Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Prifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Bangor, Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru i gynnal ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. Nod yr ymchwil hon yw ymchwilio i ddulliau o gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a gwneud argymhellion ar gyfer diwygiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu ganllawiau, neu ddiwygiadau eraill er mwyn cyrraedd y nod hwn. Fel rhan o'r ymchwil hon, bydd Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn casglu gwybodaeth drwy grwpiau ffocws.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer yr ymchwil. Fodd bynnag, bydd Diverse Cymru a Chymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn dileu unrhyw ddata personol a roddir, ac yn gwneud y data craidd yn ddienw cyn iddynt gael eu rhannu â Llywodraeth Cymru.

Caiff y wybodaeth a gesglir yn ystod y prosiect ei chynnwys mewn adroddiad a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru ac mewn cyhoeddiadau eraill o bosibl, megis erthyglau mewn cyfnodolion, blogiau neu ymatebion i ymgyngoriadau, a gellir cyfeirio ati mewn cynadleddau, seminarau academaidd neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill a gynhelir gan Brifysgol Abertawe/Prifysgol Bangor/Diverse Cymru/Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru.

Mae eich Cyfranogiad yn yr ymchwil hon yn hollol wirfoddol. Fodd bynnag, mae eich barn a'ch profiadau yn bwysig er mwyn helpu i lywio polisïau Llywodraeth Cymru.

Y cyswllt ar gyfer yr ymchwil hon ym Mhrifysgol Abertawe yw Simon Hoffman.

Cyfeiriad e-bost: s.hoffman@swansea.ac.uk
Rhif ffôn: 01792 513004

Pa ddata personol rydym yn eu cadw ac o ble y cawn ni'r wybodaeth hon?

Diffinnir data personol o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) fel 'unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson adnabyddadwy y gellir ei adnabod, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod'.

Fe'ch gwahoddwyd i gymryd rhan mewn grŵp ffocws fel rhan o'r ymchwil hon am fod Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed barn pobl â phrofiad go iawn, am y graddau y mae unigolion yn deall deddfwriaeth cydraddoldeb a hawliau dynol, a ph'un a ydynt yn meddwl bod y ddeddfwriaeth hon yn hyrwyddo ac yn diogelu eu cydraddoldeb a’u hawliau dynol yn ddigonol. Cynhelir y grwpiau ffocws gan Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru wedi cael eich manylion cyswllt o'u rhwydwaith o unigolion sy'n awyddus i gymryd rhan mewn cyfleoedd ymgysylltu ac ymgynghori, neu o fanylion cyswllt a roddwyd gennych chi eich hun. Dim ond gan Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn unig y caiff eich manylion cyswllt eu defnyddio, a hynny er mwyn trefnu grwpiau ffocws fel rhan o'r prosiect ymchwil hwn a, gyda'ch caniatâd, i'ch gwahodd i roi adborth ar gynigion i gryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol fel rhan o gam prawf maes yr ymchwil.

Mae eich cyfranogiad yn wirfoddol. Os nad ydych am gymryd rhan na chael negeseuon atgoffa gennym, dylech ymateb i'r e-bost yn eich gwahodd i gymryd rhan, a chaiff eich manylion eu dileu.

Nid oes angen casglu data personol ychwanegol gennych ar gyfer yr ymchwil hon, heblaw am fideo o'r grŵp ffocws, os byddwch yn cytuno y gellir recordio'r grŵp ffocws. Cynhelir y grwpiau ffocws ar-lein lle y bo'n bosibl, er y cynhelir grŵp ffocws wyneb yn wyneb ar gyfer unigolion sy'n ei chael hi'n anodd neu'n amhosibl ymgysylltu ar-lein. Rydym yn awyddus i recordio'r grwpiau ffocws am resymau gweithredol. Byddwn yn egluro hyn ichi cyn i'r grŵp ffocws ddechrau, a chewch y cyfle i ddweud wrthym os nad ydych yn fodlon i ni recordio'r drafodaeth. Dim ond os bydd pawb sy'n cymryd rhan yn y grŵp ffocws yn cytuno y gellir ei recordio y caiff ei recordio. Os caiff grwpiau ffocws eu recordio, caiff data personol eu dileu wrth drawsgrifio. Caiff recordiadau eu dileu cyn gynted ag y caiff y broses hon eu cwblhau. Os na chaiff y grŵp ffocws ei recordio, ni chaiff data personol eu cynnwys yn y nodiadau ysgrifenedig a gaiff eu llunio yn dilyn y grŵp ffocws.

Os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o'r ymchwil, byddwn yn ceisio peidio â'ch adnabod chi o'r ymatebion y byddwch yn eu darparu, na chysylltu eich enw â'r rhain. Os byddwch yn cyflwyno ymholiad neu gŵyn ac yn rhoi data personol sy'n gofyn am ymateb, bydd yr ymchwilydd ond yn anfon y cais ymlaen at y swyddog perthnasol ac wedi hynny bydd yn ei ddileu o ddata'r ymchwil.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth wrth gasglu'r data hyn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i gyflawni swyddogaethau a rôl graidd Llywodraeth Cymru.

Mae cyfranogiad yn hollol wirfoddol. Mae astudiaethau ymchwil fel hon yn bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gall weithredu arni am ei gallu i gyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth. Gellid defnyddio'r wybodaeth a gesglir fel rhan o'r ymchwil hon i wneud y canlynol, er enghraifft:

  • darparu dealltwriaeth well o gydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru
  • datblygu, darparu, monitro a gwerthuso polisïau sy'n ymwneud â chydraddoldeb a hawliau dynol
  • gwneud argymhellion ar gyfer diwygiadau i ddeddfwriaeth, polisïau neu ganllawiau, neu ddiwygiadau eraill

Pa mor ddiogel yw eich data personol?

Caiff gwybodaeth bersonol a roddir i Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru ei storio ar weinydd diogel bob amser. Dim ond nifer cyfyngedig o ymchwilwyr sy'n gweithio ar y prosiect hwn a all gael gafael ar y data. Dim ond at ddibenion ymchwil yn unig y bydd Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru  yn defnyddio’r data hyn.  

Mae gweithdrefnau ar waith gan Diverse Cymu a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru  i fynd i'r afael ag unrhyw achosion a amheuir o dorri diogelwch data. Os ceir achos a amheuir o dorri diogelwch, bydd Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn rhoi gwybod am hyn i Lywodraeth Cymru, a fydd yn eich hysbysu chi yn ogystal ag unrhyw reoleiddiwr cymwys lle mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i ni wneud hynny.

Adroddir ar yr holl ddata a gesglir drwy'r ymchwil hon mewn fformat dienw. Ni fydd yn cynnwys eich manylion cyswllt a bydd unrhyw wybodaeth adnabyddadwy mewn atebion agored yn cael ei dileu. Bydd Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn defnyddio'r wybodaeth a gesglir i lunio adrannau o adroddiad a gaiff ei anfon i Brifysgol Abertawe, er mwyn cael ei gynnwys mewn adroddiad terfynol, a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Ni fydd yr adrannau o'r adroddiad a gaiff eu llunio gan Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru, na'r adroddiad terfynol a gaiff ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i adnabod cyfranogwyr unigol.

Am ba hyd y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn cadw'r data personol yn ystod cyfnod y contract. Caiff unrhyw ddata personol nas dilëwyd eisoes o'r ymatebion ymchwil eu dileu dri mis ar ôl diwedd y contract. Mae hyn yn cynnwys eich manylion cyswllt.  Bydd Diverse Cymru a Cymru Ifanc/Plant yng Nghymru yn rhoi adrannau o adroddiad i Brifysgol Abertawe, a chânt eu hymgorffori wedyn mewn adroddiad terfynol i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru. Bydd yr adroddiad terfynol hwn yn cynnwys fersiwn dienw o'r data, na fydd yn cynnwys unrhyw wybodaeth y gellid ei defnyddio i'ch adnabod. 

Hawliau unigol

O dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol rydych chi'n ei darparu fel rhan o'r ymchwil hon. Mae gennych yr hawl:

  • I gael gafael ar gopi o'ch data eich hun;
  • I ofyn inni gywiro gwallau yn y data hynny;
  • I wrthwynebu prosesu data neu gyfyngu ar brosesu data (o dan amgylchiadau penodol);
  • I ofyn i'ch data gael eu 'dileu' (o dan amgylchiadau penodol);
  • I gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth:

Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF.
Ffôn: 01625 545 745 neu 0303 123 1113
Gwefan

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill am y ffordd y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data sy'n cael eu darparu fel rhan o'r astudiaeth hon neu os hoffech arfer eich hawliau drwy ddefnyddio'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, cysylltwch â'r swyddog canlynol:

Enw: Steven Macey
Cyfeiriad e-bost: Steven.Macey@llyw.cymru
Rhif ffôn: 03000 622253

Dyma'r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ
E-bost: DataProtectionOfficer@llyw.cymru