Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Yr wythnos hon, rydyn ni wedi cynyddu swm y cyllid sydd ar gael i gefnogi byrddau iechyd i leihau'r amseroedd aros hiraf i £50m.
Mae hyn yn £22m yn ychwanegol, ar ben y £28m a gyhoeddais y mis diwethaf. Bydd yn galluogi byrddau iechyd i gynyddu capasiti yn y GIG yng Nghymru ac i ddefnyddio'r sector preifat, lle mae ar gael.
Fel rhan o'r pecyn buddsoddi hwn o £50m, bydd £3m yn mynd tuag at dorri'r amseroedd aros hiraf ar gyfer asesiadau niwroddatblygiadol plant fel rhan o waith ehangach i drawsnewid gwasanaethau.
Rwy'n falch o weld bod nifer y llwybrau cleifion sy'n aros mwy na blwyddyn a dwy flynedd am driniaeth wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf.
Mae hyn yn dangos bod cynnydd cadarnhaol yn cael ei wneud ledled Cymru i leihau'r amseroedd aros hiraf. Rwy'n gobeithio gweld hyn yn parhau.
Er bod cynnydd bach wedi bod yn nifer cyffredinol y llwybrau cleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth, mae mwy na hanner yn aros llai na 26 wythnos ac roedd gostyngiad yn y nifer sy'n aros mwy na 36 wythnos ym mis Medi.
Rydym yn cydnabod yr effaith y gall aros yn hir am driniaeth ei chael ar fywyd rhywun, yn feddyliol ac yn gorfforol, felly mae gennym ffocws uniongyrchol ar leihau'r arosiadau hiraf a gwella mynediad at ofal cleifion.
Dechreuodd dros 1,800 o bobl driniaeth canser ym mis Medi ac fe gafodd bron i 14,000 o bobl y newyddion da nad oedd ganddynt ganser.
Roedd gostyngiadau hefyd yn yr arosiadau hir ar gyfer gwasanaethau diagnosteg a therapïau a rhai gostyngiadau yn nifer yr achosion o oedi yn achos llwybrau gofal.
Mae gwasanaethau gofal brys ac argyfwng yn dal o dan bwysau mawr - ym mis Hydref, cafodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y nifer a'r gyfran uchaf ond un y dydd a gofnodwyd erioed o alwadau lle mae bywyd yn y fantol, ond cafodd mwy na hanner y galwadau hyn ymateb o fewn wyth munud.
Bydd y swm ychwanegol o £50mi leihau arosiadau hir yn golygu y bydd mwy o bobl yn cael eu gweld a'u trin gan y GIG rhwng nawr a diwedd mis Mawrth a hoffwn ddiolch i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol am gofleidio'r her 50 diwrnod i gyflymu rhyddhau cleifion o'r ysbyty a sicrhau y gall pobl wella ar ôl eu salwch neu eu hanaf yng nghysur eu cartref eu hunain.