Mae’r adroddiad yn amlinellu’r blaenoriaethau, y gofynion cymorth yn y dyfodol a’r anghenion datblygu wrth geisio cryfhau sefyllfa addysg gynnar o fewn y sector nas cynhelir yng Nghymru.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Roedd y gwaith ymchwil yn dangos bod y rhan fwyaf o leoliadau yn gwerthfawrogi’r cymorth gan sefydliadau cyfrifol (sefydliadau ambarél, awdurdodau lleol a chonsortia addysg).
Roedd Swyddogion Datblygu’r Cyfnod Sylfaen yn teimlo bod angen ehangu eu gwybodaeth mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft ym maes addysg gynnar.
Roedd cwestiynau ariannol a chynaliadwyedd i’r dyfodol o bryder i leoliadau a rhanddeiliaid.
Roedd y gwaith ymchwil yn dynodi bod angen hyfforddiant rheolaidd hyblyg gan sefydliadau cyfrifol ar ystod o bynciau.
Roedd angen gwell cefnogaeth hefyd mewn perthynas ag anghenion dysgu ychwanegol, rhedeg busnes, rhannu arferion effeithiol, y Gymraeg a’r cwricwlwm.
Adroddiadau
Ymchwil i lywio cymorth y dyfodol ar gyfer darparu addysg gynnar yn y sector nas cynhelir , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Ymchwil i lywio cymorth y dyfodol ar gyfer darparu addysg gynnar yn y sector nas cynhelir: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 709 KB
Cyswllt
Cangen ymchwil ysgolion
Rhif ffôn: 0300 025 6812
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.