Nod yr ymchwil oedd deall y gwersi cynnar sy’n dod i’r amlwg o’r Rhaglen Tai Arloesol.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Cyflwynwyd y Rhaglen Tai Arloesol (IHP) i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dulliau arloesol o ddarparu tai yng Nghymru.
Prif ganfyddiadau
Y broses gynllunio
Nododd y cyfranogwyr fod trafodaeth gynnar gyda thimau cynllunio'r awdurdod lleol a phreswylwyr yn bwysig.
Gallai adeiladu adeiladau sydd â golwg draddodiadol leihau'r pryderon ymhlith trigolion lleol a chynllunwyr. Efallai y bydd angen dysgu ychwanegol ar awdurdodau cynllunio lleol er mwyn bod yn barod ar gyfer ceisiadau am fathau mwy anghonfensiynol o ddatblygiadau.
Ymddengys fod y pwyllgorau cynllunio'n cefnogi nodau'r rhaglen. Felly, gallai statws IHP fod yn ddefnyddiol ar gyfer cynlluniau sy'n mynd drwy'r broses gynllunio.
Heriau adeiladu
Roedd cyllid y Rhaglen Tai Arloesol yn rhoi hyder a 'rhwyd diogelwch' ariannol i ddatblygwyr allu mabwysiadu dulliau mwy arloesol nag y byddent fel arall.
Cafodd nifer o ddatblygwyr anhawster gyda chadwyni cyflenwi ar gyfer deunyddiau arbenigol a nodi partneriaid adeiladu a chontractwyr â phrofiad priodol. Fodd bynnag, penododd un ar ddeg o'r deunaw cynllun yn y flwyddyn gyntaf bartneriaid adeiladu lleol.
Heriau'n ymwneud â'r gweithlu
Nid yw nifer o'r problemau'n ymwneud â'r gweithlu'n benodol i'r Rhaglen Tai Arloesol. Maent yn gysylltiedig â'r angen i'r diwydiannau dylunio ac adeiladu uwchsgilio'n gyflym.
Teimlwyd bod maint a gwerth cynlluniau'r Rhaglen Tai Arloesol, ynghyd â'r dulliau arloesol, yn cyfyngu ar ddiddordeb ymhlith partneriaid adeiladu a chontractwyr. Mae'n bosibl bod y datblygiadau'n rhy fawr i fusnesau bach a chanolig ond ddim yn ddigon mawr i gwmnïau mawr eu hystyried.
Roedd prentisiaethau a phartneriaethau â cholegau lleol yn darparu gweithwyr i rai cynlluniau a hefyd yn cefnogi nodau cyflogi lleol.
Sut mae'r Rhaglen Tai Arloesol yn cymharu â rhaglenni adeiladu arferol?
Roedd yr ymatebwyr o'r farn bod cynlluniau'r Rhaglen Tai Arloesol wedi costio mwy i'w hadeiladu na chynlluniau traddodiadol. Mae costau anwadal cynlluniau arloesol yn tanlinellu pwysigrwydd cyllid y Rhaglen o ran cymell datblygwyr i symud ymlaen â chynlluniau o'r fath.
Roedd rhai datblygwyr yn ystyried gosod lefelau rhent uwch ar gyfer tai mwy ynni effeithlon. Y rhesymau a roddwyd ar gyfer hyn oedd costau adeiladu uwch a bod eiddo o'r fath, mewn theori, yn cynnig biliau ynni llai.
Roedd rhai ymatebwyr yn credu y gallai costau ynni sylweddol is dros gylch bywyd cartrefi arwain at newid mawr yng nghyllid cymdeithasau tai. Gallai costau cylch bywyd fod yr un mor bwysig o ran costau cyfalaf ymlaen llaw wrth ystyried hyfywedd tai arloesol.
Roedd y lefelau tebygol o ddiffygion sy'n gysylltiedig â dulliau arloesol yn peri pryder i ddatblygwyr. Fodd bynnag, nododd sawl ymatebydd lai o ddiffygion hyd yma nag y byddent wedi'i ddisgwyl gan ddulliau adeiladu traddodiadol (oherwydd ei bod yn bosibl cael mwy o reolaeth dros ansawdd drwy weithgynhyrchu oddi ar y safle).
Nodwyd heriau'n ymwneud â chyflwyno trefn newydd i'r broses adeiladu, oedi wrth gytuno ar gontractau gyda phartneriaid adeiladu, a sicrhau cysylltiadau statudol.
Gwnaeth yr ymatebwyr ei chael hi'n anodd bod yn benodol ynghylch y lefelau gwastraff, ond yn gyffredinol nodwyd canlyniadau da o gymharu â gwaith adeiladu traddodiadol.
Roedd gallu'r preswylwyr i weithredu eu cartrefi newydd yn y cyfnod ar ôl symud iddynt a phan gaiff yr eiddo ei ailosod yn peri pryder. Roedd nifer o ddatblygwyr yn cynllunio cyfnod o ymgysylltu dwys â phreswylwyr yn y cyfnod ar ôl iddynt symud i'w cartrefi.
Nid oedd dyluniadau rhad-ar-ynni bob amser yn sicrhau'r dosbarthiad SAP angenrheidiol i gyflawni gradd EPC A. Mewn rhai achosion, roedd angen ychwanegu ffynonellau ynni adnewyddadwy ychwanegol i gyflawni'r radd EPC A.
Cynnydd yn erbyn y canlyniadau
Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd yn rhy gynnar i sôn am ganlyniadau o ran perfformiad ynni a phrofiadau tenantiaid.
Roedd y rhan fwyaf o gynlluniau wedi profi rhywfaint o oedi yn ystod y camau cynllunio ac adeiladu. Roedd yr oedi hwn yn gysylltiedig â phenodi contractwyr addas, mynd i'r afael â heriau cynllunio, a dod o hyd i ddeunyddiau.
Ystyriwyd bod Dulliau Adeiladu Modern (MMC) yn gyflymach na dulliau traddodiadol. Fodd bynnag, roedd heriau'n ymwneud â sicrhau cysylltiadau cyfleustodau a'r tywydd yn dal i lesteirio cynnydd.
Roedd datblygwyr a phartneriaid adeiladu'n ei chael hi'n anodd pennu costau cywir ar gyfer cynlluniau nad oedd ganddynt brofiad blaenorol o'u cyflawni. Roedd y partneriaid adeiladu i gyd yn gallu gweld posibilrwydd o arbedion effeithlonrwydd yn y broses adeiladu yn y dyfodol.
Ymddengys fod cymryd rhan ym mlwyddyn gyntaf y Rhaglen Tai Arloesol wedi newid agweddau tuag at ddulliau arloesol ymhlith datblygwyr a phartneriaid adeiladu.
Adroddiadau
Ymchwil i nodi gwersi cynnar sy'n dod i'r amlwg o'r Rhaglen Tai Arloesol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymchwil i nodi gwersi cynnar sy'n dod i'r amlwg o'r Rhaglen Tai Arloesol: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 591 KB
Cyswllt
Rhian Davies
Rhif ffôn: 0300 025 6791
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.