Mae'r ymchwil yn darparu data ar ddefnyddio bagiau ac yn archwilio agweddau ac ymddygiadau mewn ymateb i'r tâl am fagiau siopa untro.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Mae'r adroddiad hwn yn darparu amcangyfrifon wedi'u diweddaru o'r defnydd o fagiau yng Nghymru, a dealltwriaeth o agweddau ac ymddygiadau manwerthwyr a defnyddwyr mewn ymateb i'r Codi Tâl am Fagiau Siopa Untro (SUCB). Roedd yn adeiladu ar ganfyddiadau Adolygiad Ôl-weithredu (PIR) a gyhoeddwyd yn 2016 fel asesiad cynnar o effaith tâl SUCB.
Prif ganfyddiadau
Manwerthwyr
Rhwng 2015-16 a 2017-18 roedd gostyngiad o 21% fe amcangyfrifir yn y nifer o SUCB a gyflenwyd gan fanwerthwyr yng Nghymru.
Canlyniad y ffaith bod archfarchnadoedd mawr wedi stopio cyflenwi SUCB plastig yn y cyfnod o ddiddordeb yw’r prif reswm am y gostyngiad hwn.
Ar sail y dystiolaeth sydd ar gael, 2018-19 oedd y flwyddyn pan wnaeth Bagiau am Oes (BfL) plastig gymryd drosodd oddi wrth SUCB plastig fel y math o fag a gyflenwir yn fwyaf cyffredin yng Nghymru.
Yn 2017-18, rydym yn amcangyfrif bod 65.2 miliwn o BfL plastig wedi eu cyflenwi gan y deg archfarchnad fwyaf yng Nghymru. Er y dylai’r dystiolaeth sydd ar gael gael ei hystyried yn un sy’n rhoi awgrym yn hytrach na bod yn gadarn, mae’n amlwg bod y nifer o BfL plastig a gyflenwyd yng Nghymru wedi parhau i gynyddu ers 2015.
Cytunodd cyfanswm o 68% o’r manwerthwyr y dylai’r tâl SUCB barhau, ac, yn gyffredinol roedd agweddau manwerthwyr ers y PIR dal yn gadarnhaol am y tâl, gyda dim ond 7% yn anghytuno o ran a ddylai barhau.
Amcangyfrifir bod 51% o fanwerthwyr busnesau bach a chanolig (SME) yn cytuno y dylai’r tâl am SUCB gael ei gynyddu i gymell defnyddio BfL; roedd 37% yn anghytuno neu yn anghytuno yn gryf.
Roedd amcangyfrif o 68% o SME yn meddwl y dylai elw’r BfL fynd i elusen, ond roedd rhaniad 50/50 wrth ymateb o ran a ddylai BfL ddod dan yr un rheoliadau a SUCB plastig.
Defnyddwyr
Roedd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr a gymerodd ran yn yr ymchwil yn gadarnhaol am y tâl SUCB. Roedd dealltwriaeth dda ymhlith defnyddwyr am ddiben craidd y tâl SUCB, a’r manteision amgylcheddol a fwriadwyd. Roedd dealltwriaeth glir o’r gwahaniaeth rhwng bagiau untro a bagiau amldro. Ond ychydig iawn o ddefnyddwyr oedd yn deall bod ganddynt hawl i gael BfL cyfnewid am ddim.
Mae defnyddwyr wedi dod i batrwm o ddefnyddio bagiau amldro, ar gyfer eu prif daith i siopa i archfarchnadoedd o leiaf. Mae’r un peth yn wir pan ddaw yn fater o siopa am nwyddau ychwanegol, er bod hynny i raddau llai. Fe wnaeth y defnyddwyr gofnodi, wrth siopa nwyddau gwahanol, fel dillad, eu bod yn llai tebygol o ddefnyddio bagiau amldro.
Pan oedd gan ddefnyddwyr bryder am y tâl SUCB, roedd hyn yn dueddol o fod yn ymwneud ag a oedd y tâl yn ddigon uchel i atal pobl rhag prynu bagiau newydd.
Roedd rhai defnyddwyr yn ansicr sut yr oedd yr arian a gesglir o’r tâl SUCB yn cael ei wario, gan ddweud y byddent yn hoffi cael gwybod rhagor am hyn.
Roedd llawer o’r defnyddwyr yn meddwl bod y tâl SUCB eisoes yn berthnasol i BfL, ac felly, yn cefnogi ymestyn y tâl i gynnwys BfL.
Cyfyngedig oedd cefnogaeth y defnyddwyr i ymestyn y tâl SUCB i gynnwys plastigau untro eraill, tebyg i becynnau plastig ar gyfer bwyd, gyda’r rhan fwyaf yn credu y dylai’r baich fod ar fanwerthwyr i weithredu i leihau’r pecynnau plastig untro wrth eu cynhyrchu.
Adroddiadau
Gwerthu a defnyddio bagiau siopa yng Nghymru , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Gwerthu a Defnyddio Bagiau Siopa yng Nghymru: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 552 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.