Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans wedi cyhoeddi y bydd cyllid ar gyfer rhaglen y Gwasanaeth Di-waith yn cael ei ymestyn hyd at fis Awst 2020.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gwasanaeth Di-waith, a lansiwyd ym mis Medi 2016, yn helpu pobl sy'n gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau a/neu iechyd meddwl drwy gynnig cyngor cyflogaeth a chefnogaeth gan bobl sydd wedi bod mewn sefyllfa debyg yn y gorffennol.
Mae'r cynllun yn cefnogi pobl rhwng 16-24 oed sy'n gwella o'r problemau hyn ac sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant.  Mae hefyd yn helpu pobl sy'n 25 oed neu'n hŷn sy'n yr un sefyllfa ac yn ddi-waith ers cyfnod hir.

Caiff y rhaglen ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop, Llywodraeth Cymru a'r Byrddau Cynllunio Ardal Camddefnyddio Sylweddau yng Nghymru. Mae'n cael ei chynnal ledled Cymru, ac ar ben helpu pobl i wella a datblygu sgiliau bywyd a chyflogadwyedd, mae hefyd yn cynnig cymorth pontio o hyd at dri mis i'r rhai sy'n cael gwaith ar ôl cymryd rhan yn y rhaglen. 
Bydd ymestyn y cyllid yn sicrhau bod y ddau grŵp yn parhau i gael cymorth hyd at 2020.  Bwriedir rhoi cyfanswm o £17.3m tuag at y rhaglen, sy'n cynnwys £11.5m gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. 

Dywedodd Rebecca Evans: 
"Mae'n bleser cyhoeddi'r estyniad hwn i'r cyllid ar gyfer y rhaglen hon sydd â'r nod o gefnogi hyd at 14,000 o bobl i oresgyn y rhwystrau sy'n eu hatal rhag cael gwaith ac aros mewn swydd.
"Bydd yn rhoi cyfleoedd newydd ac yn gwella canlyniadau unigolion sy'n ddi-waith, yn aml y rheini sydd bellaf o fod yn rhan o’r farchnad waith, fel eu bod yn gallu cael y cymorth y maen nhw ei angen i ddatblygu eu sgiliau a chael swydd."

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, Mark Drakeford: 
"Mae bod mewn swydd yn gallu helpu pobl sy'n gwella o broblemau camddefnyddio sylweddau neu iechyd meddwl.  Drwy gael gwared ar y rhwystrau i gyflogaeth, mae'r prosiect hwn yn cefnogi miloedd o unigolion ledled Cymru i ymuno â'r farchnad waith ac i aros yn rhan ohoni. "Rwy'n falch bod arian gan yr Undeb Ewropeaidd wedi ein galluogi i ymestyn y rhaglen hon. Mae’n golygu y bydd llawer mwy o bobl yn gallu elwa ar ddyfodol iach."