Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Gweinidog Iechyd wedi cyhoeddi heddiw (dydd Mawrth 7 Gorffennaf) y bydd ymgyngoriadau fideo yn cael eu hymestyn i bractisau deintyddol, i optegwyr ac i fferyllfeydd cymunedol. Daw hyn ar ôl cyflwyno’r gwasanaeth yn llwyddiannus mewn gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal eilaidd yn ystod y pandemig coronafeirws.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ymgyngoriadau fideo wedi ehangu’n gyflym yn ystod y misoedd diwethaf ac wedi helpu i drawsnewid y ffordd y bydd pobl yn cael mynediad at wasanaethau gofal iechyd yn ystod yr ymateb i COVID-19. Hyd yma, cynhaliwyd dros 6,400 o ymgyngoriadau fideo gyda meddygon teulu a thros 8,800 o ymgyngoriadau fideo i gefnogi gofal cymunedol a gofal eilaidd. Mae 92% o’r cleifion sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth wedi dweud ei fod yn rhagorol, yn dda iawn neu’n dda.

Mae ymgyngoriadau fideo wedi galluogi i wasanaethau hanfodol barhau, gan ddiogelu cleifion a gweithwyr y GIG rhag risg cynyddol o haint. Mae gwerthusiad o’r gwasanaeth wedi dangos bod ymgyngoriadau fideo wedi arbed 36,000 milltir o deithio a 1,200 awr o amser teithio. Mae hefyd wedi lleihau allyriadau CO2 cymaint â naw tunnell.

Cynhelir cynllun peilot ym mis Gorffennaf i ymestyn y gwasanaethau i ddeintyddiaeth, optometreg a fferyllfeydd cymunedol sydd wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau ychwanegol, gan gynnwys pobl sydd eisiau cyngor am fân anhwylderau.

Mae cyflwyno mesurau cadw pellter cymdeithasol wedi golygu nad yw rhai gwasanaethau wedi cael eu cynnig a bydd ymgyngoriadau fideo yn helpu i gefnogi ailgyflwyno’r gwasanaethau hyn.

Bydd ymgyngoriadau fideo yn galluogi fferyllfeydd cymunedol i roi cyngor ar gyfer mân anhwylderau a gwasanaethau atal cenhedlu brys. Bydd hefyd yn galluogi fferyllfeydd i gynnal Adolygiad o Feddyginiaethau wrth Ryddhau a rhoi cymorth i bobl sydd eisiau rhoi’r gorau i ysmygu.

Mewn deintyddiaeth, bydd ymgyngoriadau fideo yn cefnogi ymgyngoriadau cyn ymweld i gael dealltwriaeth o hanes meddygol y claf a galluogi asesiad clinigol.

Bydd optometreg yn manteisio o gynnal ymgyngoriadau fideo drwy eu defnyddio i wneud gwiriadau cyn ymweld ar hanes meddygol y claf. Byddant hefyd yn cefnogi brysbennu gydag archwiliad o gloriau llygaid yr unigolyn. Gellir defnyddio ymgyngoriadau fideo hefyd i alluogi i offthalmolegydd arbenigol ymuno yn yr ymgynghoriad.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:

“Mae darparu gofal yn nes at y cartref drwy ddefnyddio technoleg wedi bod yn rhan allweddol o'r cynllun Cymru Iachach ers y dechrau, gan ddarparu gofal
iechyd i gymunedau y tu allan i’r ysbyty, a hynny yng nghartrefi pobl os yw’n bosibl.

“Mae’r pandemig coronafeirws wedi golygu y bu’n rhaid inni ehangu ac addasu ein gwasanaethau yn gyflym. Mae ymgyngoriadau fideo wedi ein galluogi i oresgyn yr heriau a ddaw yn sgil cadw pellter cymdeithasol. Mae gwasanaethau ymgyngoriadau fideo wedi’u rhoi ar waith yn gyflym ac mae’r diolch i GIG Cymru am weithio i ddarparu’r gwasanaeth yn gynt na’r disgwyl i gefnogi eu cleifion.

“Mae miloedd o bobl eisoes wedi cael gofal dros ymgyngoriadau fideo. Mae’n bleser gennyf ymestyn y gwasanaeth hwn i ddeintyddiaeth, optometreg a fferyllfeydd cymunedol a fydd yn golygu y gall mwy fyth o bobl fanteisio ar y gwasanaeth.”