Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwilio i effaith bosibl polisi Isafbris Uned am alcohol a sut y gallai hyn gymharu â chodi’r doll ar alcohol.

Y cwestiynau ymchwil penodol i gael sylw yw:

  • Defnyddio data newydd a dulliau modelu newydd i ddarparu amcangyfrifon newydd o effaith isafbris uned (ar lefau sy’n codi fesul 5c o 35c i 70c) ar ganlyniadau o ran faint o alcohol a gaiff ei yfed, gwariant, iechyd, troseddu a’r gweithle, a sut y bydd yr effeithiau hyn yn amrywio ar draws gwahanol lefelau yfed ac amddifadedd.
  • Pennu’r cynnydd cyfrannol yn y doll ar alcohol y byddai ei angen i gyflawni’r un lleihad o ran faint o alcohol a gaiff ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol (y rheiny sy’n yfed mwy na 14 uned yr wythnos i ddynion a menywod) ag isafbris uned o 50c, a dangos sut y mae effeithiau’r ddau bolisi hyn (isafbris uned a chodi’r doll) wedi’u dosbarthu’n wahanol ar draws y boblogaeth.
  • Pennu’r cynnydd cyfrannol yn y doll ar alcohol y byddai ei angen i gyflawni’r un lleihad yn nifer y marwolaethau y gellir eu priodoli i alcohol ymysg yfwyr peryglus a niweidiol ag isafbris uned o 50c, a dangos y gwahaniaethau o ran dosbarthiad yr effeithiau ar draws y boblogaeth.

Mae’r adroddiad llawn yn cyflwyno’r holl ganlyniadau ar draws yr amrywiol bolisïau ar isafbris uned. Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno’r canfyddiadau ynghylch y cynnydd cyfrannol mewn tollau alcohol fyddai’n ofynnol i sicrhau’r un gostyngiad mewn defnydd o alcohol, a’r un gostyngiad mewn marwolaethau y mae modd eu priodoli i alcohol ymysg yfwyr peryglus ac yfwyr niweidiol, ag isafbris uned o 50c.

Adroddiadau

Gwerthusiad yn seiliedig ar fodel o effaith gymharol polisïau Isafbris Uned a threthu yng Nghymru: Adroddiad terfynol , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 5 MB

PDF
5 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Gwerthusiad yn seiliedig ar fodel o effaith gymharol polisïau Isafbris Uned a threthu yng Nghymru: Adroddiad terfynol - Crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 695 KB

PDF
695 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Janine Hale

Rhif ffôn: 0300 025 6539

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.