Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil datblygu cynnar i lywio'r gwaith o gynllunio a darparu bwndeli babanod.

Ym mis Awst a Medi 2019, aeth ymchwilwyr cymdeithasol Llywodraeth Cymru ati i wneud gwaith ymchwil cynnar i lywio’r gwaith o gynllunio a gweithredu'r cynllun peilot Bwndel Babi.

Mae ein hymchwil cychwynnol yn dangos yn glir bod rhieni'n cefnogi'r syniad ac y byddent yn hoffi derbyn Bwndel Babi, a bod gweithwyr iechyd proffesiynol hefyd yn gefnogol ar y cyfan. Fodd bynnag, roedd barn gref gan rieni newydd a gweithwyr iechyd proffesiynol ynghylch cynnwys y Bwndel Babi.

Roedd rhieni a gweithwyr iechyd proffesiynol yn teimlo y dylai menywod beichiog gael gwybod am y Bwndel Babi yn un o'u cyfarfodydd gyda'i bydwraig neu yn yr apwyntiad ar gyfer sgan 20 wythnos, ac y dylid gofyn iddynt a hoffent ei gael. Os felly, dylai'r bwndel gael ei ddosbarthu iddynt drwy gludwr rhwng wythnosau 32 a 36 o'u beichiogrwydd.

Bydd yn bwysig cynnal gwerthusiad cynhwysfawr o'r cynllun peilot er mwyn cael syniad cychwynnol o effaith bosibl y cynllun a'r rhwystrau posibl.

Adroddiadau

Ymchwil cynnar i lywio datblygiad y cynllun peilot bwndeli babanod , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB

PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Faye Gracey

Rhif ffôn: 0300 025 7459

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.