Neidio i'r prif gynnwy

Bydd tasglu newydd sy'n canolbwyntio ar wella gwytnwch cysylltiadau trafnidiaeth Môr Iwerddon yn cynnal ei gyfarfod cyntaf y dydd Iau hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd y tasglu mewn ymateb i gau porthladd Caergybi dros dro yn ddiweddar, ac amlygodd bwysigrwydd hanfodol cynnal llwybrau môr dibynadwy rhwng Cymru ac Iwerddon. Bydd y grŵp yn trafod sut rydym yn cryfhau'r cysylltiadau hanfodol a'r cyfleusterau porthladd yng Nghaergybi a lleoliadau allweddol eraill sy'n gwasanaethu cymunedau ar draws y ddwy wlad.

Bydd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, yn arwain y gwaith, ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, a Gweinidog Gwladol Llywodraeth Iwerddon dros Drafnidiaeth Ryngwladol a Ffyrdd, Logisteg, Rheilffyrdd a Phorthladdoedd, Seán Canney.

Mae'r tasglu yn dwyn ynghyd gynrychiolwyr o lywodraethau Cymru ac Iwerddon, yn ogystal â llywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, awdurdodau lleol, cwmniau porthladdoedd, cwmnïau fferi, a chynrychiolwyr y diwydiant logisteg. Bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn tynnu ar arbenigwyr ychwanegol ar gyfer themâu penodol.

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: 

Mae'r llwybrau môr hyn rhwng Cymru ac Iwerddon yn hanfodol ar gyfer masnach, twristiaeth a chysylltu ein gwledydd a'n cymunedau. Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau a chroesawu ein cydweithwyr Gwyddelig i Ynys Môn. Trwy ddod â phartneriaid allweddol o ddwy ochr Môr Iwerddon at ei gilydd, gallwn ddatblygu atebion ymarferol i wneud y cysylltiadau hyn yn fwy gwydn yn erbyn heriau cynyddol tywydd garw ac aflonyddwch posibl eraill.

Ychwanegodd Ysgrifennydd yr Economi, Rebecca Evans

Mae cysylltiadau trafnidiaeth cryf, dibynadwy ar draws Môr Iwerddon yn hanfodol i'n ffyniant economaidd. Bydd y grŵp hwn yn adeiladu'n rhagweithiol ar y cydweithrediad llwyddiannus a welsom yn dilyn gorfod cau angorfeydd fferi yn ddiweddar ac yn helpu i sicrhau bod ein porthladdoedd yn gallu addasu i amodau newidiol, gan barhau i gefnogi busnesau a swyddi mewn cymunedau arfordirol a thu hwnt.

Bydd y cyfarfod cyntaf yn sefydlu cylch gorchwyl a phrif themâu y tasglu.