Ymchwil ansoddol ag ymarferwyr ar baratoadau ar gyfer diwygiadau cwricwlwm ac asesu, 2022 (crynodeb)
Cyfweliadau ag uwch arweinwyr ac ymarferwyr i helpu deall eu profiadau a heriau wrth baratoi am ddiwygio cwricwlwm.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil ansoddol gyda 48 o uwch arweinwyr ac ymarferwyr mewn ysgolion ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhaliwyd gan Ymchwil Arad ar ran Llywodraeth Cymru ddiwedd hydref 2021, a hynny'n edrych ar baratoadau ysgolion ar gyfer cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru. Mae'n dilyn adroddiad yr arolwg Paratoadau ar gyfer Diwygiadau Cwricwlwm ac Asesu 2022 a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2022 ac mae'n rhoi rhagor o fanylion a dyfnder er mwyn llywio polisi a chymorth i ysgolion.
Methodoleg a dadansoddiad
Dewiswyd y rhai i’w cyfweld o blith y rhai a ymatebodd i'r arolwg Paratoadau ar gyfer Diwygiadau Cwricwlwm ac Asesu 2022 (a gynhaliwyd ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021) ac a nododd eu bod yn fodlon inni ailgysylltu â nhw. Nod y cyfweliadau hyn oedd cael dealltwriaeth fanylach o brofiadau ysgolion unigol ac, yn benodol, dysgu pa elfennau o wireddu’r cwricwlwm a oedd yn gweithio’n dda a pha elfennau nad oeddent yn gweithio cystal.
Mae’r canfyddiadau a gyflwynir yn yr adroddiad hwn yn seiliedig ar ddadansoddiad o 48 o gyfweliadau: 35 gydag uwch arweinwyr ac 13 gydag ymarferwyr. Recriwtiwyd sampl fwriadus o bobl i'w cyfweld i sicrhau bod amrywiaeth o ysgolion a lleoliadau yn cael eu cynnwys:
- mathau o leoliad (ysgolion cynradd, uwchradd, pob oed, arbennig, unedau cyfeirio disgyblion)
- cyfrwng iaith (cyfrwng Cymraeg, cyfrwng Saesneg, dwyieithog, dwy ffrwd)
- ymatebwyr i’r arolwg a oedd yn teimlo bod eu hysgol mewn sefyllfa dda i ddylunio eu cwricwlwm eu hunain erbyn mis Medi 2022 yn ogystal â’r rhai nad oeddent yn teimlo eu bod yn y sefyllfa honno
Prif ganfyddiadau
Cynnydd cyffredinol
Dywedodd mwyafrif helaeth yr uwch arweinwyr ac ymarferwyr eu bod wedi gwneud cynnydd o ran eu paratoadau ar gyfer y cwricwlwm rhwng haf 2021, pan gynhaliwyd yr arolwg, a diwedd hydref 2021. Roedd ysgolion wedi dechrau cynllunio a threialu dulliau newydd yn fwy manwl, ac roedd tystiolaeth o fwy o gydweithio a gweithgarwch rhwydweithio rhwng ysgolion. Dywedodd llawer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr eu bod wedi gosod cerrig milltir yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol er mwyn bod yn barod i ddechrau cyflwyno'r newidiadau o fis Medi 2022 ymlaen. Roedd y canfyddiadau felly'n dangos momentwm cynyddol yng ngweithgarwch ysgolion, o gymharu â'r sefyllfa a adroddwyd gan ysgolion ar ddiwedd y flwyddyn ysgol flaenorol. Teimlai nifer bach iawn o’r rhai a gyfwelwyd mai ychydig iawn o gymorth, os o gwbl, a gafodd eu hysgol i gynorthwyo gyda’r paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm ac, o ganlyniad, ychydig iawn o gynnydd a wnaed o ran y gwaith cynllunio.
Canfyddiadau'n ymwneud ag agweddau penodol ar baratoi'r cwricwlwm
Mae ysgolion yn cymryd camau i ddatblygu eu hymwneud â'r broses o ddiwygio’r cwricwlwm a'u dealltwriaeth ohoni. Disgrifiodd y rhan fwyaf o uwch arweinwyr ac ymarferwyr amrywiaeth o gamau yr oedd eu hysgolion wedi’u cymryd i wella dealltwriaeth ymarferwyr o'r Cwricwlwm i Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys datblygu eu canllawiau mewnol eu hunain a threfnu gweithgaredd dysgu proffesiynol.
Mae ysgolion yn parhau i wneud cynnydd gyda chynllunio'r cwricwlwm. Mewn llawer o ysgolion, roedd uwch arweinwyr wedi neilltuo neu recriwtio aelodau o staff i fod yn arweinwyr Maes; roedd yr unigolion hyn yn gyfrifol am arwain ymdrech ar y cyd, gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr i ddatblygu cynlluniau cwricwlwm ar draws y Meysydd Dysgu a Phrofiad. Nododd y rhan fwyaf o uwch arweinwyr y cyfwelwyd â nhw fod cyfyngiadau amser a’r aflonyddwch a achoswyd yn sgil y pandemig, fodd bynnag, wedi effeithio ar eu paratoadau ar gyfer y cwricwlwm.
Adroddodd y rhan fwyaf o ysgolion gynnydd o ran y cydweithio a’r gweithgarwch rhwydweithio rhwng ysgolion, y mae llawer ohono’n cael ei arwain gan Lywodraeth Cymru a chonsortia rhanbarthol (e.e. drwy’r Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Gweithredu'r Cwricwlwm) a rhwydweithiau rhanbarthol.
Pwysleisiodd rhai uwch arweinwyr yr angen am ddull graddol ac iteraidd o ymdrin â phob agwedd ar y broses ddiwygio, gan addasu a gwella'r cwricwlwm yn hytrach na dechrau o'r newydd a gwneud newid mawr.
Dywedodd y rhan fwyaf o uwch arweinwyr ac ymarferwyr eu bod yn awyddus i sicrhau bod dysgwyr yn gallu cyfrannu mewn ffyrdd ystyrlon at ddyluniad y cwricwlwm. Roedd llawer wedi cynnwys dysgwyr yn y broses o ddatblygu gweledigaeth eu hysgol ar gyfer y cwricwlwm a dehongli'r pedwar diben.
Nododd y rhan fwyaf o'r ymarferwyr eu bod wedi dechrau cael trafodaethau mwy anffurfiol am gynllunio’r cwricwlwm ac addysgeg. Fodd bynnag, adroddwyd bod yr ymgysylltiad â’r diwygiadau yn anghyson mewn rhai ysgolion: yn yr ysgolion hyn roedd yr ymarferwyr yn ystyried bod trafodaethau a phenderfyniadau ynghylch diwygio’r cwricwlwm yn cael eu cynnal ymhlith uwch arweinwyr ac nad oedd ymarferwyr yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses. Roedd ymarferwyr mewn ysgolion uwchradd yn llai tebygol na’r rhai mewn ysgolion cynradd o adrodd eu bod yn teimlo’n ymwybodol o weithgarwch diwygio’r cwricwlwm yn eu hysgol.
Roedd llawer o uwch arweinwyr ac ymarferwyr yn parhau i ddweud bod diffyg eglurder ynghylch agweddau allweddol ar y broses ddiwygio. Yn nodedig, adroddwyd bod lefel is o ddealltwriaeth a diffyg cymorth ymarferol i ysgolion wrth iddynt ddatblygu eu dulliau asesu a chynnydd. Mynegodd llawer o'r rhai a gyfwelwyd bryder am y cysylltiad rhwng dulliau asesu ac atebolrwydd a threfniadau arolygu ysgolion yn y dyfodol. Amlygodd y rhai a gyfwelwyd hefyd bwysigrwydd sicrhau dealltwriaeth gyson o drefniadau asesu er mwyn cefnogi cynnydd dysgwyr rhwng ysgolion cynradd ac uwchradd. Dywedodd llawer eu bod yn aros am arweiniad pellach ar asesu er mwyn cael eglurder ynghylch y materion hyn.
Roedd y rhan fwyaf o'r rhai a gyfwelwyd o ysgolion uwchradd yn teimlo bod y diffyg eglurder ynghylch ffurf cymwysterau yn y dyfodol i ddisgyblion 16 oed yn rhwystr i ddeall y newidiadau i'r cwricwlwm ac ymgysylltu â nhw.
Roedd ansawdd a swm y wybodaeth a’r canllawiau a roddwyd i ysgolion yn thema amlwg a godwyd gan uwch arweinwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd yn ystod y cyfweliadau. Teimlai rhai fod y canllawiau cenedlaethol yn rhoi digon o wybodaeth am y diwygiadau. Fodd bynnag, roedd eraill yn teimlo nad oedd y canllawiau a gawsant yn cynnwys y manylion angenrheidiol i’w helpu i ddylunio a chynllunio eu cwricwlwm, gan nodi yr hoffent weld enghreifftiau o’r hyn yr oedd proses ddylunio neu gynllunio effeithiol yn ei olygu.
Dywedodd llawer o'r uwch arweinwyr ac ymarferwyr hefyd fod y diffyg sicrwydd ynghylch y camau yr oeddent yn eu cymryd i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd yn effeithio ar eu hyder ac yn llesteirio cynnydd.
Mynegodd rhai uwch arweinwyr bryder bod y gweithlu addysg, yn eu hysgolion eu hunain ac yn gyffredinol, yn brin o brofiad a sgiliau i ddylunio cwricwlwm newydd. Nododd uwch arweinwyr hefyd bryderon ynghylch diffyg hyder ymhlith y staff. Roedd hyn yn fwy amlwg yn y cyfweliadau a gynhaliwyd yn hydref 2021 nag yn nata'r arolwg a gasglwyd yn ystod haf 2021, ac roedd yn fwy cyffredin ymhlith uwch arweinwyr mewn ysgolion uwchradd.
Cymysg oedd y farn ynghylch y cyfleoedd dysgu proffesiynol yr oedd uwch arweinwyr ac ymarferwyr wedi manteisio arnynt i gefnogi diwygio’r cwricwlwm. Teimlai rhai fod y gefnogaeth a ddarparwyd yn werthfawr ac wedi helpu i ddatblygu eu dealltwriaeth o'r Cwricwlwm i Gymru. Dywedodd eraill nad oedd gweithgaredd dysgu proffesiynol wedi canolbwyntio’n ddigonol ar enghreifftiau ymarferol i gefnogi eu paratoadau ar gyfer diwygio’r cwricwlwm. Nododd rhai uwch arweinwyr ac ymarferwyr nad oeddent wedi cael cymaint o gyfleoedd dysgu proffesiynol ag yr oeddent wedi'i ddymuno, a mynegwyd yr angen am ragor o gyfleoedd dysgu proffesiynol.
Roedd y rhan fwyaf o’r rhai a gyfwelwyd yn cydnabod bod adolygu, myfyrio a gwerthuso parhaus yn debygol o fod yn elfennau hollbwysig o’r broses ddiwygio dros y blynyddoedd i ddod. Dywedodd y rhan fwyaf o uwch arweinwyr a rhai ymarferwyr eu bod yn ansicr ynghylch sut i werthuso i ba raddau y mae cyflwyno’r cwricwlwm yn cefnogi deilliannau dysgwyr.
Cyfeiriodd y rhan fwyaf o’r uwch arweinwyr a gyfwelwyd at y costau ychwanegol i ysgolion yn sgil paratoi ar gyfer diwygio’r cwricwlwm. Roedd y costau a adroddwyd amlaf gan ysgolion yn ymwneud â'r: amser a dreuliwyd y tu allan i'r ystafell ddosbarth gan athrawon i gynllunio a dylunio'r cwricwlwm; costau staffio ychwanegol yn gysylltiedig â chreu swyddi newydd neu staff yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol; a gweithgaredd dysgu proffesiynol yn gysylltiedig â pharatoi ar gyfer y cwricwlwm. Dywedodd uwch arweinwyr fod y costau hyn yn cael eu talu'n uniongyrchol drwy gymorth ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y cwricwlwm neu o gyllidebau ysgolion.
Materion i'w hystyried
Awgryma'r ymchwil ansoddol a gynhaliwyd gydag ysgolion yn ystod hydref 2021 mai’r meysydd allweddol ble yr oedd angen cymorth pellach gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid haen ganol ar y pryd oedd:
- Yr angen i fynd i'r afael â'r cyfyngiadau amser sydd wedi cyfyngu ar allu rhai ysgolion i fwrw ymlaen â pharatoadau ar gyfer y cwricwlwm newydd. Beth arall y gellir ei wneud i ganiatáu amser a lle i ysgolion gynllunio a dylunio gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r cwricwlwm newydd?
- Ymgysylltiad anghyson: Sut y gellir cefnogi uwch arweinwyr mewn ysgolion i sicrhau bod mwy o staff yn ymgysylltu â gweithgareddau cynllunio a dylunio’r cwricwlwm, yn enwedig mewn ysgolion uwchradd?
- Gwella sgiliau a hyder: Pa gamau pellach y gellir eu cymryd i hybu sgiliau a hyder y gweithlu i gyfrannu’n ystyrlon at gynllunio’r cwricwlwm?
- Cynyddu a gwella ansawdd y cymorth sydd ar gael: A fyddai modd darparu cymorth pellach i helpu paratoadau ysgolion ar gyfer y cwricwlwm a rhoi sicrwydd ynghylch addasrwydd a chyfeiriad eu camau i wireddu'r cwricwlwm? Gallai hyn gynnwys deunyddiau ategol, gan roi enghreifftiau o ddulliau dylunio neu gynllunio effeithiol.
- Mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol sy'n canolbwyntio ar gymorth ymarferol: Sut y gellir gwella mynediad at gyfleoedd dysgu proffesiynol? A fyddai modd addasu’r cynnig dysgu proffesiynol presennol i ganolbwyntio'n fwy ar gymorth ymarferol i helpu i gynllunio a dylunio’r cwricwlwm?
Manylion cyswllt
Awduron: Duggan, B; Thomas, H; Davies-Walker, M; Sinnema, C; Cole-Jones, N; Glover, A (ymchwil arad)
Safbwyntiau’r ymchwilwyr sy’n cael eu mynegi yn yr adroddiad yma, ac nid ydynt o reidrwydd yn cynrychioli safbwyntiau Llywodraeth Cymru.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
E-bost: ymchwilysgolion@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 45/2022
ISBN digidol 978-1-80364-284-0