Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (‘y Ddeddf’) oedd ymrwymiad ffurfiol Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) drwy ddiogelu, atal a chefnogi'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan y mathau hyn o drais a cham-drin.

Cydnabu'r Ddeddf, er bod menywod yn fwy tebygol yn ystadegol o gael profiad o VAWDASV, y gall effeithio ar unrhyw un, gan gynnwys:

  • dynion
  • pobl o gefndiroedd duon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig
  • pobl o'r gymuned LHDTC+
  • pobl anabl
  • pobl iau
  • phobl hŷn

Ategir y Ddeddf gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, sy'n nodi bod rhyddid rhag cam-drin a thrais yn un o elfennau allweddol llesiant. Mae'r ymrwymiadau hyn wedi arwain at ffocws ar sicrhau ymgysylltu ystyrlon a pharhaus â goroeswyr VAWDASV.

Comisiynwyd Rhaglen Ymchwil Fewnol Llywodraeth Cymru gan y tîm polisi ar gyfer VAWDASV (Llywodraeth Cymru) ym mis Hydref 2018 i ymgymryd â phrosiect ymchwil ar raddfa fach i helpu i greu Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr ar gyfer VAWDASV.

Roedd dau gam i'r ymchwil, a gafodd eu cynnal ar yr un pryd. Canolbwyntiodd Cam 1 ar y ffordd orau i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â goroeswyr VAWDASV o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Canolbwyntiodd Cam 2 ar werthuso Panel Ymgysylltu â Goroeswyr peilot. Mae'r crynodeb gweithredol hwn yn manylu ar Gam 1 o'r ymchwil.

Nodau a methodoleg yr ymchwil

Nod Cam 1 oedd casglu data ansoddol manwl oddi wrth boblogaethau penodol o oroeswyr nad yw eu safbwyntiau yn cael eu cynrychioli ar hyn o bryd o fewn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddatblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr. Mae’r rhain yn cynnwys: dynion, pobl o'r gymuned LHDTC+, pobl anabl, pobl iau a phobl hŷn a phobl o gymunedau Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

Amcanion Cam 1 oedd:

  • deall safbwyntiau, galluoedd a chymhellion y poblogaethau targed i gyfranogi mewn Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr
  • deall y rhwystrau a'r ffactorau sy'n galluogi unigolion i gyfranogi
  • ystyried safbwyntiau a phrofiadau'r poblogaethau targed mewn perthynas â chyfranogi yn y gorffennol a modelau cyfranogi effeithiol
  • deall natur, ffocws a'r cymorth sydd ei angen i hwyluso cyfranogiad y poblogaethau targed

Roedd methodoleg ymchwil Cam 1 yn cynnwys dadansoddiad o'r ymatebion i ymgynghoriad blaenorol ar y cynigion ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr, gweithdai theori newid gyda goroeswyr, rhanddeiliaid a swyddogion y llywodraeth ac arolwg ar-lein. Casglodd yr arolwg ddata demograffig a safbwyntiau ynglŷn ag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru. Cafodd ei dargedu'n bennaf at unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ond roedd croeso i bob goroeswr gymryd rhan.

Canfyddiadau'r arolwg

Daw'r canfyddiadau canlynol o'r arolwg ar-lein, a oedd yn anelu at gyrraedd grŵp amrywiol o oroeswyr VAWDASV â nodweddion gwahanol ac sydd fel arfer ‘heb gynrychiolaeth ddigonol’ ymhlith y goroeswyr hynny sy'n ymgysylltu â pholisi Llywodraeth Cymru. At hynny, gofynnodd yr arolwg a hoffai goroeswyr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, a sut.

Amrywiaeth ymhlith ymatebwyr i'r arolwg

Cafodd yr arolwg hwn ei gynllunio i gasglu safbwyntiau amrywiaeth eang o oroeswyr VAWDASV. Ymatebodd cyfanswm o 101 o bobl i'r arolwg. Roedd pob nodwedd warchodedig wedi cael ei chynrychioli i ryw raddau ymhlith yr ymatebion hyn, ac eithrio'r rhai sy'n uniaethu'n drawsrywiol neu'n rhyngrywiol. 

Mathau o gam-drin a brofwyd gan ymatebwyr i'r arolwg

Cytunodd 90 o ymatebwyr i'r arolwg i ateb cwestiynau ar eu profiad o VAWDASV, ond nid atebodd pob un bob cwestiwn. O'r ymatebion hyn:

  • roedd 14 wedi cael profiad o gam-drin domestig
  • roedd 10 wedi cael profiad o drais rhywiol yn erbyn plentyn, gan gynnwys cam-drin plentyn
  • roedd chwech wedi cael profiad o drais rhywiol, gan gynnwys trais
  • dywedodd naw eu bod wedi cael profiad o fath arall o gam-drin nas rhestrwyd
  • nid oedd yr un ymatebydd wedi nodi profiad o drais ‘ar sail anrhydedd’, anffurfio organau cenhedlu benywod neu briodas dan orfod

Mynediad at wasanaethau cymorth

Nododd 39 o bobl eu bod wedi defnyddio gwasanaethau cymorth ar ôl eu profiad o VAWDASV. O'r rhain:

  • roedd 26 wedi defnyddio gwasanaethau cam-drin domestig
  • roedd 13 wedi defnyddio gwasanaethau a oedd wedi'u hanelu at ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol, gan gynnwys gwasanaethau trais ac ymosod rhywiol arbenigol
  • roedd chwech wedi cael gafael ar gymorth gwasanaethau trais rhywiol yn erbyn plant
  • roedd un wedi defnyddio gwasanaethau ar gyfer goroeswyr trais sy'n ddynion

Ymgysylltu â Llywodraeth Cymru

Yn ôl yr ymatebion i'r arolwg, roedd 11 o bobl wedi ymgysylltu â gwaith Llywodraeth Cymru ynglŷn â VAWDASV neu wedi cyfrannu tuag at ei gwaith yn y gorffennol.  Ymhlith y mathau o weithgarwch roedd ymatebwyr wedi cymryd rhan ynddo roedd gwirfoddoli neu weithio i sefydliadau sy'n cefnogi goroeswyr, fel Cymorth i Ferched Cymru, y GIG, tai a chael gafael ar gwnsela.

Cafwyd 89 o ymatebion i gwestiynau'r arolwg ynglŷn ag ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, lle y gallai ymatebwyr ddewis sawl opsiwn. O ran y dull o ymgysylltu:

  • byddai'n well gan 58 o bobl ymgysylltu drwy'r rhyngrwyd
  • bydda'n well gan 39 ymgysylltu wyneb yn wyneb
  • byddai'n well gan 26 ymgysylltu ar bapur
  • byddai 25 yn dewis ymgysylltu dros y ffôn fel y dewis a ffefrir ganddynt
  • ymhlith y dulliau amgen a awgrymwyd gan ymatebwyr roedd e-bost a thrwy sefydliadau trydydd parti

O ran adnoddau ymgysylltu ar-lein penodol, o blith 57 o ymatebion:

  • byddai'n well gan 19 gael mynediad at wefan lle mae opsiwn i gyflwyno sylwadau neu awgrymiadau
  • byddai'n well gan 15 ddefnyddio e-bost
  • byddai 11 yn dewis fforwm/bwrdd negeseuon ar-lein fel eu dewis cyntaf
  • roedd yn well gan chwech roi manylion cyswllt drwy wefan y llywodraeth
  • awgrymodd dau y dylid defnyddio nodwedd sgwrsio ar-lein yn ddienw
  • roedd pedwar yn barod i ddefnyddio unrhyw rai o'r adnoddau a restrwyd yn yr arolwg (gwefan; e-bost; fforwm; rhoi manylion cyswllt)

Gofynnwyd i'r ymatebwyr a hoffent ymgysylltu fel unigolion neu grŵp. O'r 89 o ymatebion:

  • nid oedd 49 wedi mynegi dymuniad o ran ymgysylltu â Llywodraeth Cymru yn unigol neu mewn grŵp
  • byddai'n well gan 26 ymgysylltu'n unigol
  • byddai 14 yn dewis ymgysylltu mewn grŵp

Pan holwyd ynglŷn â chyfansoddiad ffisegol y rhai a fyddai'n bresennol mewn grŵp, o'r 61 o ymatebwyr:

  • nid oedd gwahaniaeth gan y mwyafrif ynglŷn â phwy fyddai yn y grŵp (n=43)
  • byddai'n well gan 12 fod mewn grŵp gyda phobl a oedd yn debyg iddynt (o ran oedran, rhyw, math o brofiad)
  • dim ond un a nododd y byddai'n dewis bod mewn grŵp gyda phobl a oedd yn wahanol
  • byddai pump yn dewis ‘rhywbeth arall’. Nododd tri o'r ymatebwyr hyn y byddent ond yn dymuno bod mewn grwpiau o'r un rhyw; roedd pob un o'r ymatebwyr hyn yn fenywod ac ni fyddent am fod mewn grŵp gyda dynion na chyfranogwyr â chorff dynol. Grŵp llawn parch oedd unig ddymuniad ymatebydd arall; teimlai un nad oedd y cwestiwn yn berthnasol iddynt

Atebodd 38 o bobl y cwestiwn ynglŷn â pha mor aml roeddent am ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, ac o'r rhain:

  • yr opsiynau mwyaf poblogaidd oedd unwaith bob ychydig o fisoedd (n=12), unwaith y mis (n=9) ac ychydig o weithiau'r flwyddyn (n=7)
  • byddai'n well gan chwech o bobl ymgysylltu'n amlach nag unwaith y mis
  • byddai tri am ymgysylltu ychydig o weithiau y flwyddyn a byddai un am ymgysylltu lai nag unwaith y flwyddyn

Rhwystrau i ymgysylltu

Gofynnwyd i ymatebwyr i'r arolwg roi atebion agored pan gawsant eu holi am rwystrau i ymgysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â pholisi VAWDASV. Nodwyd llawer o rwystrau gwahanol gan ymatebwyr. Y pum rheswm a godwyd amlaf dros nodi neu deimlo na allant fod yn rhan o waith Llywodraeth Cymru ar gam-drin oedd:

  • diffyg ymwybyddiaeth ynglŷn â'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud
  • salwch meddwl neu anabledd
  • cyfyngiadau o ran amser
  • gwybod sut i ddod yn rhan o waith Llywodraeth Cymru ar gam-drin
  • ofn canlyniadau cymryd rhan

Ymhlith y rhwystrau eraill a godwyd roedd: diffyg hyder yng ngwerth eu profiad eu hunain, ofn y byddai cyfranogi yn ysgogi teimladau annymunol, y dymuniad i symud ymlaen, materion hygyrchedd megis deall iaith a chysyniadau, rhwystrau a oedd yn ymwneud â rhywedd, cam-drin hanesyddol, rhwystrau a oedd yn ymwneud ag oedran, lleoliad, amgylchiadau personol, ofn na fyddai neb yn eu credu, diffyg ymddiriedaeth yn y llywodraeth, teimladau o gywilydd, salwch corfforol neu anabledd, achosion cyfreithiol agored, y cam-drin yn parhau a'r dymuniad i barhau i fod yn anhysbys. Nid oedd gan rai unrhyw ddiddordeb mewn ymgysylltu.

Ar ôl dadansoddi'r rhwystrau hyn a nodwyd, cawsant eu trefnu'n bum thema fwy cyffredinol:

  • ymwybyddiaeth a dealltwriaeth
  • ofn
  • amgylchiadau personol
  • ffactorau demograffig
  • eraill

Annog unigolion i gymryd rhan

Gofynnwyd i'r ymatebwyr ddisgrifio'r hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn eu barn nhw i annog unigolion i gymryd rhan. Awgrymwyd amrywiaeth eang o gamau, ond yr ateb mwyaf cyffredin oedd ‘ddim yn siŵr’ (n=10). Cafodd rhai awgrymiadau eu gwneud gan sawl ymatebydd, eraill gan un neu ddau. Yr awgrymiadau mwyaf cyffredin (a wnaed gan bump neu fwy o ymatebwyr) oedd:

  • darparu adnoddau ar gyfer gwasanaethau arbenigol, gan gynnwys gwasanaethau ar gyfer yr un rhyw
  • hyrwyddo ffyrdd o gynnwys goroeswyr
  • mynd ati i chwilio am gyfranogwyr a chysylltu â nhw
  • gwrando o ddifrif ar brofiadau goroeswyr
  • galluogi cyfranogwyr i barhau i fod yn anhysbys a chadw cyfrinachedd
  • darparu mwy o gyllid/adnoddau ar gyfer gwasanaethau lleol
  • hysbysu cyfranogwyr yn llawn o'r hyn y mae ymgysylltu yn ei olygu
  • sicrhau y caiff profiadau cyfranogwyr eu defnyddio i lywio gwaith Llywodraeth Cymru

Ymhlith y ffyrdd eraill y gallai Llywodraeth Cymru annog unigolion i ymgysylltu, fel y'u hawgrymwyd gan ymatebwyr, roedd: drwy godi ymwybyddiaeth o VAWDASV a gwaith y llywodraeth, cydnabod ‘rhyw’ yn hytrach na ‘rhywedd’, cydnabod pob math o gam-drin, darparu mannau diogel i oroeswyr rannu profiadau, cynnig ôl-gymorth i gyfranogwyr, sicrhau bod profiadau yn cael eu cymryd o ddifrif, talu cyfranogwyr a thrwy fynd i'r afael â diwylliant beio'r dioddefwr.

Byddai rhai o'r awgrymiadau gan gyfranogwyr yn gymharol syml i Lywodraeth Cymru weithredu arnynt, megis codi ymwybyddiaeth o'i gwaith neu symleiddio iaith. Byddai eraill yn gofyn am fwy o waith cynllunio ac adnoddau arbenigol, megis darparu ôl-gymorth i gyfranogwyr er enghraifft drwy gwnsela.

Canfyddiadau ar ôl cyfuno'r dystiolaeth

Cafodd tystiolaeth a gasglwyd drwy holl weithgareddau ymchwil Cam 1 – yr ymgynghoriad ar y Fframwaith ar gyfer Ymgysylltu â Goroeswyr, yr arolwg a'r tri gweithdy theori newid – ei chyfuno, gyda chanfyddiadau allweddol i ystyried sut y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu'r Panel Ymgysylltu â Goroeswyr.

Rhwystrau o ran amser

O'r rhwystrau a godwyd o ran cyfranogi mewn panel o dan arweiniad goroeswyr, nodwyd amser yn aml – yn enwedig yn y gweithdai theori newid. Awgrymodd rhanddeiliaid nad oes gan oroeswyr ddigon o amser yn aml i gymryd rhan yng ngweithgareddau Llywodraeth Cymru megis gweithdai neu sesiynau panel. Cafodd hyn ei ategu yn yr arolwg. Ymhlith y rhesymau dros ddiffyg amser roedd cyfrifoldebau gofalu a gwaith.

Teimlai'r goroeswyr a gymerodd ran yn y gweithdai theori newid nad oedd digon o amser i ateb cwestiynau nac ystyried pynciau mor drylwyr ag yr hoffent. Mae'r adborth yn awgrymu bod gormod i'w drafod mewn sesiynau byr ac y byddai cael deunyddiau paratoi cyn y sesiwn wedi gwneud defnydd gwell o'u hamser.

Roedd yr amser a dreuliwyd yn teithio i'r gweithdai hefyd yn broblem i rai o'r cyfranogwyr. Cynhaliwyd pob un o'r gweithdai yng Nghaerdydd, a oedd yn golygu bod llawer yn gorfod teithio pellteroedd mawr i gymryd rhan neu na allent ddod o gwbl.

Talu cyfranogwyr

Trafodwyd a ddylid talu cyfranogwyr ymhob un o'r gweithdai ac fe'i hawgrymwyd gan ddau ymatebydd i'r arolwg er mwyn dangos bod cyfraniad goroeswyr yn cael ei werthfawrogi gan y llywodraeth. Roedd rhanddeiliaid a goroeswyr yn teimlo bod talu goroeswyr i gymryd rhan yn bwysig, yn enwedig os oedd grwpiau arbenigol eraill yn cael eu talu gan Lywodraeth Cymru.

Mynegwyd pryder ynghylch o ble y byddai'r adnoddau i dalu cyfranogwyr yn dod, gyda rhanddeiliaid yn nodi na ddylai gwasanaethau rheng flaen golli cyllid. Awgrymodd goroeswyr daliadau anariannol, megis cymorth sefydliadol, a fyddai'n dangos gwerth eu cyfraniadau o hyd.

Cododd swyddogion y llywodraeth oblygiadau moesegol talu goroeswyr i gymryd rhan yng ngwaith Llywodraeth Cymru. Dylai cyfranogi fod yn wirfoddol, ddim yn gamfanteisiol, ac mae talu cyfranogwyr yn peryglu enw da Llywodraeth Cymru. Gall taliadau hefyd ddenu pobl sydd am gael budd ariannol, yn hytrach na helpu i lywio polisi VAWDASV yng Nghymru. Yn y gweithdy i randdeiliaid, codwyd y pwynt y gallai talu goroeswyr newid dynameg grym rhwng y llywodraeth a chyfranogwyr. Felly, roeddent yn teimlo ei bod yn bwysig i raglen VAWDASV gyfan Llywodraeth Cymru fod yn seiliedig ar yr un agenda, sef Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015.

Roedd y goblygiadau o ran cost hefyd yn achos pryder i swyddogion y llywodraeth, oherwydd pe baent yn talu un grŵp, byddai'n rhaid iddynt dalu pob grŵp a byddai hyn yn draul ar arian cyhoeddus. Roedd goroeswyr yn beirniadu'r pwynt hwn, gan ddadlau bod ymgynghorwyr goroeswyr ar yr Ymchwiliad Annibynnol i Gam-drin Plant yn Rhywiol yn cael eu talu drwy ddefnyddio arian cyhoeddus.

Dulliau o ymgysylltu

Pa ddulliau ymgysylltu bynnag a gaiff eu defnyddio rhwng grwpiau o oroeswyr a Llywodraeth Cymru, bydd angen amrywiaeth ddigonol o ran hygyrchedd, gan gynnwys Braille, deunydd hawdd ei ddarllen a fersiynau mewn sawl iaith.

Roedd y rhai a gymerodd ran yn y gweithdai i oroeswyr yn glir iawn wrth nodi y byddai angen i'r dulliau fod yn barhaus a strwythuredig er mwyn cael effaith.

Un syniad ar gyfer ymgysylltu oedd sefydlu gwefan ganolog lle y byddai'r holl weithgareddau yn cael eu hysbysebu; gallai hyn fod yn addas i lawer o bobl gan mai'r rhyngrwyd oedd y dull ymgysylltu a ffefrir yn gyson ym mhob grŵp demograffig yn yr arolwg.

Grwpiau ffocws

Awgrymwyd ‘grŵp ffocws’ fel dull ymgysylltu dro ar ôl tro yn y gweithdai. Teimlid y gall cyfranogi mewn grwpiau ffocws fod yn brofiad cadarnhaol i oroeswyr VAWDASV gan eu bod yn cael cyfle i gyfarfod ag eraill sydd wedi bod drwy sefyllfaoedd tebyg, gan leihau teimladau o ynysigrwydd.

Roedd y dulliau o hwyluso grwpiau ffocws a ffafriwyd yn cynnwys: neilltuo digon o amser i drafod materion, gan roi cyfle i gyfranogwyr osod yr agenda, a sicrhau bod strwythur yn cael ei ddilyn a bod cyfranogwyr yn cael cyfle i rwydweithio cyn y gweithdy. Awgrymwyd y byddai'r ffactorau hyn yn helpu cyfranogwyr i deimlo'n fwy cyfforddus drwy gydol y profiad o ymgysylltu.

Nodi grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol

Nododd tîm polisi VAWDASV Llywodraeth Cymru  nifer o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy'r ymgynghoriad. Roedd y grwpiau hyn yn cynnwys dynion, pobl LHDTC+, pobl o gefndiroedd Duon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl anabl, pobl hŷn a phobl iau. Nododd rhanddeiliaid yn y gweithdy ddau grŵp arall sy'n llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau rheng flaen: y gymuned teithwyr a gweithwyr rhyw.

Mynd i'r afael â phroblemau o ran hygyrchedd

Ystyrid bod darparu deunyddiau mewn fformatau gwahanol yn bwysig o ran sicrhau bod y broses ymgysylltu mor gynhwysol â phosibl.

Awgrymwyd y defnydd o borthgeidwaid gweithwyr gwasanaethau rheng flaen, er enghraifft, gan randdeiliaid fel ffordd o godi ymwybyddiaeth ymhlith grwpiau goroeswyr heb gynrychiolaeth ddigonol o'r gwaith sy'n mynd rhagddo yn Llywodraeth Cymru a'r cyfleoedd i gymryd rhan.

Rhannu data

Teimlai cyfranogwyr yn y gweithdai y dylai fod cytundebau rhannu data ar waith cyn bod unrhyw ymgysylltu yn dechrau. Roedd hyn yn golygu, pe bai cyfranogwyr yn y panel goroeswyr yn cytuno i'w data gael eu rhannu, y gellir rhybuddio gwasanaethau rheng flaen pe bai risg uniongyrchol o gam-drin, er enghraifft.

Byddai diogelu manylion personol pobl drwy ddiogelwch data yn annog unigolion o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol i gymryd rhan, yn ôl un ymatebydd i'r arolwg.

Cyfryngau cymdeithasol

Er bod mwy yn ffafrio dulliau ar-lein o ymgysylltu yn ôl yr arolwg, canfu ymchwil i randdeiliaid mai'r cyfryngau cymdeithasol oedd y ffordd o ymgysylltu a ffafriwyd leiaf. Credid mai ofn cael eich cysylltu â gwasanaeth, neu ddatgelu pwy oedd unigolyn, oedd y rheswm dros hyn.

Cafodd cyfranogwyr yn y gweithdy i oroeswyr drafodaeth am ddefnyddio'r cyfryngau cymdeithasol fel adnodd i gyrraedd pobl na fyddent yn ymgysylltu drwy ddulliau mwy traddodiadol o bosibl.

Cysondeb iaith

Roedd sicrhau bod iaith yn gyson yn gyffredinol yn bwysig i gyfranogwyr ym mhob un o'r tri gweithdy. Mae hyn yn golygu peidio â defnyddio jargon, defnyddio iaith a arweinir gan oroeswyr ac iaith sy'n gyfarwydd i gymdeithas, nid dim ond swyddogion y llywodraeth a rhanddeiliaid.

Nododd swyddogion y llywodraeth pa mor hir oedd y broses o ddatblygu'r byrfodd VAWDASV a'i fod wedi cael ei drafod drwy gydol y broses. Felly, er y byddai'r term yn cael ei ddefnyddio o hyd, byddai lle i fod yn hyblyg o ran iaith yn y maes hwn.

Cynaliadwyedd

Dadleuwyd bod angen i'r Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr fod yn gynaliadwy yn yr hirdymor ac er mwyn sicrhau hyn, fod angen iddo fod yn hyfyw yn ariannol ac yn ymarferol.

Teimlid hefyd fod angen i'r Fframwaith nid yn unig crisialu panel amrywiol o oroeswyr o ran gwybodaeth ddemograffig, ond y dylai hefyd gynrychioli mathau gwahanol o gam-drin er mwyn bod yn wirioneddol gynrychioliadol.

O ran cynnal y Fframwaith, mae adborth o safon ar ganlyniadau'r gwaith y mae goroeswyr wedi cyfrannu tuag ato yn hanfodol yn ogystal ag ymgysylltu parhaus.

Terminoleg

Soniodd y rhai a fu'n bresennol yn y gweithdai sut mae terminoleg a'r ffordd y caiff ei defnyddio yn hollbwysig o ran hyrwyddo cynhwysiant a pharch. Trafodwyd y defnydd o'r gair ‘goroeswr’; roedd llawer yn teimlo bod y gair ‘arbenigwr’ neu'r ymadrodd ‘gweithiwr proffesiynol’ yn fwy priodol. Drwy wahaniaethu rhwng arbenigwyr a goroeswyr, teimlid y byddai llai o werth yn cael ei roi ar gyfraniad cyfranogwyr.

Hefyd, heriwyd y ffordd y cyfeirir at brofiadau goroeswyr gan ymchwilwyr. Credid bod defnyddio'r gair ‘stori’ i ddisgrifio profiadau cam-drin yn dangos diffyg parch a hyd yn oed dirmyg. Ar yr un pryd, defnyddir y gair ‘straeon’ mewn llenyddiaeth brif ffrwd, y cyfryngau a'r byd academaidd ar y pwnc. Mae'r tensiwn hwn yn tynnu sylw at y sensitifrwydd sydd ei angen wrth drafod pynciau fel VAWDASV o safbwynt terminoleg.

Gall terminoleg hefyd allgáu pobl. Efallai y bydd y rhai nad ydynt yn ystyried eu bod yn ‘oroeswr’ neu'n ‘ddioddefwr’ VAWDASV yn credu nad ydynt yn gymwys i gymryd rhan mewn gweithgareddau cysylltiedig, er eu bod wedi wynebu rhyw fath o gam-drin. Gall y defnydd o'r gair ‘goroeswr’ hefyd fethu â chwmpasu grwpiau penodol â phrofiad uniongyrchol o gam-drin; er enghraifft, plant, aelodau o deulu pobl sydd wedi cael eu cam-drin neu sydd ar gam cynnar iawn yn y broses o ddianc rhag sefyllfaoedd camdriniol.

Awgrymodd rhanddeiliaid dermau amgen yn lle ‘goroeswr’. Roedd y rhain yn cynnwys ‘cleient’, ‘dioddefwr trosedd’, ‘pobl yr effeithiwyd arnynt’ ac ‘arbenigwyr drwy brofiad’.            

Parch

Mae'r angen i barchu pobl yn unigol ac ar y cyd yn sail i gymaint o'r hyn a ddywedodd y cyfranogwyr wrth yr ymchwilwyr yn ystod y gweithdai. Mae neilltuo digon o amser, sylw ac adnoddau tuag at bwnc VAWDASV oll yn helpu i ddangos parch am yr hyn y mae goroeswyr wedi bod drwyddo a'r hyn sydd ganddynt i'w ddweud.

Soniodd llawer o gyfranogwyr am ddiffyg parch ac ymwneud symbolaidd yn unig wrth ddisgrifio eu profiad blaenorol gyda gweinidogion. Roeddent yn teimlo nad oedd gweinidogion yn neilltuo amser priodol i oroeswyr VAWDASV, a oedd yn aml yn cael rhyw ychydig o amser mewn amserlen brysur dros ginio, er enghraifft.

Mae ffyrdd o ddangos parch yn cynnwys amser dyladwy, dulliau ymgysylltu hygyrch, digolledu ariannol a buddsoddiad. Dylai ymgysylltu hefyd fod yn broses gilyddol, diffuant a pharhaus er mwyn ennyn teimladau dwysach o ymddiriedaeth a pharch rhwng cyfranogwyr a Llywodraeth Cymru.

Cynrychiolaeth

O ran ymgysylltu â goroeswyr, mae perygl y gwrandewir yn fwy ar y bobl fwyaf pendant ac ymroddedig wrth lunio polisi. Fodd bynnag, ni fydd hyn o anghenraid, yn cynrychioli profiadau pob goroeswr a mynegwyd pryder gan gyfranogwyr yn y gweithdai ynglŷn â chlywed amrywiaeth o safbwyntiau. Teimlid y gall llais cyfun fod yn bwerus o ran gweithredu.

Llesiant

Galwodd cyfranogwyr yn y gweithdy i oroeswyr am bolisi llesiant i bawb a oedd yn cymryd rhan yn ymchwil Llywodraeth Cymru. Gallai gwasanaeth o'r fath helpu pobl na fyddent fel arall yn gallu cymryd rhan mewn ymchwil, er enghraifft oherwydd anabledd.

Trafododd swyddogion rôl cyfrifoldeb personol o ran gofalu am lesiant. Teimlid bod ysgwyddo'r cyfrifoldeb am lesiant cyfranogwyr y tu hwnt i gylch gwaith y tîm polisi. Wrth ddisgwyl i gyfranogwyr ofalu am eu llesiant eu hunain, mae'r syniad bod goroeswyr yn gadarn ac yn alluog yn parhau.

Rheoli disgwyliadau

Roedd y rhai a fu'n bresennol yn y gweithdai yn teimlo bod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i reoli disgwyliadau cyfranogwyr yn yr ymchwil. Roedd cyfranogwyr yn y gweithdy i randdeiliaid yn tueddu i weld ‘darlun mawr’ rheoli disgwyliadau o ran pa ganlyniadau y gellir eu cyflawni'n realistig wrth gymryd rhan yn yr ymchwil.

Er mwyn rheoli disgwyliadau drwy gydol y broses, awgrymwyd bod adborth yn cael ei roi o hyd ynglŷn â sut y defnyddir eu data a'u cyfraniad. Dylid hefyd fod yn glir o'r cychwyn beth yn union mae cymryd rhan yn yr ymchwil yn ei olygu.

Cyd-destun cymdeithasol

Mae'r data a gasglwyd drwy'r gweithdai yn dangos mai ffenomenon sydd wedi'i wreiddio mewn cymdeithas yw VAWDASV. Mae siarad am gam-drin yn dal i gael ei ystyried yn rhywbeth ‘tabŵ’, ac mae angen gwella ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn sicrhau bod trafod VAWDASV yn dod yn rhywbeth mwy arferol. Cydnabu swyddogion y llywodraeth, er na all y Fframwaith Ymgysylltu â Goroeswyr ar ei ben ei hun fynd i'r afael â VAWDASV yng Nghymru, y gall gyfrannu at fudiad ehangach lle mae goroeswyr camdriniaeth yn cael eu credu a'u cynnwys mewn cymdeithas brif ffrwd.

Trafododd y cyfranogwyr y rôl y mae'r batriarchaeth yn ei chwarae o ran galluogi VAWDASV i ddigwydd. Roedd ymdeimlad bod dynion yn cael ‘eu hesgusodi’ am eu hymddygiad camdriniol am mai dynion ydynt. Er bod yr ystadegau yn dangos mai dynion yw'r mwyafrif o'r unigolion sy'n cam-drin, mae menywod hefyd yn cam-drin a dylent gael eu dwyn i gyfrif hefyd. At hynny, mae'r mwyafrif o ddioddefwyr VAWDASV yn fenywod, yn ôl data SYG. Fodd bynnag, dylid nodi na roddir gwybod am gryn nifer o achosion o gam-drin yn erbyn bechgyn a dynion o bosibl. Mae ymchwil yn dangos bod dynion yn cyfrif am leiafrif mawr o ddefnyddwyr gwasanaethau cam-drin rhywiol.

Ar yr un pryd, gall strwythurau patriarchaidd effeithio ar ganlyniadau i ddynion hefyd. Nododd un o'r ymatebwyr i'r arolwg nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif fel goroeswr camdriniaeth am mai dyn gwyn, heterorywiol ydyw. Dywedodd dynion eraill a ymatebodd eu bod yn teimlo cywilydd, ofn a diffyg ymddiriedaeth wrth sôn am eu profiadau.

Dadleuodd rhanddeiliaid nad oedd yr adnoddau ymgysylltu presennol yn gweithio i ddynion. Mae dull gweithredu addas i bawb sy'n seiliedig ar y cysyniad mai menywod yw dioddefwyr camdriniaeth yn allgáu cynifer o bobl ac felly nid yw'n gynrychioliadol o amrywiaeth y bobl sy'n cael eu cam-drin.

Mae mater lleoedd i fenywod yn unig yn fater pwysig a dilys iawn i rai ymatebwyr. Mae'n amlwg bod cyfran o'r ymatebwyr yn teimlo bod caniatáu i'r rhai sy'n hunaniaethu'n fenywod traws ddefnyddio gwasanaethau i fenywod yn unig yn achosi risgiau i ddiogelwch menywod sy'n fenywaidd yn ôl eu rhyw biolegol. Mae adborth o'r arolwg yn awgrymu bod y mater yn ymwneud â phryderon ynglŷn â diogelwch a gwanhau gwasanaethau i fenywod yn unig; bod gan fenywod cisryweddol yr hawl i le sy'n rhydd rhag pobl y maent yn canfod eu bod yn bobl â chorff dynol, p'un a ydynt yn bobl draws ai peidio. Roedd rhai yn pryderu y gall camdrinwyr gwrywaidd geisio esgus bod yn fenywod er mwyn cael mynediad i grwpiau goroeswyr a/neu unigolion wedi'u targedu.

Mae trawsffobia mewn grwpiau goroeswyr VAWDASV yn bwnc hynod sensitif y bydd angen i swyddogion polisi ei ystyried. Mae risg y bydd pobl draws sy'n datgelu eu hunaniaeth rhywedd mewn cyfarfodydd grŵp yn wynebu trawsffobia gan gyfranogwyr eraill. Gallai hyn beri iddynt gael eu hallgáu rhag cyfranogi'n llawn yng ngwaith Llywodraeth Cymru ar VAWDASV, a pharhau i fod yn grŵp cymdeithasol heb gynrychiolaeth ddigonol.

Argymhellion

Gwneir yr argymhellion canlynol ar gyfer recriwtio a hwyluso'r Panel Ymgysylltu â Goroeswyr.

  • Ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu wedi'i dargedu gyda grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol drwy ddefnyddio sefydliadau cymorth priodol.
  • Sicrhau bod cylch gwaith y panel yn eglur i gyfranogwyr a bod eu disgwyliadau yn briodol.
  • Cynnig amrywiaeth o opsiynau i oroeswyr ymgysylltu â Llywodraeth Cymru.
  • Ystyried digolledu cyfranogwyr.
  • Llunio strategaeth glir ar gyfer recriwtio er mwyn sicrhau lleisiau amrywiol ar y panel peilot.
  • Sicrhau bod gweithgarwch ymgysylltu yn parchu dymuniad goroeswyr i barhau i fod yn anhysbys a'u diogelwch.
  • Cydnabod y materion ynglŷn â lleoedd i ‘fenywod yn unig’ a thrawsffobia a mynd i'r afael â nhw'n uniongyrchol.
  • Ymgynghori â chyfranogwyr ynglŷn â'r termau i'w defnyddio am oroeswyr a'r rhesymau dros ddefnyddio'r termau hynny.
  • Bod yn ymwybodol o anawsterau ychwanegol i  oroeswyr o gefndiroedd penodol, yn enwedig grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol.

Y camau nesaf

Cafodd yr ymchwil o dan Gam 1 ei chynnal ar yr un pryd â Cham 2, a gyhoeddir mewn adroddiad ar wahân. Mae Cam 2 yn gwerthuso Panel Ymgysylltu â Goroeswyr peilot ac yn gwneud argymhellion ar gyfer ei roi ar waith yn barhaol.

Manylion cyswllt

Awduron yr adroddiad: H Smith, L Entwistle and J Coates

Barn yr ymchwilwyr a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r canlynol:
Dr Jo Coates
E-bost: rhyf.irp@llyw.cymru

Rhif ymchwil gymdeithasol: 57/2021
ISBN digidol: 978-1-80195-817-2

Image
GSR logo