Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae staff y gwasanaeth iechyd yn gweithio’n galed i roi gofal o ansawdd uchel sy’n achub bywydau ac yn newid bywydau bob dydd ledled Cymru, a hynny yn wyneb pwysau parhaus ar wasanaethau.

Er bod mwy o alw nag erioed, mae’r ffigurau hyn yn dangos arwyddion calonogol o ran perfformiad gofal canser, amseroedd ymateb ambiwlansys ac adrannau achosion brys.

Ond mae llawer mwy i’w wneud – mae’r cyhoedd, wrth reswm, am i amseroedd aros leihau a gofal a thriniaeth fod ar gael yn gynt.

Mae’r ffigurau hyn yn dangos bod mwy na 2,000 o bobl wedi dechrau triniaeth ar gyfer canser ym mis Gorffennaf – yr ail ffigur uchaf ar gofnod – a bod bron i 16,000 o bobl wedi cael y newyddion da nad oedd canser ganddyn nhw, y ffigur uchaf ar gofnod.

Heddiw, bydda i’n ymweld â’r ganolfan ragoriaeth ar gyfer canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr, sydd wedi cael bron i £11 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, i weld sut mae’r Gwasanaeth Iechyd yn gwella gofal canser ac yn lleihau amseroedd aros.

Bu gwelliant yn yr amseroedd ymateb i’r galwadau 999 mwyaf difrifol ym mis Awst a gostyngiad sydd i'w groesawu yn nifer y bobl a dreuliodd fwy na 12 awr mewn adrannau achosion brys cyn cael eu derbyn i ysbyty neu eu rhyddhau.

Mae'r ffigurau hyn hefyd yn dangos gostyngiad mewn arosiadau hir ar gyfer profion diagnostig a therapïau. Fodd bynnag, mae'n siomedig bod nifer yr arosiadau hir ar gyfer atgyfeirio cleifion at driniaeth wedi cynyddu am y pedwerydd mis, er gwaethaf gostyngiad blaenorol am 24 mis yn olynol.

Er bod y duedd mewn arosiadau hir wedi dangos cynnydd diweddar, ry'n ni wedi gweld gwelliannau parhaus mewn meysydd a oedd gynt yn heriol iawn, fel orthopaedeg, ac mae arosiadau dwy flynedd wedi parhau i ostwng ar draws pob bwrdd iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae adroddiad ystadegol newydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw sy'n amlinellu perfformiad byrddau iechyd unigol yn erbyn nifer o fesurau perfformiad y Gwasanaeth Iechyd.

Dw i'n disgwyl gweld byrddau iechyd yn dysgu oddi wrth ei gilydd, fel y bydd y rhai sydd â mwy i'w wneud i ddarparu gwasanaeth penodol yn mabwysiadu ac yn addasu arferion da gan y rhai sydd ymhellach ymlaen. Bydd hyn hefyd yn ein helpu i ledaenu'r dulliau gorau yn gynt ledled Cymru.