwmpas, penderfynodd Llywodraeth Cymru hefyd fod yn rhaid i’r dibenion arfaethedig ar gyfer yr ymgynghoriad hefyd fod fel a ganlyn:
- yn seiliedig ar dystiolaeth;
- yn gallu mesur effaith;
- yn gallu gwrthsefyll llifoedd ariannu ansicr;
- yn ychwanegol at arian y llywodraeth; ac
- yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r llywodraeth.
Teimlai hefyd y dylai'r dibenion gwariant flaenoriaethu cymorth ar gyfer materion tymor hwy, cefnogi cymunedau a bod â'r potensial i gefnogi'r rhai sy'n profi tlodi. Wrth i Gymru barhau i adfer o oblygiadau eang pandemig COVID-19 yn erbyn cefndir o bwysau cynyddol ar gostau byw a her fyd-eang yr argyfyngau hinsawdd a natur, teimlai fod y dibenion hyn yn arbennig o berthnasol.
Yr Egwyddor Ychwanegedd
Mae Deddf Asedau Segur (2022) yn nodi na ellir defnyddio arian at achosion da sy’n deillio o asedau segur i dandorri neu amnewid gwariant y llywodraeth, a rhaid ei ddosbarthu i brosiectau sy’n annhebygol o gael eu hariannu gan y llywodraeth neu’r gwasanaethau cyhoeddus y mae’n eu cefnogi. Gelwir hyn yn egwyddor ychwanegedd.
Yn ymarferol, mae hyn yn golygu bod yn rhaid i TNLCF wneud y mwyaf o’r buddion y mae arian asedau segur yn eu rhoi i gymunedau trwy ariannu prosiectau, neu rannau o brosiectau, na fyddai fel arall yn cael eu hariannu gan y llywodraeth ar lefel genedlaethol, ranbarthol neu leol. Er nad yw’n atal yr arian rhag cael ei ddefnyddio i ychwanegu gwerth at wasanaethau cyhoeddus drwy gefnogi gweithgareddau ychwanegol sy’n gwella canlyniadau i fuddiolwyr, mae’n atal arian rhag cael ei ddefnyddio i gefnogi rhwymedigaethau sector cyhoeddus y mae’n rhaid i unrhyw haen o lywodraeth eu darparu yn ôl y gyfraith, yn ogystal â gwasanaethau dewisol sefydledig.
Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried hyn wrth bennu’r dibenion gwariant a bydd TNLCF yn mynd i’r afael ag ychwanegedd wrth ddylunio mentrau ariannu yn y dyfodol. Er mwyn rhoi cyfrif am yr egwyddor ychwanegedd, dylai ymatebwyr i’r ymgynghoriad hwn a allai ddymuno awgrymu cynigion ar gyfer ariannu yn y dyfodol gofio, pan fydd Llywodraeth Cymru yn dod i wneud penderfyniad ar ddibenion gwariant yn y dyfodol, y bydd angen iddi sicrhau nad yw’r dibenion hynny’n gwneud y canlynol:
- dyblygu neu ariannu gwasanaethau y mae’n ofynnol i naill ai haen o lywodraeth neu gorff cyhoeddus eu darparu i fodloni ei ddyletswyddau statudol (cyfreithiol);
- disodli ariannu sefydledig naill ai gan haen o lywodraeth neu gorff cyhoeddus sydd wedi’i dynnu’n ôl neu sydd mewn perygl o gael ei dynnu’n ôl; neu
- rhoi cymhorthdal i wasanaeth a ddarperir gan drydydd parti ar sail contract ar gyfer naill ai haen o lywodraeth neu gorff cyhoeddus.
Am yr ymgynghoriad hwn
Bydd yr ymatebion a ddaw i law yn llywio penderfyniad Llywodraeth Cymru ar ba ddibenion y dylid eu rhagnodi yn y cyfarwyddiadau polisi y bydd yn eu rhoi i TNLCF yn y dyfodol. Fel y cyfryw, mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar 'beth' yn hytrach na 'sut'. Ar hyn o bryd nid yw Llywodraeth Cymru yn ceisio barn ar sut y dylid dosbarthu arian asedau segur ledled Cymru, megis drwy raglenni grant, ymddiriedolaethau neu waddolion. Dim ond ar ôl i Lywodraeth Cymru benderfynu beth fydd y dibenion gwariant cyffredinol y gellir penderfynu ar hyn. TNLCF fydd yn gyfrifol am unrhyw benderfyniad ynghylch sut i ddosbarthu arian a chaiff ei benderfynu yn ddiweddarach fel rhan o'i broses datblygu ariannu safonol, a fydd yn cynnwys ymgynghori pellach â budd-ddeiliaid perthnasol.
Bydd arian achosion da o asedau segur yn cael eu rhyddhau'n raddol gan Reclaim Fund dros nifer o flynyddoedd. Er y bydd yn sylweddol, mae'n annhebygol y bydd swm mawr yn cael ei ryddhau ar unwaith. Bydd arian yn cael ei ryddhau'n raddol trwy TNLCF, ac mae gan TNLCF raglenni asedau segur presennol y mae'n rhaid iddo eu cyflawni. O’r herwydd, mae’r dibenion gwariant a gynigir yn yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar flaenoriaethau tymor hwy yn hytrach nag anghenion tymor byr. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r rhai a ymatebodd i’r ymgynghoriad ystyried hyn wrth baratoi eu hymatebion.
Os yw Llywodraeth Cymru a TNLCF i gael yr effaith fwyaf posibl o asedau segur yng Nghymru, mae'n annhebygol y gellir cefnogi pob un o'r pedwar diben gwariant arfaethedig. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ymgynghoriad i helpu i nodi pa rai o’r blaenoriaethau sydd bwysicaf i ymatebwyr er mwyn llywio’r penderfyniad terfynol ar ba ddibenion gwariant i’w cynnwys. Mae Adran 7 yn gwahodd ymatebwyr i nodi eu dewisiadau.
Mae’r ddogfen ymgynghori hon yn egluro sut mae arian asedau segur wedi’i ddosbarthu yng Nghymru hyd yma, cyn gwahodd barn ar y dibenion gwariant presennol ar gyfer Cymru – plant a phobl ifanc a newid hinsawdd. Yna mae'n gwahodd safbwyntiau ynghylch a ellid ystyried cynhwysiant ariannol a chefnogi gweithredu cymunedol hefyd.
2. Y Cynllun Asedau Segur yng Nghymru
Mae Deddf 2008 yn darparu y bydd yr TNLCF yn dosbarthu arian asedau segur ar gyfer gwariant sydd â diben cymdeithasol neu amgylcheddol. Mae adran 19 o Ddeddf 2008 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru drwy Orchymyn wneud darpariaeth sy’n cyfyngu ar y dibenion, neu’r mathau o bersonau, y gwneir dosbarthiad arian (asedau segur) iddynt ar gyfer talu gwariant Cymreig. Mae Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010, OS 2010/1317 yn nodi’r cyfyngiadau rhagnodedig presennol ar gyfer dosbarthu arian cyfrifon segur i gwrdd â gwariant Cymru. Sef:
- gwariant ar neu sy'n gysylltiedig â diogelu neu wella'r amgylchedd, neu
- gwariant ar neu sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau, cyfleusterau neu gyfleoedd i ddiwallu anghenion pobl nad ydynt wedi cyrraedd 26 oed.
Mae’n ofynnol i TNLCF o dan Adran 22 o Ddeddf 2008 gydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddiadau a roddir iddo gan Lywodraeth Cymru, mewn perthynas â’r gyfran o wariant asedau segur. O dan y trefniadau hyn, gall Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddiadau polisi manwl i TNLCF ar y cyfyngiadau rhagnodedig presennol, ac mae’r cyfarwyddiadau presennol yn nodi y dylai TNLCF sicrhau bod yr arian ar gael ar gyfer yr achosion a ganlyn:
- cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial trwy weithio trwy'r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dileu'r rhwystrau i ddatblygiad personol a chyflogaeth; a
- mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy ehangach trwy weithgareddau cymunedol â ffocws.
Hyd yma, mae’r DAS wedi datgloi £28 miliwn ar gyfer achosion cymdeithasol ac amgylcheddol yng Nghymru.. Dosberthir y cronfeydd hyn yn unol â’r egwyddor ychwanegedd ac mae’r tabl isod yn esbonio sut y defnyddiwyd asedau segur yng Nghymru hyd yma.
Rhaglenni
Adfywio Cymru
Gwerth: £2.6 miliwn dros 10 mlynedd.
Ers 2012 mae 630 o grwpiau ledled Cymru wedi cael cyngor, hyfforddiant, mentora a chefnogaeth dechnegol gan fentoriaid ar ystod eang iawn o faterion gan gynnwys ynni, garddio, gwastraff, adeiladau cymunedol, menter, trafnidiaeth, cadwraeth, llywodraethu a rheolaeth sefydliadol, ariannu a chyllid, a chodi ymwybyddiaeth. Mae'r cynllun yn dod i ben nawr a bydd yn cael ei ddisodli gan gynllun wedi'i ddiweddaru (gweler isod).
Engage to Change
Gwerth: £11.5 miliwn dros 6 blynedd.
Mae'r rhaglen hon yn chwalu rhwystrau, gan gefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a phobl ifanc awtistig i mewn i gyflogaeth. Ers 2016 mae cymorth dwys Engage to Change wedi galluogi:
- 1,079 o bobl ifanc i ddatblygu sgiliau newydd
- 428 o bobl ifanc i gael lleoliadau â thâl
- 367 o bobl ifanc i sicrhau cyflogaeth ar ôl eu lleoliad gwaith
- 281 o bobl ifanc i gynnal y gyflogaeth honno am 13 wythnos neu fwy.
Creu Eich Lle
Gwerth: Cynllun Asedau Segur gwerth £2.1 miliwn a £5.7 miliwn o Arian y Loteri Genedlaethol.
Fe wnaeth rhaglen grant Creu Eich Lle adfywio coetiroedd, parciau, dyfrffyrdd ac ardaloedd cymunedol nad ydynt yn cael eu defnyddio’n ddigonol a gwella bioamrywiaeth, annog teithio llesol a chynyddu mynediad i fannau naturiol.
Bu Prosiect Gweledigaeth Ein Cwm Ymddiriedolaeth Adfywio Ynysybwl ail-ddychmygu Ynysybwl fel dyffryn gwyrdd, cynaliadwy a rhwydwaith gyda phwyslais ar asedau, busnesau a gweithgareddau sy’n eiddo i’r gymuned.
Fe wnaeth arian Creu Eich Lle annog y defnydd o fannau awyr agored trwy wella llwybrau coedwigaeth presennol, a hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r amgylchedd presennol a'i fioamrywiaeth.
Symud Ymlaen
Value: £4.8 miliwn dros 4 blynedd .
Wedi’i redeg gan Llamau mewn partneriaeth â CBSA (Cymru), Gisda, SOVA a’r Construction Youth Trust, roedd y prosiect hwn yn galluogi pobl ifanc sy’n gadael gofal a throseddwyr ifanc i fynd i leoliadau gwaith â thâl a darparu cymorth i’r cleient a’r cyflogwr yn ystod y cyfnod hwn. Bu'r prosiect redeg rhwng 2013 a 2017 a chyflawnodd:
- 1,038 o achrediadau hyfforddi newydd
- 427 o bobl ifanc yn gwella eu gwybodaeth a'u sgiliau
- 180 yn cael profiad o leoliad gwaith.
Yn ogystal â'r rhaglenni etifeddiaeth hyn, mae TNLCF ar hyn o bryd yn gweithredu Rhaglen Camau Cynaliadwy Cymru gan ddefnyddio asedau segur, sydd â thair cydran:
- Mae Camau Cynaliadwy Cymru – Mentora yn adeiladu ar lwyddiant prosiect Adfywio Cymru. Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru wedi derbyn grant o £2.2m i ddarparu gwasanaeth mentora Cymru gyfan a lansiwyd ym mis Chwefror 2023 i helpu grwpiau cymunedol i weithredu ar yr hinsawdd a gwella eu perfformiad amgylcheddol eu hunain.
- Mae Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Egin (£3.75m) wedi'u lansio ar y cyd â'r Gwasanaeth Mentora i roi cymorth i'r cymunedau sy'n derbyn cymorth gan Wasanaeth Egin. Gallant wneud cais am grant o hyd at £15,000 i roi eu cynlluniau ar waith. Mae'r dyfarniad cyntaf wedi'i wneud a disgwylir mwy dros y misoedd nesaf.
- Mae Camau Cynaliadwy Cymru - Grantiau Gweithredu wedi dyfarnu £3.6 miliwn i 15 o fudiadau i gefnogi cymunedau i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a byw mewn ffordd fwy cynaliadwy. Bydd y rhaglen yn blaenoriaethu cefnogaeth ar gyfer cymunedau yng Nghymru nad ydynt fel arfer yn ymwneud â newid hinsawdd i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd ac ysbrydoli eraill.
Mae rhaglen bellach hefyd yn cael ei datblygu i'w lansio ym mis Ionawr 2024. Bydd yn canolbwyntio ar gefnogi pobl ifanc ledled Cymru i gyrraedd eu potensial fel y gallant ffynnu yn yr economi werdd. Bydd yn canolbwyntio'n benodol ar bobl ifanc sydd naill ai'n anabl neu o gefndiroedd ethnig amrywiol a bydd yn cefnogi gyrfaoedd gwyrdd, uwchsgilio, gwella gwybodaeth, mynd i'r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, a chyfrannu at gyrraedd sero net. Mae £10.2m wedi'i ddyrannu dros dro i'r rhaglen hon.
Mae TNLCF wedi mynd i'r afael â'r rownd bresennol o arian asedau segur drwy ddatblygu mentrau ariannu sy'n mynd i'r afael â'r ddau ddiben gwariant presennol, tra hefyd yn ymgorffori gweithredu cymunedol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae'n tynnu sylw at y ffaith nad yw'r dibenion gwariant presennol ac arfaethedig o reidrwydd yn annibynnol ar ei gilydd, a'i bod yn bosibl dyfarnu arian mewn ffordd sy'n gallu bodloni sawl blaenoriaeth ar yr un pryd.
3. Plant a phobl ifanc
Diben gwariant presennol: Cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial trwy weithio trwy'r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dileu'r rhwystrau i ddatblygiad personol a chyflogaeth.
Mae'r pwrpas presennol yn pwysleisio datblygiad personol a chyflogaeth. Ers hynny mae TNLCF wedi canolbwyntio ar ariannu sy’n ychwanegu gwerth at fentrau cyflogaeth ieuenctid presennol Llywodraeth Cymru megis Y Warant i Bobl Ifanc, gyda ffocws ar y rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad swyddi. Er enghraifft, mae Engage to Change yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau dysgu a phobl ifanc awtistig i mewn i gyflogaeth tra bod Symud Ymlaen wedi galluogi pobl ifanc sy'n gadael gofal a phobl ifanc oedd wedi troseddu i fynd i mewn i leoliadau gwaith cyflogedig.
Er bod hyn yn bwysig, mae ymchwil diweddar gan TNLCF hefyd wedi tynnu sylw at heriau rhyng-gysylltiedig eraill sy'n wynebu plant a phobl ifanc sy'n creu rhwystrau ac yn achosi allgáu cymdeithasol sy'n gofyn am weithredu tymor hwy i sicrhau y gall pobl ifanc heddiw fynd ymlaen i ddod yn oedolion ffyniannus. Mae Cynllun Plant a Phobl Ifanc Llywodraeth Cymru yn nodi'r camau sydd eisoes yn cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r heriau hynny, ond gellir dadlau bod meysydd heblaw cyflogaeth a hyfforddiant lle y gellid defnyddio arian o asedau segur i ychwanegu gwerth. Maent yn cynnwys:
Iechyd meddwl
Mae gan un o bob chwech o blant a phobl ifanc broblem iechyd meddwl y gellir ei diagnosio, ac mae llawer mwy yn cael trafferth gyda heriau fel bwlio a phrofedigaeth. Dyma'r mater a godir amlaf gyda Chomisiynydd Plant Cymru (Iechyd meddwl i bawb - Blog a chylchlythyron Comisiynydd Plant Cymru). Cafodd pandemig COVID-19 effaith anghymesur ar iechyd meddwl a llesiant emosiynol plant a phobl ifanc, gyda bron i chwarter y dysgwyr ysgol uwchradd yn sôn am lefelau uchel o symptomau iechyd meddwl yn y blynyddoedd yn dilyn COVID-19.
Rhwystrau i weithgareddau chwarae a hamdden
Mae chwarae yn hanfodol ym mywyd plentyn gan ei fod yn darparu cyfleoedd ar gyfer rhyngweithio cymdeithasol, dysgu, gweithgaredd corfforol, lleihau straen a hybu llesiant. Mae hawl plant i chwarae wedi’i ymgorffori yn Erthygl 31 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP). Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yn ffurfiol yn 2004, ac mae wedi ymrwymo i wneud egwyddorion CCUHP yn realiti i bob plentyn a pherson ifanc (Cymru – gwlad lle mae cyfle i chwarae (Cyfarwyddyd Statudol)). Mae plant a phobl ifanc wedi cyfeirio at rwystrau megis diffyg darpariaeth leol, y costau sy'n gysylltiedig â gweithgareddau strwythuredig, costau cludiant a diffyg argaeledd. Mae'r rhwystrau hyn yn waeth i'r rhai sy'n anabl neu sy'n dod o deuluoedd incwm isel (Gobeithion i Gymru 2022 – Comisiynydd Plant Cymru).
Anableddau dysgu
Anabledd dysgu yw llai o allu deallusol ac anhawster gyda gweithgareddau bob dydd fel tasgau yn y cartref, cymdeithasu neu reoli arian sy’n effeithio ar rywun am eu bywyd cyfan (What is a learning disability? - Mencap). Yn aml mae angen cymorth ar blant a phobl ifanc ag anabledd dysgu oherwydd gallant gymryd mwy o amser i ddysgu ac yn aml mae angen cymorth ychwanegol arnynt i ddatblygu sgiliau newydd a rhyngweithio â phobl eraill. Ar wahân i gymorth gyda hyfforddiant a chyflogaeth, efallai y bydd angen cymorth ychwanegol ar bobl ifanc ag anableddau dysgu gyda phethau fel tai, byw'n annibynnol, addysg, a'u hiechyd a'u llesiant cyffredinol. Mae Cynllun Gweithredu Anabledd Dysgu 2022-2026 Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r camau y mae’n eu cymryd i gefnogi’r rhai ag anableddau dysgu.
Cwestiynau
C1. I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru barhau i gael ei wario ar gefnogi plant a phobl ifanc?
C2. A oes unrhyw faterion penodol sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy
4. Yr argyfyngau hinsawdd a natur
Diben gwariant presennol: Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy ehangach trwy weithgareddau cymunedol â ffocws.
Diben gwariant arfaethedig: Mynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur drwy weithgarwch cymunedol â ffocws.
Newid yn yr hinsawdd
Yn 2022 cofnododd Cymru record tymheredd uchaf dyddiol newydd o 37.1C. Mae'n destun pryder bod rhagamcanion hinsawdd y DU yn dangos, hyd yn oed o dan senario allyriadau canolig yn y dyfodol, y gallai blwyddyn fel 2022, sef y gynhesaf a gofnodwyd erioed yn y DU, fod yn norm erbyn canol y ganrif ac yn gymharol oer erbyn diwedd y ganrif (2022 provisionally warmest year on record for UK - Met Office).
O ganlyniad i newid yn yr hinsawdd, mae rhagamcanion hinsawdd y DU yn disgwyl y bydd y DU yn gweld:
- gaeafau cynhesach a gwlypach
- hafau poethach a sychach
- eithafion tywydd amlach a dwysach.
Mae effeithiau'r newidiadau hyn yn ddifrifol ac yn cynnwys llifogydd, perygl i gyflenwadau dŵr, sychder, ansicrwydd bwyd a cholli bioamrywiaeth (Effects of climate change - Met Office).
Mae gan Gymru dargedau statudol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a chyrraedd sero net erbyn 2050 (Targedau newid hinsawdd a chyllidebau carbon | LLYW.CYMRU). Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer mynd i’r afael ag effeithiau newid yn yr hinsawdd ac addasu iddynt:
- Mae Cymru Sero Net yn nodi sut y bydd Cymru yn torri allyriadau rhwng 2021 a 2025. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi cynllun gweithredu datgarboneiddio bob pum mlynedd, a disgwylir yr un nesaf erbyn diwedd 2026.
- Mae Ffyniant i bawb: Cymru sy'n effro i'r hinsawdd yn gynllun pum mlynedd i fynd i’r afael â’r risgiau sy’n deillio o newid yn yr hinsawdd.
Hyd yma, mae arian asedau segur wedi cyfrannu at ymdrechion cenedlaethol i leihau gwastraff, gwella ansawdd aer, a lleihau allyriadau carbon. Mae Adfywio Cymru, a’i olynydd Camau Cynaliadwy 2, wedi ychwanegu gwerth at yr agenda drwy ganolbwyntio’n benodol ar grwpiau cymunedol llai na fyddent fel arall yn cael y cyngor yr oedd ei angen arnynt i wneud newidiadau bach ond pwysig i leihau eu hôl troed carbon eu hunain. Mae’r rhaglenni hyn wedi ceisio rhoi’r cyngor ymarferol sydd ei angen ar fudiadau a grwpiau cymunedol ledled Cymru i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol. Drwy ganolbwyntio ar fudiadau nad ydynt yn draddodiadol wedi cymryd rhan mewn gweithredu amgylcheddol, mae Camau Cynaliadwy yn cyrraedd grwpiau a chymunedau na fyddent fel arall yn cymryd rhan mewn chwarae rôl wrth fynd i’r afael ag argyfyngau hinsawdd a natur.
Bydd rhaglen TNLCF sydd ar ddod i gefnogi pobl ifanc i gyrraedd potensial ac i ffynnu mewn economi werdd yn y dyfodol yn ategu cynlluniau prentisiaeth presennol. Bydd hyn yn canolbwyntio’n benodol ar uwchsgilio, gwella gwybodaeth, mynd i’r afael â diweithdra ymhlith pobl ifanc, a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn economi werdd y dyfodol.
Mae Gweithredu Hinsawdd Cymru: Strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd 2023 i 2026 yn nodi fframwaith ac egwyddorion arweiniol ar gyfer sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio ag eraill i gynnwys pobl yn y broses o wneud penderfyniadau a’r camau gweithredu sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd. Mae'n dilyn y Fframwaith dewisiadau gwyrdd.
Ymgysylltu
Cynnwys pobl mewn penderfyniadau polisi ynglŷn â sut i fynd i’r afael â newid hinsawdd. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo yn nogfen Cymru Sero Net i ddeialog ddwy ffordd ar newid yn yr hinsawdd, yn enwedig gyda’r bobl a’r cymunedau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan benderfyniadau polisi yn y dyfodol. Mae hyn yn sicrhau tegwch o ran y ffordd y caiff newidiadau eu gweithredu.
Galluogi
Rhoi’r cymorth angenrheidiol i bobl er mwyn iddynt allu gwneud dewisiadau gwyrdd. Ar hyn o bryd mae llawer o'r dewisiadau hyn yn rhy ddrud, yn anghyfleus, ac yn annymunol - neu'n syml nid y rhagosodiad neu'r norm yr ydym wedi arfer ag ef. Bydd angen deall rhwystrau a rhoi sylw iddynt yn gyflym ac ar sawl lefel. Bydd angen atebion gwahanol ar gyfer gwahanol ranbarthau o Gymru, gan wneud dull gweithredu seiliedig ar le yn hanfodol.
Yr argyfwng natur
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru argyfwng natur yn 2021. Mae 17% o’r 3,902 o rywogaethau a astudiwyd yng Nghymru mewn perygl o ddiflannu, gyda llawer o rai eraill yn dirywio. Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur wedi’u cysylltu’n agos ac wedi’u hachosi gan y pethau yr ydym ni fel bodau dynol yn eu gwneud, megis rhyddhau allyriadau carbon niweidiol, dinistrio cynefinoedd naturiol a defnyddio gormod o adnoddau naturiol.
Mae newidiadau mewn tywydd a thymheredd yn ei gwneud hi’n anoddach i lawer o anifeiliaid a phlanhigion oroesi, a phan fydd rhywogaethau’n diflannu, mae’n effeithio ar ein hiechyd a’n llesiant, gan ein bod yn dibynnu ar ecosystemau am adnoddau fel yr aer rydym yn ei anadlu, bwyd a dŵr glân. Mae gweithredu nawr yn golygu y gallwn ofalu am ein planed yn well a gwneud yn siŵr ei bod yn lle iach i ni ac i genedlaethau’r dyfodol. Ond i wneud newid, mae angen i ni warchod cynefinoedd, lleihau llygredd, atal newid hinsawdd a defnyddio ein hadnoddau'n ddoeth. Mae angen i ni ofalu am ein hecosystemau – cymunedau o blanhigion, anifeiliaid, organebau a natur yn byw ac yn rhyngweithio â’i gilydd.
Cwestiynau
C3. I ba raddau ydych chi’n credu y dylid parhau i wario arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru ar fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’i ddefnyddio hefyd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur?
C4. A oes unrhyw faterion amgylcheddol penodol eraill y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy?
5. Cynhwysiant ariannol
Diben arfaethedig: hyrwyddo cynhwysiant ariannol i leihau allgáu ariannol, gwella llesiant ariannol a helpu i greu cymdeithas fwy cyfartal.
Mae hybu cynhwysiant ariannol yn rhan annatod o uchelgais Llywodraeth Cymru i roi cyfiawnder cymdeithasol wrth galon y llywodraeth. Mae’n hanfodol i leihau allgáu ariannol, gwella llesiant ariannol a chreu cymdeithas fwy cyfartal. Yn anffodus, mae nifer sylweddol o bobl yng Nghymru yn wynebu anawsterau ariannol bob dydd ac mae llawer yn agored i effeithiau amrywiadau mewn incwm, costau nas rhagwelwyd a dyledion problemus. Mae’r pandemig COVID-19, newidiadau i’r farchnad a phwysau costau byw cynyddol oll wedi cynyddu allgáu ariannol. Ledled y DU, cynyddodd nifer y bobl â gwydnwch ariannol isel bron i 30 y cant yn ystod y pandemig, gwaethygodd dyled broblemus i bobl ar yr incwm isaf ac nid oes gan lawer ohonynt y gwytnwch i wrthsefyll siociau ariannol bob dydd.
Mae hyn yn amlygu angen dybryd am gredyd teg a fforddiadwy i’r rhai na allant gael mynediad at gyllid prif ffrwd, y gallu i reoli siociau incwm trwy wella arferion cynilo a’r angen i adeiladu gwytnwch ariannol yng Nghymru drwy wneud y mwyaf o incwm. Fodd bynnag, nid yw’r cynnydd hwn mewn angen wedi’i gyfateb eto gan argaeledd neu ddefnydd y cynhyrchion a’r gwasanaethau perthnasol sydd eu hangen ar bobl i fynd i’r afael â’r heriau ariannol hyn, ac yn aml y rheini ar yr incwm isaf sy’n dioddef fwyaf. Er bod llawer o waith wedi’i wneud yn y gofod credyd fforddiadwy a’r arena gwasanaethau cynghori, mae angen prif ffrydio offer gwneud y mwyaf o incwm i lwyfannau presennol a gwella llwybrau atgyfeirio i sicrhau bod pawb sy’n ymgysylltu â’r darparwyr hyn ar hyn o bryd yn cael eu cefnogi mor llawn a chyfannol â phosibl.
Mae’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau, Llywodraeth Cymru a budd-ddeiliaid allweddol ledled Cymru wedi datblygu Cynllun Cyflenwi ar gyfer Cymru fel rhan o Strategaeth y DU ar gyfer Llesiant Ariannol. Mae’n olynydd i Gynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru ac mae ar gyfer pob mudiad sydd â diddordeb mewn gwella llesiant ariannol pobl ledled Cymru. Mae’n cynnig fframwaith i helpu mudiadau i weithio gyda’i gilydd ar weithgareddau llesiant ariannol effeithiol a fydd yn helpu’r rhai mwyaf agored i niwed. Mae wedi'i dargedu at ystod o sectorau gan gynnwys cyflogwyr, dysgu gydol oes, credydwyr a gwasanaethau ariannol, llunwyr polisi ac, yn arwyddocaol, mudiadau sy'n canolbwyntio ar lesiant unigol a chymunedol.
Mae'r sector olaf hwn yn cynnwys yn bennaf mudiadau trydydd sector fel darparwyr cyllid cymunedol gan gynnwys undebau credyd, Sefydliadau Ariannol Datblygu Cymunedol (CDFIs), grwpiau cymunedol a diddordeb arbennig, elusennau, cymdeithasau tai ac asiantaethau cynghori. Mae cryn le i ddefnyddio asedau segur i gefnogi gweithgareddau cynhwysiant ariannol a ddarperir gan y grŵp budd-ddeiliad hwn.
Ar ôl gweithredu nifer o fesurau ymateb i argyfwng eisoes mewn ymateb i bandemig COVID-19, mae Cynllun Cyflenwi Cymru bellach yn canolbwyntio ar weithgareddau sy’n cefnogi adferiad o’r pandemig ac sy’n lliniaru pwysau parhaus o ran costau byw, tra’n cynnal ffocws ar gyflawni uchelgeisiau tymor hwy. Mae’n argymell gweithredu ar draws nifer o themâu lle gallai asedau segur helpu i wneud gwahaniaeth. Dyma rai o’r awgrymiadau ynghylch sut y gellid defnyddio arian o asedau segur i wneud gwahaniaeth yn y maes hwn:
Cenedl o Gynilwyr
Mae angen ail-gysylltu pobl yn yr arferiad o gynilo. Mae gan wahanol bobl wahanol anghenion trwy gydol eu hoes, a deall beth sy'n eu hysgogi i gynilo ar yr adegau pwysig yn eu bywydau yw lle mae'r cyfleoedd. Mae'n bosibl y bydd cyfle i dargedu cynilwyr 'wedi llithro'n ôl', a ddiffinnir yn fras fel pobl sydd wedi cael yr arferiad cynilo ac y gellir eu hailgysylltu â'r broses o gynilo. Yn dilyn pandemig COVID-19, mae pobl ar yr incwm isaf yn llawer mwy tebygol o fod wedi gorfod rhedeg i lawr eu cynilion oherwydd amrywioldeb incwm a phwysau eraill.
Cyfrif Credyd
Mae symud pobl i ffwrdd o ddefnyddio credyd cost uchel mewn ffordd anghynaladwy neu broblemus yn ganolog i'r agenda cynhwysiant ariannol. Mae pobl ar incwm isel ddwywaith yn fwy tebygol na'r rhai ar incwm uwch o ddefnyddio credyd, yn enwedig cardiau credyd, i dalu am fwyd a hanfodion eraill. Mae pobl ar incwm is hefyd yn talu gormod am y credyd y maent yn ei ddefnyddio ac maent yn fwy tebygol o fod â chofnodion credyd gwael sy'n eu gwneud yn anneniadol i fenthycwyr prif ffrwd. Gall hyn eu gyrru tuag at gredyd cost uchel, tymor byr, amhriodol ac anghyfreithlon, sy’n aml yn cael ei farchnata mewn ffordd sy’n tanddatgan cost wirioneddol ad-daliadau. Nid yw llawer o bobl yn rheoli credyd yn gynaliadwy, sydd eto’n arwain at ail-ddefnyddio credyd ar gyfer hanfodion.
Gwell Cyngor ar Ddyledion
Cynyddodd COVID-19 nifer y bobl a oedd yn ceisio cyngor ar ddyledion yn sylweddol, yn aml am y tro cyntaf. Dim ond trwy ddod ag amrywiaeth o ffrydiau gwaith budd-ddeiliad at ei gilydd y gellir cyflawni nod y cynllun gweithredu o 60,000 o bobl yn cael mynediad at gyngor gwell ac nid yw wedi'i gyfyngu i'r sector ariannol yn unig. Mae angen cymorth cyfannol ar bobl i nodi a mynd i'r afael ag achosion sylfaenol problemau ariannol, gan gynnwys materion nad ydynt yn ymwneud â dyled yn benodol. Mae’n rhaid cyflwyno arloesedd a dulliau cyflawni newydd, yn enwedig dulliau sy’n hybu mynediad cynnar at wybodaeth a chyngor diduedd, er mwyn cyrraedd cymaint o’r rheini sydd angen cymorth â phosibl.
Cwestiynau
C5. A ydych yn credu y dylid defnyddio arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru hefyd i gefnogi mesurau i hybu cynhwysiant ariannol?
C6. A oes unrhyw faterion penodol yn ymwneud â chynhwysiant ariannol y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy?
6. Gweithredu cymunedol
Diben arfaethedig: datblygu cyfalaf cymdeithasol i annog Cymru o gymunedau cydlynol lle gall pobl weithredu a gwneud y pethau sydd o bwys iddynt.
Cymunedau yw asgwrn cefn Cymru. Ar eu gorau, maen nhw’n rhoi ein hymdeimlad o berthyn a hunaniaeth i ni, ac oddi mewn iddyn nhw gall pawb weithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â phroblemau cyffredin a gwella cyd-lesiant. Yn ddelfrydol, mae ganddynt y cyfleusterau, yr amwynderau a'r adnoddau sy'n ganolog i amgylchedd cymunedol cefnogol.
Gweithredu cymunedol yw’r camau y mae pobl yn eu cymryd yn eu cymunedau i wella’r gymuned a llesiant unigolion. Mae gweithredu cymunedol yn amrywiol ei natur a gall gynnwys gweithgareddau megis gerddi cymunedol, gweithgareddau cymdeithasol cymunedol megis sioe bentref, mentrau cymdeithasol megis caffi cymunedol neu rwydweithiau cefnogi megis clybiau chwaraeon neu gymdeithasol. Y ffactor cyffredin yw bod y gweithgaredd yn wirfoddol ei natur ac yn darparu buddion cyhoeddus sy'n gwella gallu'r gymuned i gefnogi llesiant unigolion.
Yn anffodus, nid oes gan bob cymuned gyfran gyfartal o'r cyfalaf ffisegol a dynol sydd ei angen arnynt i ffynnu. Mae cyfalaf ffisegol, megis yr adeiladau neu'r cyfleusterau, yn angenrheidiol i alluogi cymunedau i ffynnu, fel y mae cyfalaf dynol, y sgiliau neu'r profiad unigol sy'n gyrru gweithredu cymunedol. Mewn ymchwil a gyhoeddwyd yn ddiweddar, mae’r Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau wedi mapio a graddio cymunedau ledled Cymru gyfan ar gyfer presenoldeb asedau dinesig, lefelau ymgysylltu cymunedol, a’u cysylltedd mewn perthynas â swyddi, trafnidiaeth ac isadeiledd TG. Mae wedi dangos bod cymunedau sydd â llai o leoedd i gyfarfod, sy’n ymgysylltu llai a gyda chysylltedd gwaeth yn profi canlyniadau gwahanol iawn o gymharu â chymunedau sydd â mwy o’r asedau hyn (Resilient Communities: meeting the challenge of being at the margins – Ymddiriedolaeth Adeiladu Cymunedau).
Er bod pandemig COVID-19 wedi amlygu effaith yr anghydraddoldeb hwn, roedd hefyd yn dangos rôl hanfodol grwpiau gwirfoddol a chymunedol o fewn cymunedau. Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos pwysigrwydd dulliau cydgysylltiedig sy’n gwerthfawrogi, yn deall ac yn cydnabod rôl bwysig y sector gwirfoddol a chymunedol wrth weithio gyda dinasyddion i gyd-gynllunio a chyd-ddarparu cymorth cymunedol gwirfoddol cynaliadwy sy'n cysylltu'n dda â gwasanaethau cyhoeddus presennol (Taith tuag at Cymru o gymunedau cydlynus – Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru).
Gellir dadlau bod y cyfalaf cymdeithasol hwn yn rhan annatod o greu'r amgylchedd cymunedol cefnogol sydd ei angen ar gymunedau i addasu a ffynnu. Mae cyfalaf cymdeithasol yn cael ei fesur gan asedau diriaethol megis adeiladau, neu asedau anniriaethol megis i ba raddau y mae pobl yn teimlo'n ddiogel mewn cymuned ac yn ymddiried yn eu cymdogion. Mae asedau o'r fath yn nodweddion allweddol o gymuned gydlynol, ochr yn ochr â phresenoldeb mudiadau cryf, lleol a mudiadau gwirfoddol a arweinir gan y gymuned, y cyfeirir atynt yn aml fel 'mudiadau angori cymunedol'. Mae mudiadau o'r fath yn deall cymunedau lleol ac mae ganddynt ymrwymiad hirdymor i'r ardal y maent yn ei gwasanaethu. Os ydym am gefnogi dyhead Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i greu Cymru o gymunedau cydlynol, yna mae cymorth i ddatblygu cyfalaf cymdeithasol yn hollbwysig.
Mae ymchwil gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn nodi pwysigrwydd adeiladu’r cyfalaf hwn drwy rymuso cymunedau i wneud y pethau sy’n bwysig iddynt. Mae datgloi sgiliau, profiad o lygad y ffynnon, egni ac ymrwymiad y rhai sy'n byw mewn cymunedau yn hanfodol i adeiladu cyfalaf cymdeithasol, ac yn rhy aml gall gwasanaethau cyhoeddus greu rhwystrau i gymunedau rhag gwneud pethau drostynt eu hunain trwy ddad-gymell ysbryd cymunedol entrepreneuraidd.
Gellid defnyddio arian asedau segur i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n bodoli rhwng cymunedau yng Nghymru, boed yn gymunedau daearyddol neu’n gymunedau o ddiddordeb, drwy gefnogi datblygiad cyfalaf cymdeithasol lle mae ei angen drwy gymysgedd o ddulliau seiliedig ar le, datblygu cymunedol, a chymorth i fudiadau angori.
Cwestiynau
C7. A ydych yn credu y dylid defnyddio arian o’r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru hefyd i gefnogi mesurau i hybu gweithredu cymunedol?
C8. A oes unrhyw faterion penodol yn ymwneud â gweithredu cymunedol y credwch ei bod yn arbennig o bwysig i gronfeydd asedau segur yng Nghymru fynd i’r afael â hwy?
7. Dewisiadau
Fel y nodwyd yn adran un, er bod y ddogfen ymgynghori hon yn rhestru pedwar diben gwariant posibl, mae Llywodraeth Cymru yn annhebygol o fabwysiadu'r pedwar. Er bod pob un yn bwysig, byddem yn croesawu eich barn ynghylch pa un o'r pedwar diben sydd bwysicaf yn eich barn chi.
Os hoffech gynnwys unrhyw wybodaeth neu syniadau pellach yn ymwneud â’r defnydd o asedau segur yng Nghymru, byddai gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb hefyd mewn clywed y safbwyntiau hyn. Mae’n deall y gallai fod gennych awgrymiadau eraill o ran sut y gellid defnyddio cyllid asedau segur yng Nghymru, ond mae’n bwysig nodi’r cyfyngiadau ar yr arian sydd ar gael a’r angen i flaenoriaethu.
Os dymunwch wneud awgrymiadau eraill, dylent fodloni’r meini prawf a nodir gan Lywodraeth Cymru yn adran un:
- yn seiliedig ar dystiolaeth;
- yn gallu mesur effaith;
- yn gallu gwrthsefyll llifoedd ariannu ansicr;
- yn ychwanegol at arian y llywodraeth; ac
- yn cyd-fynd â blaenoriaethau’r llywodraeth.
Bydd yr holl ymatebion a gaiff Llywodraeth Cymru yn helpu i lywio penderfyniadau ar ffocws eang blaenoriaethau Cymru ar gyfer asedau segur. Fel y nodwyd eisoes, mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb yn y dibenion y dylid defnyddio’r arian ar eu cyfer, nid y ffordd y dylai’r arian gael ei ryddhau neu ei ddosbarthu gan TNLCF.
Cwestiynau
C9. Rhowch y pedwar diben gwariant arfaethedig yn nhrefn pwysigrwydd a pherthnasedd i chi.
C10. Os hoffech awgrymu dibenion gwariant posibl eraill ar gyfer y Cynllun Asedau Segur yng Nghymru, amlinellwch nhw yma yn unol â'r meini prawf a nodir ym mharagraff 7.3.
8. Y Gymraeg
Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â’r dibenion gwariant ar gyfer arian asedau segur yng Nghymru. Fel y cyfryw, nid yw’n effeithio ar ddarpariaeth gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg, na gallu pobl i gyfathrebu yn Gymraeg. Byddai Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, yn disgwyl i unrhyw gymorth a gynigir drwy'r Cynllun Asedau Segur yng Nghymru gael ei ddarparu yn unol â Safonau'r Gymraeg TNLCF.
Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiynau
C11. Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol dibenion gwario arian asedau segur ar y Gymraeg? Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
- A ydych yn credu bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
- A ydych yn credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?
C12. Yn eich barn chi, a ellid llunio dibenion gwario arian asedau segur er mwyn:
- cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; neu
- lliniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?
9. Materion eraill
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn nifer o gwestiynau fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, ond mae’n bosibl iawn eich bod am godi materion eraill hefyd.
Cwestiynau
C13. A oes gennych unrhyw sylwadau eraill ar ein cynigion neu unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt?
Atodiad a: Cyfarwyddiadau a roddir i'r gronfa loteri fawr o dan adran 22 deddf cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu segur 2008 mewn perthynas â gwariant yng nghymru
Cyfarwyddiadau a roddir i'r gronfa loteri fawr o dan adran 22 deddf cyfrifon banc a chymdeithas adeiladu segur 2008 mewn perthynas â gwariant yng nghymru
Trwy hyn mae Gweinidogion Cymru, wrth weithredu'r pwerau a gyflwynwyd iddynt gan adran 22 Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithas Adeiladu Segur 2008 ac ar ôl ymgynghori â'r Gronfa Loteri Fawr (yn gweithredu fel Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac a gyfeirir ati o hyn ymlaen fel "Y Gronfa), yn rhoi'r cyfarwyddiadau a ganlyn i'r Gronfa:
Cyfarwyddiadau cyffredinol
1. Wrth benderfynu i bwy y mae'n dosbarthu arian o gyfrifon segur mewn perthynas ag arian Cymru, at ba bwrpas ac o dan ba amodau, rhaid i'r Gronfa gydymffurfio â'r canlynol:
A. Ystyried egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, yn enwedig:
- gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru
- annog cyrff cyhoeddus i feddwl mwy am yr hir dymor, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd
- atal problemau a chymryd ymagwedd fwy cyd-gysylltiedig
- y pum dull o weithio: hir dymor; atal; integreiddio; cydweithio; cymryd rhan
- saith nod llesiant.
B. Sicrhau bod arian yn cael ei ddosbarthu i brosiectau sy'n hyrwyddo lles cyhoeddus a chymdeithasol ac nad yw wedi'i fwriadu'n bennaf er budd preifat.
C. Sicrhau bod arian yn cael ei ddosbarthu i brosiectau sy'n gwneud gwelliannau cynaliadwy i ansawdd bywyd cymunedau lleol.
D. Sicrhau bod y Gronfa yn dosbarthu arian i ystod eang o brosiectau a ddarperir yn bennaf gan y trydydd sector. Dylai hyn gynnwys mudiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan gynnwys mentrau cymdeithasol. Mewn sefyllfaoedd eithriadol, gellir dosbarthu arian i awdurdodau lleol neu gyrff statudol eraill lle mae prosiect yn cynnwys partneriaeth neu gonsortiwm, a bod y corff statudol yn gweithredu mewn swyddogaeth gydlynu.
E. Cydbwyso annog arloesedd â rheoli risg.
F. Hyrwyddo a chefnogi'r Gymraeg, gan adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru trwy:
- gweithio yn ôl yr egwyddor o beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na Saesneg yn holl weithgareddau'r Gronfa yng Nghymru
- gweithredu yn unol â Safonau'r Gymraeg a'n Cynllun Iaith Gymraeg, mewn partneriaeth â Chomisiynydd y Gymraeg.
G. Y pennir cyfyngiadau amser ar y cyfnodau y mae grantiau'n daladwy, boed hynny ar gyfer gwariant cyfalaf neu refeniw.
H. Sicrhau bod yr ymgeiswyr yn dangos dichonoldeb ariannol y prosiect dros gyfnod y grant.
I. Sicrhau bod y Gronfa'n gweithio gyda mudiadau eraill lle mae hon yn fodd effeithiol o ddarparu elfennau o arian cyfrifon segur yng Nghymru.
J. Sicrhau bod gan y Gronfa'r wybodaeth angenrheidiol i wneud penderfyniadau ar bob cais, gan gynnwys cyngor arbenigol annibynnol lle bo angen.
K. Cynnwys amod ym mhob dyfarniad bod derbynwyr yn cydnabod arian cyfrifon segur ac yn defnyddio brandio Cynllun Cyfrifon Segur y cytunwyd arno.
L. Mabwysiadu ymagwedd seiliedig ar ganlyniadau, gan gydweithio'n agos â phartneriaid priodol i gyflawni'r patrwm buddsoddiad gorau er budd cymunedau ledled Cymru.
M. Wrth ddosbarthu arian cyfrifon segur, mae'n rhaid i'r Gronfa ystyried buddion Cymru'n gyffredinol, buddion rhannau gwahanol o Gymru a meintiau poblogaeth cymharol, ac i ba raddau y gellir lleihau amddifadedd economaidd a chymdeithasol mewn rhannau gwahanol o Gymru.
Cyfarwyddiadau penodol
2. Rhaid i'r Gronfa gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau penodol canlynol wrth benderfynu ar y personau y mae'n rhoi grantiau iddynt ac at ba bwrpas.
A. Rhaid i'r Gronfa weithredu'n unol â'r cyfyngiadau a ragnodir sydd wedi'u disgrifio yng Ngorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithas Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau a Ragnodir) (Cymru) 2010 ac yn unol â'r themâu a ganlyn:
- Cefnogi plant a phobl ifanc i gyrraedd eu llawn botensial trwy weithio trwy'r trydydd sector i hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol a dileu'r rhwystrau i ddatblygiad personol a chyflogaeth.
- Mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a hyrwyddo datblygu cynaliadwy ehangach trwy weithgareddau cymunedol â ffocws.
B. Rhaid i'r Gronfa ystyried y buddion ehangach y gall ceisiadau eu cynnig, yn enwedig eu potensial i ddenu arian o ffynonellau eraill (e.e. cyllid cyfatebol) a'r cyfraniad y gallant ei wneud i bolisïau a strategaethau Llywodraeth Cymru.
Rhestr termau
Yr Egwyddor Ychwanegedd
Yr egwyddor mai dim ond ar brosiectau na fyddai fel arall yn cael eu hariannu gan wariant y llywodraeth y dylid gwario arian a godir o asedau segur.
Cyfrif segur ac ased segur
Eitem adnabyddadwy ac y gellir ei phriodoli, wedi'i phrisio fel swm ariannol neu y gellir ei phrisio felly, na all cyfranogwr ei hailuno â'i pherchennog er gwaethaf ymdrechion rhesymol.
Y Cynllun Asedau Segur
Cynllun sy’n caniatáu i fanciau a chymdeithasau adeiladu dalu asedau segur i Reclaim Fund sydd wedyn yn rhoi’r arian hwn tuag at ariannu achosion da.
Achos da
Mudiad neu weithgaredd cymdeithasol ddefnyddiol nad yw'n cael ei reoli er mwyn gwneud elw.
Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dosbarthu dros £600m y flwyddyn, a godir gan chwaraewyr Y Loteri Genedlaethol, i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn dosbarthu'r arian a godir drwy'r Cynllun Asedau Segur.
Cyfarwyddiadau polisi
Cyfarwyddiadau cyfreithiol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar sut y dylid gwario’r arian achosion da a godir o asedau segur yng Nghymru.
Reclaim Fund Ltd
Reclaim Fund Ltd (RFL) yw gweithredwr Cynllun Asedau Segur y DU. Wedi'i awdurdodi a'i reoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA), mae RFL yn ei gwneud hi'n bosibl i arian mewn asedau ariannol segur helpu mentrau cymdeithasol ac amgylcheddol ledled y DU. Mae'n trosglwyddo arian i'w wario ar achosion da i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Dibenion gwariant
Y dibenion bras ar gyfer dosbarthu arian asedau segur i gwrdd â gwariant Cymru. Ar hyn o bryd, pobl ifanc a newid hinsawdd yw hyn.
Sut i ymateb
Gallwch gyflwyno eich ymateb erbyn hanner nos ar 28 Chwefror 2024, gan ddefnyddio unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a'i hanfon drwy e-bost i: cyllidasedausegur@llyw.cymru. Cofio cynnwys y cyfeirnod WG46145 yn llinell bwnc eich e-bost
- lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb i'r ymgynghoriad a'i hanfon drwy'r post i'r cyfeiriad a nodir isod.
Ymgynghoriad Asedau Segur
Is-adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR y DU)
Bydd Llywodraeth Cymru yn rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol y byddwch yn ei ddarparu yn rhan o'ch ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu'r data personol hwn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus ynghylch sut y byddant yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru yn delio â'r materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol. Lle mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â dadansoddiad pellach o ymatebion i ymgynghoriad yna gellir comisiynu'r gwaith hwn i'w wneud gan drydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori). Dim ond o dan gontract y bydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud. Roedd telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn amlinellu gofynion llym o ran prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi'i gynnal yn iawn, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae'n bosib y byddwn hefyd yn cyhoeddi ymatebion yn llawn. Fel arfer, mae enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda'r ymateb. Os nad ydych am i'ch enw neu eich cyfeiriad gael ei gyhoeddi, dywedwch hyn wrthym yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Yna byddwn yn eu hadactio cyn cyhoeddi.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau yn sgil deddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth
Os yw eich manylion yn cael eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, yna bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Bydd unrhyw un o'ch data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael ei gadw am ddim mwy na thair blynedd.
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i gael gwybod am y data personol a gedwir amdanoch chi ac i gael mynediad iddo
- i’w wneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw
- i (mewn amgylchiadau penodol) wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu
- i’ch data (o dan amgylchiadau penodol) gael ei 'ddileu'
- i (mewn amgylchiadau penodol) gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i’r Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Am fanylion pellach am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
e-bost: data.protectionofficer@gov.wales
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire SK9 5AF
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan: ico.org.uk
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Am ragor o wybodaeth:
Ymgynghoriad Asedau Segur
Is-adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: cyllidasedausegur@llyw.cymru