Mae cynllun peilot sy'n helpu pobl hŷn i fyw'n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain a gadael yr ysbyty yn gynt wedi'i ymestyn tan yr hydref.
Cynhaliwyd cynllun peilot y gaeaf Adre o'r Ysbyty, a ddarparwyd gan Gofal a Thrwsio, mewn deg o ysbytai yng Nghymru dros y gaeaf. Nod y cynllun oedd helpu pobl hŷn agored i niwed i gael eu rhyddhau yn ddiogel o'r ysbytai i'w cartrefi, gan ganolbwyntio ar eu hatal rhag gorfod mynd yn ôl i'r ysbyty drwy asesu 'iechyd' eu cartrefi - a galluogi gwneud gwelliannau i gefnogi eu hiechyd a'u llesiant.
Cafodd y cynllun, sy'n brosiect ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a'r Rhaglen Genedlaethol ar gyfer Gofal Heb ei Drefnu, ei ariannu yn wreiddiol fel rhan o £4m a ddyrannwyd i gefnogi gwasanaethau iechyd dros gyfnod y gaeaf drwy brofi modelau gofal newydd.
Mae'n cynnwys gweithiwr achos penodedig ym mhob safle i hwyluso gwneud addasiadau ymarferol i gartref y claf a galluogi ei ryddhau o wely yn yr ysbyty. Gall y gweithwyr achos hefyd gynnig cymorth a chyngor ymarferol ar faterion fel mynediad i'r cymorth ariannol sydd ei angen ar bobl hŷn i heneiddio yn dda a chynhesu eu cartrefi, yn ogystal ag atgyfeirio cleifion sydd mewn perygl o fod yn ynysig neu'n unig i glybiau neu grwpiau cymunedol lleol.
Cafodd y cynllun peilot dros 600 o atgyfeiriadau rhwng canol mis Ionawr a diwedd mis Mawrth, gan wneud 628 o welliannau i gartrefi a hwyluso 320 o asesiadau budd-dal sy'n dibynnu ar brawf modd.
Yn dilyn llwyddiant y cynllun, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething wedi cymeradwyo estyniad iddo am 6 mis arall tan fis Medi 2019, gyda chronfa o £170,000 yn cael ei neilltuo i Fyrddau Iechyd Lleol sy'n cymryd rhan.
Hefyd, mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cymeradwyo £200,000 arall o gyllid cyfalaf i gefnogi'r estyniad.
Dywedodd Mr Gething:
"Rwy'n falch o fedru cyhoeddi estyniad i’r cynllun. Cafodd y gwasanaeth effaith gadarnhaol yn syth ar gleifion, perthnasau a staff, ac mae'n parhau i fod yn galonogol i mi glywed bod cynifer o bobl wedi manteisio o'r cynllun.
Mae cefnogi pobl hŷn i gael eu rhyddhau yn gyflym a'u gwneud yn gyfforddus ac yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, gan eu galluogi i fyw mor annibynnol â phosibl o fudd i bob unigolyn a gwasanaeth dan sylw.
Mantais wirioneddol o'r cynllun yw’r cyfle i weithwyr achos 'wneud i bob cyswllt gyfrif'. Maent wedi defnyddio eu hamser gyda phobl yn eu cartrefi i siarad am faterion fel cynlluniau i gynhesu cartrefi, atal codymau, neu gysylltu â grwpiau cymunedol lleol i helpu i gefnogi llesiant.
Mae'r cynllun yn cyfrannu yn uniongyrchol at ein gweledigaeth 'Cymru Iachach' ar gyfer creu modelau gofal di-dor ac mae'n tynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio ar draws sectorau.
Bydd yr estyniad hefyd yn cefnogi gwerthusiad mwy cadarn o'i effaith, gan roi adborth pellach i ni, rhoi gwybod am wersi a ddysgwyd a galluogi cynaliadwyedd."
Dywedodd Julie James:
“Mae'n bleser gennyf ddarparu gwariant cyfalaf pellach i ariannu estyniad i'r cynllun peilot Adre o'r Ysbyty.
Mae addasiadau tai yn helpu pobl i gadw eu hannibyniaeth, a gall hyd yn oed addasiadau bach helpu pobl i adael yr ysbyty a mynd adref, a lleihau'r oedi wrth ryddhau cleifion.Gall hyn leihau'r pwysau ar adrannau argyfwng, lleihau'r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (y GIG) a helpu pobl i fyw yn eu cartrefi eu hunain am gyfnodau hirach."