Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynllun peilot a fu’n cefnogi cleifion a staff mewn saith adran argyfwng yng Nghymru y gaeaf hwn wedi’i ymestyn i’r haf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, hefyd y bydd y gwasanaeth, sy’n helpu cleifion i ddod yn gyfforddus yn eu cartrefi unwaith eto yn dilyn ymweliad ag Adran Argyfwng ac yn lleihau baich gwaith nad yw’n feddygol ar staff, yn cael ei ehangu yn Ysbyty Treforys, Abertawe.

Mae cynllun peilot Llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru, sydd wedi’i gyflenwi gan staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch Brydeinig, wedi helpu mwy na 25,000 o gleifion ers mis Rhagfyr 2018.

Rhoddodd staff a gwirfoddolwyr y Groes Goch gymorth nad yw’n feddygol i gleifion i alluogi staff y GIG i ganolbwyntio ar waith clinigol. Roedd hyn yn cynnwys casglu meddyginiaeth a chanlyniadau profion a mynd gyda chleifion i adrannau eraill yr ysbyty. Mae staff y Groes Goch hefyd wedi helpu drwy ddarparu cludiant a chynnig help llaw hefyd i bobl fod yn gyfforddus unwaith eto yn eu cartrefi yn dilyn ymweliad ag Adran Argyfwng.

Yn dilyn llwyddiant cychwynnol y cynllun, mae’r Gweinidog wedi cymeradwyo cyllid am chwe mis arall, o fis Ebrill i fis Medi 2019, ac ymestyn y gwasanaeth presennol yn Ysbyty Treforys.

Dywedodd Mr Gething:

“Mae’n bleser gen i gyhoeddi y byddwn yn ymestyn y cynllun peilot hwn i’n helpu i ddeall a fyddai gwasanaeth rhyddhau â chymorth o Adrannau Argyfwng yn fanteisiol drwy gydol y flwyddyn.

“Mae’r Groes Goch wedi bod yn cynorthwyo i dynnu’r pwysau oddi ar staff y GIG yn ein Hadrannau Argyfwng prysur drwy’r gaeaf. Maent wedi cael croeso mawr gan staff rheng flaen a chleifion. Mae’r gwasanaeth wedi bod o gymorth arbennig i bobl sy’n ynysig yn gymdeithasol, y rhai sydd mewn mwy o berygl o niwed o ganlyniad i gamddefnyddio sylweddau, a phobl sydd wedi colli rhywun yn ddiweddar.

“Byddwn yn dechrau ar broses dendro gystadleuol cyn gynted â phosibl i roi cyfle i sefydliadau’r trydydd sector eraill ddarparu’r gwasanaeth, gyda’r bwriad o gynllunio ar gyfer hydref a gaeaf 2019/20.”

Dywedodd Dr Jo Mower, Cyfarwyddwr Clinigol Cenedlaethol Gofal heb ei Drefnu:

“Mae ‘gwasanaeth rhyddhau â chymorth yr Adrannau Argyfwng’ dan y Rhaglen Genedlaethol Gofal heb ei Drefnu wedi bod yn amhrisiadwy ers ei gyflwyno, yn enwedig wrth gefnogi clinigwyr a chleifion yn fy adran i dros fisoedd y gaeaf. 

Rwyf wedi gweld drosof fy hun sut y gall y gwasanaeth dynnu’r pwysau oddi ar staff meddygol a staff nyrsio a chynorthwyo pobl agored i niwed, ac rwy’n edrych ymlaen i ddatblygu’r gwasanaeth dros y misoedd nesaf wrth i ni gynllunio ar gyfer gaeaf 2019/20.”

Dywedodd Kate Griffiths, Cyfarwyddwr byw'n annibynnol a'r ymateb mewn argyfwng i'r Groes Goch yng Nghymru:

“Ni ellir tanbrisio'r gwahaniaeth a wneir drwy weithredoedd caredig, syml, er enghraifft gwrando ar bryderon rhywun wrth iddynt baratoi i adael yr ysbyty, eu helpu cael y siopa i mewn pan fyddant yn cyrraedd adref – Mae staff y Groes Goch a gwirfoddolwyr yno i roi sicrwydd a chefnogaeth, gan rymuso pobl i gymryd eu camau cyntaf ar y ffordd yn ôl i annibyniaeth.

“Credwn ni fod rôl y sector gwirfoddol yn allweddol o ran helpu gwasanaethau iechyd a gofal i gynorthwyo cleifion, lleddfu'r pwysau ar y system a rhoi tawelwch meddwl i feddygon a staff nyrsio bod cleifion yn cael gofal wrth iddynt symud o'r cartref i'r ysbyty. Rydym yn falch iawn bod llwyddiant ein gwasanaethau pwysau gaeaf yn golygu y bydd mwy o gyfleoedd i'r sector gwirfoddol ddarparu'r cymorth hanfodol hwn."