Angen penderfyniad:

Mae’r papur hwn yn egluro’r gwaith sy’n cael ei wneud ar draws y llywodraeth i gryfhau ac ymestyn rhianta corfforaethol ar gyfer plant sydd â phrofiad o ofal.

Gofynnir i’r Cabinet nodi goblygiadau’r rhaglen waith hon, a beth y gall dull newydd o rianta corfforaethol ei gyflawni i alluogi ymateb gwell gan sector cyhoeddus Cymru i anghenion plant â phrofiad o ofal.

Crynodeb

  1. Gofynnir i’r Cabinet:
    • Gytuno ar yr egwyddor bod angen mwy o berchnogaeth ar gyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar draws y sector cyhoeddus i gyd i sicrhau gwell canlyniadau i blant â phrofiad o ofal.
    • Nodi’r rhaglen waith helaeth sy’n cael ei chynnal i wella ac ymestyn rhianta corfforaethol trwy ymgysylltu cadarnhaol, gan gynnwys datblygu Siarter a chryfhau canllawiau statudol perthnasol.
    • Cytuno y gall pob maes portffolio Gweinidogol gyfrannu at ddull newydd o rianta corfforaethol.

Cyd-destun strategol

  1. Mae’r Rhaglen Lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, yn ymrwymo i “edrych ar ffyrdd o sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â phlant eraill ac addasu’r ffordd y maent yn derbyn gofal, os oes angen”. Atgyfnerthir hyn gan ein strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb, ble mae gofal cymdeithasol yn un o’r pum maes blaenoriaeth, gyda chamau i:
    • wella cyrhaeddiad addysgol a chyfleoedd bywyd plant sydd mewn gofal, gan roi lle canolog i’r plentyn, drwy sicrhau bod gwasanaethau addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a gwasanaethau eraill, yn cydweithio.
    • cryfhau gwasanaethau ar ffiniau gofal er mwyn rhoi cymorth amserol i deuluoedd a lleihau’r niferoedd y mae angen darparu gofal ar eu cyfer a chynnig cymorth yn y cyfnod allweddol o newid ar ôl i blant sy’n gadael gofal gyrraedd 16 oed, er mwyn iddynt fedru manteisio ar addysg bellach a dod o hyd i swyddi a thai.
  2. Er mwyn gwella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal, mae’n ofynnol bod yr holl wasanaethau cyhoeddus yn perchenogi eu priod gyfrifoldebau rhianta corfforaethol – gan gydweithio i ddiogelu a hybu cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.
  3. Gwyddom nad yw plant sy’n tyfu mewn gofal yn gwneud cystal yn yr ysgol â llawer o’u cyfoedion. Mae gwella cyrhaeddiad addysgol a rhoi cymorth wedi’i integreiddio’n well yn sylfaen allweddol bwysig er mwyn gwella canlyniadau o ran cyfleoedd bywyd. Gwyddom hefyd fod y rhai sy’n gadael gofal yn wynebu risg arbennig o ddod yn ddigartref ac mae’n fwy tebygol y bydd eu plant yn derbyn gofal. Mae disgwyl i’r rhai sy’n gadael gofal ddod yn annibynnol ac yn hunangynhaliol yn llawer cynharach na’u cymheiriaid nad ydynt wedi bod mewn gofal, sy’n cyflymu eu proses bontio o ran dod yn oedolion. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan rai sy’n gadael gofal lety â chymorth fel llwyfan i fyw’n annibynnol a chael pob cyfle i sicrhau cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant.
  4. Fel rhan o’r sgyrsiau rydym wedi bod yn eu cynnal gydag awdurdodau lleol i drafod blaenoriaethau’r Prif Weinidog i leihau nifer y plant mewn gofal, amlygwyd rhianta corfforaethol ac ymatebolrwydd asiantaethau allweddol gan gynnwys Iechyd a’r system gyfiawnder fel blaenoriaeth.

Y sefyllfa bresennol a’r achos dros newid

  1. Mae’r cysyniad o rianta corfforaethol – cydgyfrifoldeb pawb mewn awdurdodau lleol i ddiogelu a hybu llesiant plant sy’n derbyn gofal – yn hen gyfarwydd. Mae adran 78 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gosod dyletswydd ar awdurdod lleol i ddiogelu a hybu llesiant pob plentyn yn ei ofal. O dan adrannau 104-118, mae dyletswyddau tebyg ar awdurdod lleol i hybu llesiant y rhai sy’n gadael gofal.
  2. Rôl rhiant corfforaethol yw ceisio sicrhau’r canlyniadau y byddai pob rhiant da eu heisiau ar gyfer eu plant eu hunain i blant mewn gofal cyhoeddus. Mae gan awdurdodau lleol yng Nghymru ddyletswydd gyfreithiol a moesol i ddarparu cefnogaeth o’r fath i’r plant y mae’n gofalu amdanynt. Mae gan Aelodau Etholedig gyfrifoldeb i sicrhau bod plant sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn gallu ffynnu, yn cael eu meithrin, eu cefnogi, eu haddysgu a’u paratoi ar gyfer bywyd fel oedolyn yn yr un modd ag y byddai unrhyw riant ei eisiau ar gyfer eu plant eu hunain.
  3. Er bod awdurdodau lleol yng Nghymru o ddifrif ynglŷn â chyfrifoldeb rhianta corfforaethol, fe’i gwelir yn aml fel swyddogaeth ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol plant ac aelodau etholedig, yn hytrach na chyfrifoldeb sy’n pontio swyddogaethau’r awdurdod cyfan. Ein bwriad polisi yw cryfhau rhianta corfforaethol ar draws pob adran yn yr awdurdod lleol, er mwyn galluogi gwell gweithio mewn partneriaeth a gwell pontio rhwng gwasanaethau a ddarperir ar gyfer plant â phrofiad o ofal, mewn perthynas ag addysg neu dai, er enghraifft.
  4. Mae plant â phrofiad o ofal yn ymgysylltu â phob math o wasanaethau cyhoeddus y tu allan i awdurdodau lleol hefyd ac angen eu cefnogaeth, mewn meysydd datganoledig a rhai heb eu datganoli - h.y. y GIG, yr Heddlu a’r system gyfiawnder. Rydym am ehangu’r cysyniad o rianta corfforaethol ar draws yr holl asiantaethau allweddol sy’n darparu gwasanaethau i blant â phrofiad o ofal, er mwyn meithrin atebolrwydd a sicrhau bod plant â phrofiad o ofal yn cael yr ymateb a’r gefnogaeth orau gan y gwasanaethau hyn.
  5. Mae plant â phrofiad o ofal yn ymgysylltu’n rheolaidd ag asiantaethau preifat fel Asiantaethau Maethu Annibynnol, sefydliadau Addysg Uwch ac Addysg Bellach, Cymdeithasau Tai, Trafnidiaeth Cymru a darparwyr prentisiaethau a hyfforddeiaethau. Er y bydd gan y sefydliadau hyn ddatganiadau gweledigaeth clir neu ddatganiadau cefnogaeth wedi’u mynegi’n glir ar gyfer grwpiau agored i niwed yn eu cyfansoddiadau, rydym am ymgynghori ac ymgysylltu â’r holl bartneriaid i nodi cynnig rhianta corfforaethol unigryw pob sefydliad ar gyfer plant â phrofiad o ofal.
  6. Trwy’r rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant, mae swyddogion ar draws y llywodraeth a phartneriaid o sectorau eraill eisoes yn bwrw ymlaen â mentrau amrywiol a fydd yn ychwanegu gwerth at rianta corfforaethol, yn cynyddu ei gyrhaeddiad ac yn helpu i’w gryfhau. Enghreifftiau o hyn yw’r grŵp gwasanaethau cymdeithasol ac addysg ar y cyd sy’n archwilio’r model ysgolion rhithwir, y grŵp gwasanaethau cymdeithasol a thai ar y cyd sy’n gweithio i ehangu’r ddarpariaeth dai a’r mathau o ddarpariaeth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal a gweithio gyda’r maes iechyd fel bod plant a theuluoedd yn cael mynediad cynharach a gwell at gymorth therapiwtig.

Rhaglen o ymgysylltu a gweithgarwch

  1. Dros y flwyddyn nesaf, rydym yn cychwyn ar raglen helaeth o waith a gweithgarwch ymgysylltu i ddatblygu dull newydd ‘diwygiedig’ o rianta corfforaethol. Mae’r dull newydd yn canolbwyntio ar wneud pethau’n wahanol ac yn unol â galluoedd gorau sefydliadau, gan gynnwys y siarter y cyfeirir ato isod. Bydd elfennau eraill yn ymwneud â chryfhau’r hyn sydd eisoes ar waith trwy gynyddu ymwybyddiaeth ac ehangu gwybodaeth am rolau a chyfrifoldebau sefydliadau.

Ymgynghori a siarter gwirfoddol

  1. Ym mis Chwefror 2020, byddwn yn cychwyn ar ymgynghoriad 12 wythnos i alluogi sgwrs genedlaethol am rôl cyrff cyhoeddus a phreifat wrth gefnogi gwell canlyniadau i blant â phrofiad o ofal. Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio canfod term gwell hefyd sy’n haws i’w ddeall gan bawb na ‘rhianta corfforaethol’, a beth allai hyn ei olygu i gyrff y tu allan i awdurdodau lleol.
  2. Byddwn yn ceisio ymgysylltu’n llawn â charfan eang o blant â phrofiad o ofal i nodi beth mae rhianta corfforaethol yn ei olygu iddyn nhw a’u disgwyliadau o’r gwasanaethau maen nhw’n ymgysylltu â nhw’n rheolaidd. Gan weithio gyda’r garfan hon, byddwn yn ceisio cyd-gynhyrchu Siarter gwirfoddol i alluogi sefydliadau i gofrestru eu hymrwymiad a’u cynnig unigryw i blant â phrofiad o ofal. Bydd y Siarter gwirfoddol hwn yn galluogi’r holl randdeiliaid, ar draws y sector cyhoeddus a phreifat a’r cylchoedd datganoledig a heb eu datganoli, i ymrwymo i ddatganiad cyffredin o well cefnogaeth a gweithredu wrth weithio gyda phlant â phrofiad o ofal. Rhagwelir y bydd y Siarter yn caniatáu i’r rhai sy’n ymrwymo iddo ddisgrifio sut y maent yn ymgysylltu â phlant â phrofiad o ofal a’r hyn y maent yn bwriadu ei wneud yn wahanol neu’n ei gynnig yn ychwanegol i blant â phrofiad o ofal yn y dyfodol.

Cryfhau ac ymestyn y ddeddfwriaeth

  1. Er mwyn adeiladu ar y cytundebau fel y’u nodir yn y Siarter gwirfoddol, byddwn yn ceisio defnyddio ein pwerau deddfwriaethol cyfredol i gryfhau canllawiau statudol hefyd, gan egluro rolau a chyfrifoldebau ac ymestyn dyletswyddau ar draws y sector cyhoeddus. Cyflawnir hyn trwy:
    • Ddatblygu pennod ‘rhianta corfforaethol’ newydd yn ein Cod Rhan 6 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn darparu canllawiau statudol clir i bob adran mewn awdurdodau lleol ynghylch eu cyfrifoldebau a dyletswyddau tuag at blant â phrofiad o ofal.
    • Diweddaru ein Cod Rhan 9 o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a darparu canllawiau statudol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ar fater rhianta corfforaethol a galluogi gwell gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol. Mae disgrifiad manylach o oblygiadau cyfreithiol diwygiadau i Rannau 6 a 9 yn Atodiad A.
    • Ceisio ymgorffori’r cysyniad o rianta corfforaethol y tu hwnt i awdurdodau lleol. Mae pwerau cyfredol ar gael i ni o dan Ddeddf Plant 2004 a Deddf Addysg 2002 i ddatblygu canllawiau statudol i ymwreiddio rhianta corfforaethol y tu hwnt i awdurdodau lleol. Rhagwelir y bydd yr elfen hon yn cymryd oddeutu dwy flynedd.

Beth mae ymagwedd drawslywodraethol a thraws-sector yn gallu’i chyflawni

  1. Trwy ein rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar draws adrannau a sectorau’r llywodraeth i leihau nifer y plant sy’n cael eu derbyn i ofal a gwella ansawdd bywyd, canlyniadau a phrofiadau plant sydd mewn gofal. Mae gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi tynnu sylw at yr angen am weithio cadarnach mewn partneriaeth a mwy o atebolrwydd am ganlyniadau plant yn ein gofal. Mae aelodau Grŵp Cynghori’r Gweinidog wedi chwarae rhan weithredol yn hyn.
  2. Mae meysydd portffolio allweddol lle gallwn roi mwy o ffocws ar rianta corfforaethol er mwyn cryfhau cyfrifoldebau a chodi lefelau dealltwriaeth. Bydd hyn yn helpu i ddatgloi a symud ymlaen gyda materion amrywiol, er enghraifft:

Iechyd

  1. Trwy waith diweddar swyddogion gydag awdurdodau lleol i leihau nifer y plant mewn gofal, nodwyd effaith a rôl ein partneriaid iechyd ar gyfer canlyniadau plant â phrofiad o ofal fel maes allweddol o angen. Roedd rhai o’r materion a godwyd yn cynnwys:
    • plant sydd wedi profi cam-drin neu esgeulustod i dderbyn cymorth therapiwtig
    • cyflwyno asesiadau cyn genedigaeth, asesiadau iechyd plant ac adroddiadau meddygol mabwysiadu yn brydlon
    • ffocws ar ddwyster ymyrraeth a chefnogaeth i deuluoedd ar gyrion gofal neu sydd angen mwy o gefnogaeth
    • gwella gofal preswyl ‘safon uchel’ ar gyfer plant ag anghenion cymhleth
    • gwell rhannu gwybodaeth a dysgu oddi wrth arferion da
    • datblygu dewisiadau amgen i lety diogel / gwasanaethau cam i fyny / cam i lawr.

Addysg/Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes

  1. Dengys tystiolaeth nad yw plant mewn gofal yn gwneud cystal â’u cyfoedion o ran eu canlyniadau addysgol. Bydd mwy o gydnabyddiaeth o gyfrifoldebau rhianta corfforaethol ym maes addysg yn helpu i sicrhau newid sylweddol a gwella canlyniadau mewn perthynas â chyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd a dysgu gydol oes. Er enghraifft:
    • gwell ffocws ar bwysigrwydd lleoliadau ysgol sefydlog, lleihau gwaharddiadau a darparu pontio / trosglwyddo llyfn a phrydlon rhwng ysgolion
    • eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau Llywodraethwyr Ysgol mewn perthynas â disgyblion sy’n derbyn gofal a Chydgysylltwyr Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal
    • asesiad gwell o blant ag anghenion dysgu ychwanegol a gwell mynediad i gymorth lleferydd ac iaith
    • mynediad tecach a mwy cyfartal, a gwell cymorth, i blant â phrofiad o ofal mewn Addysg Bellach ac Addysg Uwch
    • gwell cyfle i gael mynediad i raglenni prentisiaeth a hyfforddeiaeth.

Tai

  1. Mae’n bwysig bod y rhai sy’n gadael gofal yn cael cefnogaeth dda wrth bontio o fywyd mewn gofal i fywyd annibynnol. Mae detholiad o opsiynau llety ar gyfer pobl sy’n gadael gofal ar gael ar hyn o bryd, ond cydnabyddir yr angen i sicrhau bod y darpariaethau a’r lefelau cefnogaeth hyn yn bodloni’r galw cyfredol. Yn ogystal, mae’r Comisiynydd Plant wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddarparu gwell mynediad at opsiynau tai diogel. Ar hyn o bryd, mae swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol a thai yn archwilio gyda rhanddeiliaid pa ddarpariaeth a chefnogaeth tai sydd eisoes yn bodoli a beth arall y gellir ei wneud.
  2. Gall cynyddu ac ehangu’r ffocws ar rianta corfforaethol helpu i hwyluso newid a gwelliant i’r rhai sy’n gadael gofal. Rydyn ni eisiau ymgysylltu â darparwyr preswyl cyhoeddus a phreifat i sicrhau bod Pan Fydda i’n Barod yn hyblyg ac yn diwallu anghenion pobl ifanc. Rydym am sicrhau bod gwell cefnogaeth tai yn cael ei gynnig i’r rhai sy’n gadael gofal i helpu i reoli risgiau a chynnal annibyniaeth. Rhaid i ddarparwyr tai fod yn ymwybodol o’r hyblygrwydd ychwanegol sy’n ofynnol i gefnogi pobl sy’n gadael gofal pan aiff pethau o chwith, darparu opsiynau amgen a helpu i osgoi troi pobl allan o’u tai yn ddiangen. Rydym am sicrhau bod y ddealltwriaeth hon yn gyffredinol.
  3. Trwy ein Siarter, rydym hefyd eisiau sicrhau ymrwymiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Comisiynydd Plant Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, Chwaraeon Cymru, yr Heddlu a Thrafnidiaeth Cymru, er enghraifft.

Effaith

  1. Trwy ymestyn cyfrifoldebau rhianta corfforaethol ar draws y sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd, rhagwelir y bydd y canlyniadau’n cynnwys gwell atebolrwydd a chyflawni’r canlynol:
    • darparu llety diogel a sefydlog ar gyfer plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal
    • canlyniadau addysgol diogel a chadarnhaol i blant â phrofiad o ofal
    • cynnydd yn nifer y rhai sydd wedi gadael gofal mewn addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
    • sicrhau bod pryderon ynghylch iechyd corfforol, iechyd meddyliol a chamddefnyddio sylweddau yn cael eu nodi’n fuan ac yr eir i’r afael â nhw’n gyflym
    • llai o blant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal yn mynd i’r systemau cyfiawnder ieuenctid a chyfiawnder troseddol.
  1. O 2021 ymlaen, bydd arolwg plant cenedlaethol yn dod yn rhan o’r Fframwaith Canlyniadau Plant. Disgwylir y bydd yr arolwg yn cael ei gynnal bob dwy flynedd ac y bydd yn darparu darlun gwerthfawr o’r ffordd mae sefydliadau’n cefnogi ac yn ymateb i anghenion plant a phobl ifanc â phrofiad o ofal, gan gyflawni eu dyletswyddau fel rhieni corfforaethol da.
  2. Yn y pen draw, rydym eisiau i blant â phrofiad o ofal deimlo eu bod yn derbyn gofal o safon, yn cael eu trin yn dda a’u cefnogi gan yr holl oedolion a gwasanaethau allweddol ym mhob agwedd ar eu bywydau. Mae ein dull o ymestyn rhianta corfforaethol ar draws yr holl wasanaethau cyhoeddus yn cael ei gefnogi gan blant â phrofiad o ofal eu hunain. Mae mabwysiadu dull sy’n cwmpasu’r sector cyhoeddus yn ei gyfanrwydd yn cyd-fynd â’n bwriadau polisi a welir yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb.

Cyfathrebu a chyhoeddi

  1. Mae swyddogion yn fodlon i’r Papur Cabinet hwn gael ei gyhoeddi o fewn chwe wythnos i gyflwyno’r Papur Cabinet. Nid oes unrhyw weithgaredd cyfathrebu ffurfiol wedi’i gynllunio o ganlyniad i’r papur hwn. Mae’r gwaith hwn yn elfen allweddol o waith o fewn y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant a’i Grŵp Gorchwyl a Gorffen Rhianta Corfforaethol, dan gadeiryddiaeth David Melding AC. Bydd Grŵp Cynghori’r Gweinidog yn cael gwybod am ddatblygiadau a chamau gweithredu’r Cabinet sy’n deillio o’r papur hwn.

Argymhelliad

Gofynnir i’r Cabinet:

  • Nodi’r rhaglen waith sydd i’w gweithredu ar draws y Llywodraeth
  • Cytuno y gall pob maes portffolio Gweinidogol gyfrannu at y dull newydd o rianta corfforaethol er mwyn cefnogi mwy o atebolrwydd am ganlyniadau plant â phrofiad gofal ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Julie Morgan AC
Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Tachwedd 2019

Drafftiwyd gan Henry Vaile – y Gangen Gwella Canlyniadau ar gyfer Plant, SSID
Cymeradwywyd gan Albert Heaney (Cyfarwyddwr, Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio) ac Andrew Goodall (Cyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol)

Atodiad A: materion statudol, cyllid, cyfreithiol a llywodraethu

Gofynion statudol

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Y fframwaith cyfreithiol perthnasol yw hwnnw a sefydlwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, (‘Deddf 2014’), yn arbennig Rhannau 6 a 9.

Gan ddefnyddio’n pwerau deddfwriaethol cyfredol, rydym yn bwriadu diwygio Cod Ymarfer Rhan 6 a Chanllawiau Statudol Rhan 9. Ein bwriad fyddai diwygio Cod Rhan 6 i gynnwys pennod benodol ar Rianta Corfforaethol, gan ddarparu canllawiau statudol clir i awdurdodau lleol ynghylch sut i gyflawni eu dyletswyddau rhianta corfforaethol. Byddai hyn yn sefydlu egwyddorion rhianta corfforaethol ar gyfer pobl sy’n arfer swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol ym mhob adran mewn awdurdod lleol. Byddai hyn yn caniatáu i swyddogaethau penodol gael eu hymestyn i adrannau o fewn awdurdodau lleol sydd â rôl uniongyrchol wrth gefnogi plant sy’n derbyn gofal h.y. addysg a thai.

Mae effaith a rôl ein partneriaid iechyd mewn perthynas â chanlyniadau ar gyfer plant â phrofiad o ofal wedi’u nodi fel maes allweddol o angen, yn enwedig o ran derbyn cefnogaeth therapiwtig. Mae Rhan 9 o Ddeddf 2014 yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac yn galluogi gweinidogion Cymru i lunio rheoliadau sy’n pennu trefniadau partneriaeth ar gyfer cynnal swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol. O dan y Rhan hon, lluniwyd rheoliadau ar gyfer sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol. Mae opsiwn felly i ddiwygio canllawiau statudol Rhan 9 i ddarparu canllawiau penodol i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol ynglŷn â mater rhianta corfforaethol rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol.

Deddf Plant 2004 a Deddf Addysg 2002

Mae Deddf Plant (‘Deddf 2004’) a Deddf Addysg 2002 (‘Deddf 2002’) yn cefnogi’r bwriad o ddatblygu canllawiau statudol i ymwreiddio rhianta corfforaethol y tu hwnt i awdurdodau lleol. Mae adran 28 o Ddeddf 2004 yn ategu’r ddyletswydd cydweithredu gyffredinol (a bennir yn adran 25 o Ddeddf 2004, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, i sicrhau bod asiantaethau yn blaenoriaethu eu cyfrifoldebau tuag at blant a gwneud trefniadau i sicrhau bod y swyddogaethau hynny yn cael eu cyflawni, gan ystyried yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles plant.

Mae dyletswyddau cydweithredu i wella llesiant o dan adran 25 o Ddeddf 2004 yn cynnwys ymhlith meysydd eraill, addysg, hyfforddiant a hamdden, ond nid yw’n ymestyn i swyddogaethau y mae adran 175 o Ddeddf Addysg 2002 (Deddf 2002) yn berthnasol iddynt.

Mae adran 175 o Ddeddf 2002 yn ei gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir, roi sylw i unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru i sicrhau bod ysgolion a gynhelir yn arfer eu swyddogaethau addysg gyda’r bwriad o ddiogelu a hyrwyddo lles plant; ac o ran cyrff llywodraethu, bod yn rhaid iddynt hwythau hefyd ystyried diogelu a hyrwyddo lles plant sy’n ddisgyblion yn yr ysgol, wrth arfer eu swyddogaethau mewn perthynas ag ymddygiad yr ysgol.

Mae opsiwn felly i gyhoeddi canllawiau statudol o dan Ddeddf 2004 a Deddf 2002.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru 2015 a Ffyniant i Bawb

Mae Gweinidogion Cymru yn ddarostyngedig i ddyletswydd llesiant yn adran 3 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i gyflawni datblygu cynaliadwy (fel y’i diffinnir yn adran 2 o’r Ddeddf honno). Mae’n rhaid i’r camau a gymerir wrth wneud hynny gynnwys pennu a chyhoeddi amcanion llesiant sydd â’r nod o wneud y cyfraniad gorau posibl i gyflawni’r nodau llesiant sydd yn adran 4 o’r Ddeddf honno a chymryd pob cam rhesymol (wrth gyflawni eu swyddogaethau) i gyflawni’r amcanion hynny.

Mae rhaglen waith Gwella Canlyniadau i Blant yn cyd-fynd â’r cyd-destun polisi sydd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 o geisio sicrhau cydweithio gwell rhwng sefydliadau, canolbwyntio ar ganlyniadau mwy hirdymor ac atal ac ymyrryd yn gynharach fel bod plant sy’n derbyn gofal neu sydd mewn perygl o orfod derbyn gofal yn gallu byw bywydau annibynnol a llwyddiannus.

Safonau’r Gymraeg

Bydd y Codau Ymarfer diwygiedig, y Siarter newydd a’r canllawiau rhianta corfforaethol statudol diwygiedig ar gael yn Gymraeg.

Cydraddoldeb a hawliau dynol

Bydd y Codau Ymarfer diwygiedig, y Siarter newydd a’r canllawiau rhianta corfforaethol statudol diwygiedig yn ddarostyngedig i rwymedigaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i roi sylw dyledus i’r angen i:

  1. dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac ymddygiad arall sy’n anghyfreithlon o dan y Ddeddf Cydraddoldeb
  2. hyrwyddo cyfle cyfartal i’r grwpiau cydraddoldeb a ddiogelir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol a statws priodasol), a
  3. meithrin perthynas dda rhwng y gwahanol grwpiau cydraddoldeb.

Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC)

Mae rhwymedigaeth ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hefyd wrth arfer eu swyddogaethau, yn cynnwys wrth lunio polisïau newydd. Bydd y Codau Ymarfer diwygiedig, y Siarter newydd a’r canllawiau rhianta corfforaethol statudol diwygiedig yn cael eu drafftio mewn ffordd sy’n cefnogi hybu hawliau plant.

Gofynion cyllid a goblygiadau llywodraethu

Nid yw’r papur hwn yn codi unrhyw oblygiadau ariannol uniongyrchol. Prif bwrpas y cynigion uchod yw hyrwyddo dull cyson o Rianta Corfforaethol ar draws holl bortffolios y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus allanol. Ar y cyfan, gellir cyflawni hyn o’r adnoddau presennol ac ymrwymiadau rhaglenni cyfredol. Mae nifer o raglenni parhaus yn y maes Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol sydd eisoes yn cefnogi datblygiad y gwaith hwn a byddant yn parhau i gael eu cynnwys o gyllidebau o fewn Prif Grŵp Gwariant Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith ar ddatblygu’r Siarter, yr arolwg plant a chryfhau canllawiau statudol. Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn ymgysylltu’n llawn â rhanddeiliaid ac mae ei aelodaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl brif bartneriaid sector cyhoeddus y soniwyd amdanynt uchod. Mae pwyslais cryf ar ddefnyddio’r adnoddau presennol mewn ffyrdd gwell i gefnogi nodau Rhianta Corfforaethol a chyd-gynhyrchwyd y cynigion uchod gydag aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen.

Wrth ymgynghori a datblygu’r polisi trawsbynciol hwn, mae’n ddigon posibl y bydd angen i Weinidogion unigol ystyried cynigion sy’n cefnogi nodau gwell Rhianta Corfforaethol. Bydd angen bwrw ymlaen â’r rhain mewn ffordd arferol gyda chyngor pellach yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidogion perthnasol, yn ôl y gofyn. Bydd hyn yn cynnwys yr angen i ystyried unrhyw gostau newydd posibl a ddaw i ran gwasanaethau cyhoeddus o ganlyniad i ymestyn dyletswyddau rhianta corfforaethol fel rhan o’r gwaith sy’n datblygu.

Cyhoeddir Asesiad Effaith Rheoleiddiol pan fydd newidiadau i’r canllawiau statudol yn derfynol ac yn cael eu cyflwyno i’r Cynulliad. Cyhoeddir cyngor pellach maes o law.

Pe bai unrhyw ymrwymiadau newydd posibl yn codi sy’n ymestyn y tu hwnt i 2020-21, yna byddai angen i’r portffolio perthnasol a’r Prif Grŵp Gwariant eu cynnwys yn eu gwaith cynllunio ar gyfer cyllidebau yn y blynyddoedd i ddod.

Gellir talu unrhyw gostau gweinyddol sy’n codi o ddatblygu pob opsiwn gael eu talu o Gyllideb Costau Rhedeg Dirprwyedig Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cod clirio Cyllidebu Strategol: SB0734/5.

Ymchwil a/neu ystadegau

Isod mae ystadegau cryno am blant â phrofiad o ofal yng Nghymru a’u canlyniadau:

Data Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal:

  • Roedd 6,846 o blant yn derbyn gofal ar 31 Mawrth 2019.
  • Mae oddeutu 700 o bobl ifanc dros 16 oed yn gadael gofal bob blwyddyn, gydag oddeutu traean dros 18 oed.
  • Symudodd 27% o’r rhai sy’n gadael gofal i drefniadau byw annibynnol yn ystod 2018-19.
  • Gadawodd 1,678 o blant ofal yn ystod 2018-19, gyda 47% yn dychwelyd i fyw at rieni neu berthnasau.

Data Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a Chymorth a Chronfa Ddata Genedlaethol y Disgyblion:

  • Yn ystod 2017/18, cyflawnodd 66.6% o Blant sy’n Derbyn Gofal y dangosydd pwnc craidd yng nghyfnod allweddol 2 a chyflawnodd 17.6% o Blant sy’n Derbyn Gofal y dangosydd pwnc craidd yng nghyfnod allweddol 4.

Data mesurau perfformiad meintiol (2018-19):

  • Profodd 11.5% o’r rhai sy’n gadael gofal ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn.
  • Mae 53.5% o’r holl rai sy’n gadael gofal mewn addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth 12 mis ar ôl gadael gofal.

Plant sy’n derbyn gofal a chymorth yn y Cyfrifiad CRCS sy’n cyflawni’r cyfnod sylfaen neu’r dangosydd pynciau craidd ac a oeddent yn derbyn gofal, 2017/18

Gweithio cydgysylltiedig

Ymgynghorwyd â’r Adrannau canlynol ar gynnwys y papur hwn.

  • Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Y Gyfarwyddiaeth Addysg
  • Tai
  • Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes
  • Cyllidebu Strategol
  • Gwasanaethau Cyfreithiol

Mae’r papur hwn wedi ei glirio gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a’r Gweinidog Addysg.