Mae Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, yn ymateb i ddata perfformiad diweddaraf GIG Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol:
Rwy’n falch o weld cwymp pellach yn yr amseroedd aros hiraf a bod maint y rhestr aros yn gyffredinol hefyd wedi lleihau ymhellach.
Roedd nifer yr achosion sy’n aros 2 flynedd bron 11% yn is ym mis Ionawr nag ym mis Rhagfyr. Roedd gostyngiad hefyd yn nifer y bobl sy’n aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol ac i gael profion diagnostig a therapïau.
Mae hyn yn dangos bod cynlluniau’r byrddau iechyd – cynlluniau rydyn ni wedi’u cefnogi drwy fuddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol – yn cael effaith gadarnhaol ar yr amseroedd aros hiraf.
Er bod hyn yn addawol, mae ffordd bell i fynd o hyd i sicrhau bod pobl yn cael mynediad amserol at ofal a gynlluniwyd.
Heddiw, rwy’n ymweld ag Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae’r ysbyty wedi gwneud cynnydd neilltuol o ran lleihau amseroedd aros hir, a hynny er gwaetha’r ffaith bod y gwaith sy’n parhau i drwsio’r to wedi tarfu ar drefniadau.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng ym mhob cwr o Gymru yn dal i fod yn hynod brysur. Ond gwnaeth y perfformiad yn erbyn targedau allweddol wella eto ym mis Chwefror.
Derbyniwyd y nifer uchaf yn ystod unrhyw fis Chwefror ar gofnod o alwadau 999 lle’r oedd bywyd yn y fantol. Ond, er gwaethaf hynny, ymatebodd ychydig dros 51% o ambiwlansys o fewn 8 munud, ac roedd amser ymateb ambiwlansys yn 7 munud a 52 eiliad ar gyfartaledd.
Roedd gwelliant hefyd yn y perfformiad yn erbyn yr amseroedd aros targed o 4 a 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys.
Rydyn ni hefyd yn cyhoeddi data perfformiad ar gyfer y byrddau iechyd unigol heddiw.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn parhau i wneud cynnydd cadarnhaol o ran lleihau amseroedd aros. Does neb yn aros mwy na blwyddyn am apwyntiad cyntaf fel claf allanol a chan y bwrdd iechyd hwn y mae’r gyfran isaf o lwybrau sy’n aros mwy na blwyddyn am driniaeth.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gwneud cynnydd da o ran gwasanaethau diagnostig a therapïau. Gan y bwrdd iechyd hwn y mae’r gyfran isaf o bobl sy’n aros mwy nag 8 wythnos am brofion diagnostig a 14 wythnos am therapïau.