Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Diverse Cymru i wneud ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Nod yr ymchwil yw edrych ar fecanweithiau i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, ac i wneud argymhellion ar gyfer newidiadau mewn deddfwriaeth, polisi, canllawiau ac unrhyw newidiadau eraill er mwyn cyflawnir nod hwn. Fel rhan o’r ymchwil hon, bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru'n casglu gwybodaeth drwy gynnal arolwg.

Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr ymchwil hon. Bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru yn dileu unrhyw ddata personol a ddarperir, ac yn gwneud unrhyw ddata crai yn ddienw, cyn ei rannu â Llywodraeth Cymru.

Bydd yr wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect hwn yn cael ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac, o bosibl, mewn cyhoeddiadau eraill fel erthyglau mewn cyfnodolion, blogiau neu ymatebion i ymgynghoriad, ac efallai y cyfeirir at yr wybodaeth hon mewn cynadleddau, seminarau academaidd neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill a gynhelir gan Brifysgol Abertawe/Prifysgol Bangor/Diverse Cymru.

Mae’ch cyfraniad at yr ymchwil hon yn gwbl wirfoddol. Fodd bynnag, mae’ch profiadau a’ch safbwyntiau’n bwysig er mwyn llywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon ym Mhrifysgol Abertawe yw Simon Hoffman.

Cyfeiriad e-bost: s.hoffman@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 513004

Pa ddata personol a gedwir gennym, ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.

Gofynnwyd i chi gwblhau arolwg fel rhan o'r ymchwil hon gan fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed safbwyntiau rhanddeiliaid proffesiynol sy'n cynrychioli sefydliadau eu cyflogwyr ar yr heriau o ran cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru a sut y gallai/dylai Llywodraeth Cymru ddefnyddio pwerau datganoledig i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae’r arolwg yn cael ei greu a’i ddosbarthu gan Brifysgol Abertawe a Diverse Cymru ar ran Llywodraeth Cymru:

  • Os ydych yn rhanddeiliad ar ran sefydliad eich cyflogwr, mae’ch manylion cyswllt ar gael i Brifysgol Abertawe gan eich bod yn  aelod o’r un rhwydwaith o sefydliadau.
  • Fel arall, efallai eich bod wedi cael yr arolwg gan gydgysylltydd rhwydwaith.
  • Os ydych yn berson sydd â phrofiadau byw, mae Diverse Cymru wedi cael gafael ar eich manylion cyswllt gan eu rhwydwaith o unigolion sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn cyfleoedd ymgysylltu ac ymgynghori.

Fel rhan o'r prosiect hwn, dim ond Prifysgol Abertawe ac Diverse Cymru fydd yn defnyddio eich manylion cyswllt i anfon arolygon. Pan fyddwch yn ymateb i arolwg, nid yw’n cofio eich cyfeiriad e-bost na'ch cyfeiriad IP ac felly mae'r arolwg yn ddienw.

Nid yw'r ymchwil hon yn gofyn am gasglu data personol ychwanegol gennych. Os byddwch yn dewis darparu data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod o'r ymatebion sy’n cael eu darparu gennych, neu’ch cysylltu eich hunaniaeth â nhw. Os byddwch yn gwneud ymholiad neu gŵyn ac yn darparu data personol yn gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd yn anfon y cais at y swyddog perthnasol yn unig ac wedyn yn ei ddileu o'r data ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich data?

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth fel rhan o'r ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.

Mae eich cyfraniad yn gwbl wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hyn yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arnynt ynghylch ei gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir yn y prosiect hwn, er enghraifft, ar gyfer:

  • darparu gwell dealltwriaeth o gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
  • datblygu, cyflwyno, monitro a gwerthuso polisïau sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol
  • gwneud argymhellion o ran deddfwriaeth, polisi, canllawiau, neu newidiadau eraill

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Caiff yr wybodaeth bersonol a roddir i Brifysgol Abertawe ei storio bob amser ar weinydd diogel. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn sy'n gallu cael mynediad at y data. Dim ond at ddibenion ymchwil y bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru yn defnyddio'r data hyn.   

Wrth gynnal arolygon, mae Prifysgol Abertawe’n defnyddio rhaglen meddalwedd arolygon o’r enw Survey Monkey ac mae Diverse Cymru'n defnyddio rhaglen o’r enw Smart Survey. Rydym wedi sicrhau bod Survey Monkey a Smart Survey yn cydymffurfio â GDPR a’u bod yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.  

Mae gan Brifysgol Abertawe a Diverse Cymru weithdrefnau i fynd i'r afael ag achosion lle mae yna amheuaeth o dorri rheolau diogelu data. Os oes yna amheuaeth bod rheolau diogelu data wedi cael eu torri, bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru yn adrodd am hyn i Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi gwybod i chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol, lle y bo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Bydd yr holl ddata a gesglir drwy'r gwaith ymchwil hwn yn cael eu cadw mewn fformat dienw. Ni fyddant yn cynnwys eich manylion cyswllt, a bydd unrhyw wybodaeth mewn atebion penagored a allai arwain at adnabod person yn cael ei dileu. Bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adroddiad hwn yn cynnwys gwybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod unrhyw unigolyn sydd wedi cymryd rhan.

Am ba mor hir rydym yn cadw eich data personol?

Bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru yn cadw data personol yn ystod cyfnod y contract, a chaiff unrhyw ddata personol nad ydynt eisoes wedi’u dileu o’r ymatebion ymchwil eu dileu gan Brifysgol Abertawe a Diverse Cymru dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae’r manylion cyswllt a ddefnyddiwyd i anfon dolenni at yr arolwg eisoes yn cael eu cadw gan Brifysgol Abertawe a Diverse Cymru a bydd y rhain yn cael eu cadw yn unol â’u diben gwreiddiol. Bydd Prifysgol Abertawe a Diverse Cymru'n darparu fersiwn ddienw o’r data i Lywodraeth Cymru, na fydd yn cynnwys gwybodaeth y mae’n bosibl ei defnyddio i’ch adnabod.

Hawliau unigolion

O dan y GDPR mae gennych hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol a ddarperir gennych fel rhan o'r ymchwil hon, sef hawliau i wneud y canlynol:

  • Cael mynediad at gopi o'ch data eich hun;
  • Ei gwneud yn ofynnol inni gywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
  • Gwrthwynebu neu gyfyngu ar unrhyw brosesu (o dan amgylchiadau penodol);
  • Mynnu bod eich data'n cael eu dileu (o dan amgylchiadau penodol); a
  • Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data sy'n cael eu darparu fel rhan o'r astudiaeth hon neu os hoffech arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â'r swyddog canlynol:

Enw: Steven Macey
Cyfeiriad e-bost: Steven.Macey@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000 622253

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru