Neidio i'r prif gynnwy

Pwyntiau i'w nodi

Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: scu@gov.wales.

1. Rhanbarth

Cymru gyfan

2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal

Ymestyn Grantiau i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy a Grantiau Sefydliadau Allweddol y Trydydd Sector.

3. Sail gyfreithiol yn y DU

Adran 14 o Ddeddf Addysg 2002. Mae'r adrannau'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru roi cymorth ariannol mewn perthynas ag addysg a phlant, gan gynnwys y pŵer i roi grantiau, ac mae adran 14(2)(j) yn cynnwys y diben ar gyfer hyrwyddo lles plant a'u rhieni. Mae'r pŵer, a fynegir fel pŵer y Cynulliad Cenedlaethol o dan Ddeddf Addysg 2002, wedi'i freinio yng Ngweinidogion Cymru drwy baragraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Adran 64 o Ddeddf Gwasanaethau Iechyd ac Iechyd y Cyhoedd 1968. Mae adran 64 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth grant i sefydliadau gwirfoddol sy'n gweithredu ar sail Cymru gyfan yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

4. Amcan polisi penodol y cynllun

Defnyddir cyllid grant i gefnogi ystod amrywiol o brosiectau sy'n anelu at gefnogi gwahanol grwpiau agored i niwed, gwella iechyd a llesiant, hyrwyddo cynhwysiant cymdeithasol, eiriol dros hawliau, a darparu addysg a datblygu sgiliau.

Mae'r grant yn cefnogi cyflawni blaenoriaethau o fewn Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, gyda chyllid yn cael ei ddyfarnu i'r prosiectau hynny a fyddai'n parhau i gyfrannu at y canlyniadau a'r themâu allweddol sy'n sail i'r Ddeddf yn ogystal â bodloni meini prawf penodol a dangos gwerth da am arian.

5. Diben y cynllun

Diben y cynllun grant yw manteisio ar arbenigedd y Trydydd Sector, ei brofiad o weithio gyda defnyddwyr gwasanaethau a sgiliau cydgynhyrchu, er budd cefnogi'r gwaith o ddatblygu a chyflawni polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru.

Mae'r prosiectau grant yn cwmpasu ystod o feysydd gwasanaethau, mewn ffordd sy'n adlewyrchu angen y boblogaeth ac sy'n bodloni'r themâu allweddol yn y ffordd orau, sy'n cynnwys canolbwyntio ar bobl, llesiant, atal ac ymyrraeth gynnar, partneriaeth, hygyrchedd a modelau gwasanaeth newydd.

6. Awdurdodau Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun

Llywodraeth Cymru

7. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys

Sefydliadau'r trydydd sector.

8. Crynodeb o delerau ac amodau'r cynllun

Dyfarnwyd grantiau ar sail gystadleuol i brosiectau a oedd yn bodloni'r meini prawf penodol yn ymwneud â Pholisi Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cefnogi'r canlyniadau ac yn cyfrannu at themâu allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn dangos gwerth da am arian. Cynlluniwyd y cylch ariannu hefyd i roi gwerth ar gydweithredu drwy roi pwysoliad ychwanegol i geisiadau ar y cyd yn y broses sgorio ac annog ceisiadau uwch-ranbarthol neu'r rhai sydd â photensial i gael eu cymhwyso yn genedlaethol.

9. Sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau o dan y cynllun gan gynnwys crynodeb o unrhyw amodau mewn perthynas â chymarebau neu symiau cymhorthdal

Dyfernir cyllid ar gyfer prosiectau sy'n seiliedig ar geisiadau cystadleuol.

10. Sectorau i'w cefnogi

  • Gwybodaeth a chyfathrebu
  • Gweithgareddau gweinyddol a gwasanaethau cymorth
  • Gweithgareddau iechyd pobl a gwaith cymdeithasol
  • Gweithgarwch gan wasanaethau eraill

11. Hyd y cynllun

Bydd y cynllun yn rhedeg rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026.

12. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun hwn

£10,756,000

13. Ffurf y cymorth

Bydd yr holl gymorthdaliadau a ddyfernir o dan y Cynllun yn cael eu dyfarnu drwy grantiau.

14. Telerau ac amodau cymhwysedd

Dyfarnwyd grantiau ar sail gystadleuol i brosiectau a oedd yn bodloni'r meini prawf penodol yn ymwneud â Pholisi Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cefnogi'r canlyniadau ac yn cyfrannu at themâu allweddol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac yn dangos gwerth da am arian. Cynlluniwyd y cylch ariannu hefyd i roi gwerth ar gydweithredu drwy roi pwysoliad ychwanegol i geisiadau ar y cyd yn y broses sgorio ac annog ceisiadau uwch-ranbarthol neu'r rhai sydd â photensial i gael eu cymhwyso yn genedlaethol.

15. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun

£1,000,000

16. Gwybodaeth gysylltu

Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig

Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Image