Neidio i'r prif gynnwy

Bydd ymchwilwyr a phobl sydd â diddordeb mewn chwaraeon yn cael cyfle gwell cyn hir i weld casgliad unigryw Clwb Rygbi ac Athletau Casnewydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Archifau Gwent yn cael dros £14,000 gan Lywodraeth Cymru i helpu i gadw ac adfer eitemau bregus a difrodedig yng nghasgliadau'r clwb, diolch i bartneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadw Llawysgrifau.  


Bydd y gwaith cadwraeth yn agor y drws i hanes diddorol un o glybiau chwaraeon integredig cyntaf Cymru, sy'n dyddio yn ôl i 1875. 


Caiff gwaith cadwraeth ei gynnal ar gyfres o lyfrau cofnodion, 28 o gardiau post a 148 o lythyrau a thelegramau a anfonwyd at y clwb gan aelodau oedd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf. 


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates: 


"Yn ogystal â'n helpu i ddeall treftadaeth Casnewydd ym myd y campau yn well, mae'r archif unigryw'n taflu goleuni ar ddylanwad y clwb ar ddatblygiad rygbi yng Nghymru. Bydd y casgliad yn apelio at haneswyr chwaraeon, unrhyw un sy'n gysylltiedig â'r clwb a phawb sydd â diddordeb ym mhrofiadau milwyr o'r Rhyfel Byd Cyntaf. 


"Rwy'n falch ein bod ni, gyda'r NMCT, wedi cefnogi'r prosiect ac rwy'n gobeithio y caiff ymchwilwyr a phobl o fyd y campau o Gasnewydd a'r tu hwnt flas o chwilio ynddi." 

Ers 2008, mae'r NMCT, mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, wedi cefnogi 39 o brosiectau ac wedi diogelu eitemau a chasgliadau o bwys cenedlaethol a rhyngwladol sy'n cael eu cadw mewn archifdai ar hyd a lled Cymru. 

Dywedodd yr Arglwydd Egremont, Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadw Llawysgrifau: 

"Rydym yn hynod falch bod NMCT, trwy gydweithio â Llywodraeth Cymru, wedi llwyddo unwaith eto i ddiogelu casgliad arbennig arall. Mae'n bleser cael helpu archif sydd mor bwysig i hanes chwaraeon yng Nghymru". 

Dywedodd Tony Hopkins, archifydd sir Gwent: 

"Mae hwn yn brosiect wirioneddol gyffrous. Yn ogystal â bod yn enwog am ei rygbi, mae clwb Casnewydd wedi cael dylanwad aruthrol ar ddatblygiad chwaraeon yng Nghymru. Rydym yn ddiolchgar i'r NMCT am ein helpu i warchod yr archif unigryw hon." 

Cafodd Clwb Criced, Athletau a Phêl-droed Casnewydd ei ffurfio fel y clwb chwaraeon integredig cyntaf yng Nghymru. Cafodd yr enw Clwb Athletig Casnewydd ym 1895/6.  Erbyn hynny, roedd yn cynnal amrywiaeth eang o gampau ac roedd llawer o aelodau wedi mynd i'r brig yn eu camp. Cynrychiolodd Richard Mullock y clwb pan ffurfiwyd y Gymdeithas Athletig Amatur ym 1880. Rhedodd Wyatt Gould dros y clwydi dros Brydain yn Chwaraeon Olympaidd 1908 a chwarae rygbi i Gasnewydd, a bu dau o'i frodyr yn gapteniaid tîm rygbi Cymru.  Arthur Gould oedd un o'r brodyr hynny, seren gynta'r byd rygbi.