Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r ymchwiliad cyhoeddus i'r prosiect arfaethedig ar yr M4, sy'n un o'r ymchwiliadau hiraf i gael ei gynnal yng Nghymru erioed, wedi gwrando bellach ar y datganiad cloi gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Agorwyd yr ymchwiliad ym mis Chwefror 2017, ac mae wedi gwrando ar farn y rheini sydd o blaid ac yn erbyn y cynnig i adeiladu darn chwe lôn, 14 milltir (23km) o hyd o draffordd i'r de o Gasnewydd, gan gynnwys pont ar draws Afon Wysg a gwaith mawr i newid cyffyrdd 23 a 29 ar yr M4.

Mae tagfeydd i'w gweld yn aml ar lwybr presennol yr M4 i'r gogledd o Gasnewydd, yn enwedig lle mae'n culhau'n ffordd dwy lôn yn nhwneli Brynglas.

Roedd y 6189 o ymatebion a gafwyd i'r ymchwiliad yn cynnwys 319 o wrthwynebiadau unigol a 219 o lythyrau o blaid y cynllun.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:

Dw i wedi dweud yn glir bod angen i'r ymchwiliad hwn graffu mewn ffordd drylwyr ac agored ar y cynllun arfaethedig, ar y mesurau sydd ynddo i liniaru'r effaith ar yr amgylchedd, ac ar yr Achos Busnes a'r llwybrau amgen a awgrymwyd gan y gwrthwynebwyr, gan gynnwys y Llwybr Glas.

Hoffwn i ddiolch i'r holl unigolion a'r grwpiau sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad. Byddwn yn aros 'nawr am adroddiad yr arolygydd annibynnol, a'r disgwyl yw y byddwn ni'n gallu gwneud penderfyniad yn ddiweddarach eleni ynglŷn â bwrw ymlaen â’r cynllun ai peidio.

Bydd yr Arolygwyr a gynhaliodd yr Ymchwiliad yn mynd ati bellach i gyflwyno adroddiad am eu canfyddiadau, a bydd yr adroddiad hwnnw'n sail i benderfyniad Llywodraeth Cymru ynglŷn â bwrw ymlaen â’r prosiect ai peidio. Bydd adroddiad yr arolygwyr yn gwneud argymhellion na fyddant yn rhwymol ar y llywodraeth.

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gael cyfle i graffu ar yr argymhellion, mae’r llywodraeth wedi cadarnhau y  bydd yn cynnal dad am y cynllun yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Os penderfynir bwrw ymlaen â'r prosiect, gallai'r gwaith adeiladu ddechrau tua diwedd y flwyddyn a gallai'r darn newydd o'r briffordd fod yn agored erbyn diwedd 2023.