Mae’r adroddiad yn crynhoi’r newidiadau sy’n ymwneud â’r amgylchedd yn ymddygiad yr atebwyr ers dechrau pandemig COVID-19, ac unrhyw wahaniaethau demograffig neu ddaearyddol sy’n dylanwadu ar newid ymddygiad.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ymchwil aelwydydd COVID-19
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r gefnogaeth sydd ei hangen gan Lywodraeth Cymru, ym marn yr atebwyr, er mwyn cynnal y newidiadau ymddygiad hyn dros amser.
Mae canfyddiadau’r adroddiad yn dangos beth sy’n ysgogi newid ymddygiad. Mae gan hyn oblygiadau ar y dulliau o gyfathrebu â’r cyhoedd sydd efallai eu hangen er mwyn hyrwyddo’r newidiadau ymddygiad cadarnhaol sero net sydd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.
Adroddiadau
Arolwg bywyd dyddiol, ymchwil aelwydydd COVID-19 Cymru: ton 1 adroddiad interim , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Cyswllt
Aimee Marks
Rhif ffôn: 0300 025 9321
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.