Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething, wedi cyhoeddi cynlluniau i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) i gynnwys wardiau cleifion mewnol paediatrig, a hynny erbyn mis Ebrill 2021.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd angen i'r estyniad sy'n cael ei gynnig gael ei gymeradwyo gan y Senedd cyn dod yn gyfraith. 

Mae Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn rhoi dyletswydd gyffredinol ar yr holl fyrddau iechyd i ddarparu lefel ddigonol o nyrsys i ofalu am gleifion mewn modd sensitif, ym mhob maes y maent yn ei ddarparu neu'n ei gomisiynu. Mae hefyd yn gosod ail ddyletswydd benodol i gyfrifo a chadw'r lefel staff nyrsio ar gyfer wardiau cleifion mewnol meddygol acíwt i oedolion a wardiau cleifion mewnol llawfeddygol acíwt i oedolion. 

Dywedodd Mr Gething:

Mae cael gofal o ansawdd uchel gyda'r nifer cywir o staff nyrsio yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i ofal a chanlyniadau cleifion. Felly, mae'n bleser mawr gen i gyhoeddi'r cam nesaf hwn yn y gwaith, a fydd yn arwain at ymestyn y Ddeddf hon fel bod mwy o gleifion yn elwa. Mae gwaith yn parhau i ystyried ymestyn y Ddeddf ymhellach i gynnwys gwasanaethau ymweld, gwasanaethau nyrsio cymunedol a chleifion iechyd meddwl mewnol. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddarparu'r gweithlu cynaliadwy sydd ei angen i gefnogi'r Ddeddf hon. Yn ddiweddar, cyhoeddais arian ychwanegol i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael i hyfforddi nyrsys yng Nghymru, ac ymestyn bwrsari GIG Cymru tan 2023. Mae nifer y lleoedd ar gyfer hyfforddi nyrsys yng Nghymru wedi codi 89% ers 2014, ac mae cyfanswm y nyrsys cofrestredig wedi codi 2.4% dros yr un cyfnod.

Dywedodd y Prif Swyddog Nyrsio, yr Athro Jean White:

Rwy'n hynod falch bod y camau deddfwriaethol cyntaf wedi'u cymryd i ymestyn y Ddeddf hon i gynnwys wardiau paediatrig mewnol. Mae'r system hon yn grymuso ac yn cefnogi nyrsys i ddefnyddio eu barn broffesiynol i ddeall a chynllunio ar gyfer y lefelau cywir o ofal.