Mae nifer y rhieni â phlant ifanc yng Nghymru sydd wedi dweud eu bod yn smacio eu plant wedi lleihau'n sylweddol, yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae'r gwaith ymchwil 'Agweddau rhieni tuag at reoli ymddygiad plant ifanc 2017' wedi darganfod bod 11% o rieni â phlant ifanc wedi smacio eu plant yn y 6 mis diwethaf fel dull o reoli ymddygiad eu plant. Nodwyd 22% yn 2015, felly mae'r ffigwr bellach wedi haneru.
Yn ôl y gwaith ymchwil, roedd 81% o rieni yn anghytuno "bod angen smacio plentyn drwg weithiau", dyma gynnydd sylweddol ers 2015 lle’r oedd 71% yn anghytuno.
Mae nifer y rhieni a ddywedodd ei bod hi'n bosibl y byddant yn smacio plentyn o dan amgylchiadau penodol wedi lleihau o 44% i 31%. O fewn y nifer hwn, dim ond 5% ddywedodd eu bod yn gyfforddus â'r syniad ac y byddent yn smacio plentyn pan fo angen, gyda 26% pellach yn dweud nad oeddent yn hoffi'r syniad, ond y byddent yn gwneud hynny os mai dyna oedd yr opsiwn olaf.
Nodwyd ystod eang o dechnegau eraill gan rieni ar gyfer rheoli ymddygiad eu plant. Y technegau a nodwyd amlaf oedd:
- Canmol ymddygiad da,
- Cadw at yr un arferion o ddydd i ddydd,
- Dweud na, a
- Dweud y drefn wrthyn nhw.
Pan ofynnwyd i rieni a ddylai smacio plant gael ei wahardd yn llwyr, roedd y farn rhwng y rhai sy'n cytuno â'r gwaharddiad â'r rhai sy'n anghytuno yn weddol gytbwys, gyda 48% yn cytuno â gwaharddiad a 39% yn anghytuno. Yn 2015 roedd 46% yn cytuno â'r gwaharddiad a 43% yn anghytuno, felly mae newid bach wedi bod o blaid y gwaharddiad.
Gan groesawu'r gwaith ymchwil, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant:
"Rwy'n falch iawn i weld, o'r gwaith ymchwil hwn bod cyn lleied o rieni yn credu bod angen smacio plant ar adegau, a bod llai fyth o rieni yn defnyddio cosbau corfforol i reoli ymddygiad eu plant.
Dyma'r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Er ei bod hi'n wych gweld bod 81% yn teimlo nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, fel llywodraeth, rydym eisiau sicrhau bod pob rhiant yn cydnabod nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg. Dyma pam rydyn ni'n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i'w gwneud hi'n glir bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru.”
Ar hyn o bryd, mae yn erbyn y gyfraith i riant neu ofalwr gosbi eu plentyn yn gorfforol oni bai fod hynny'n cael ei ystyried yn 'gosb resymol’.
Nid yw'r ddeddfwriaeth arfaethedig yn golygu creu trosedd newydd. Yn hytrach, mae'n diddymu amddiffyniad 'cosb resymol' mewn perthynas â throseddau sy'n bodoli eisoes, sef ymosod a churo. Byddai'n golygu na fyddai unrhyw oedolyn sy'n gofalu am blentyn bellach yn gallu, o dan y gyfraith, ddefnyddio cosb gorfforol yn erbyn y plentyn hwnnw.