Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles:
Ry'n ni wedi gwneud mynd i'r afael ag amseroedd aros hir yn flaenoriaeth i ni a heddiw rwy'n cyhoeddi £28 miliwn yn ychwanegol i helpu byrddau iechyd i leihau’r arosiadau hiraf.
Bydd y cyllid newydd yn talu am fwy o apwyntiadau gyda'r nos ac ar benwythnosau, clinigau sy'n gallu ymdrin â mwy o gleifion, a mwy o weithio'n rhanbarthol i dargedu'r amseroedd aros hiraf mewn arbenigeddau fel orthopedeg, offthalmoleg, llawdriniaeth gyffredinol a gynaecoleg.
Bydd yr ymyriadau hyn yn cael effaith sylweddol ar bobl sy'n aros am driniaeth, profion ac apwyntiadau cleifion allanol ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ffigurau misol hyn ar gyfer amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn gwella wrth i'r buddsoddiad hwn gael ei adlewyrchu ym mherfformiad y GIG.
Er gwaethaf y lefelau uchaf erioed o alw ar draws y sector, mae ffigurau heddiw yn dangos rhywfaint o gynnydd mewn diagnosteg a therapïau, yn ogystal â pherfformiad yn erbyn y targed canser 62 diwrnod gan gynyddu i 56.5%.
Mae gwasanaethau gofal brys a gofal mewn argyfwng yn parhau i fod dan bwysau aruthrol, gyda'r niferoedd dyddiol ail uchaf erioed o alwadau ‘coch’ (lle mae bywyd yn y fantol) yn cael eu hadrodd a phwysau parhaus mewn adrannau argyfwng.
Fodd bynnag, ymatebodd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i'r ail nifer uchaf erioed o bobl yn y categori coch o fewn wyth munud.
Ac er bod gweithgarwch mewn cyfleusterau gofal argyfwng yn parhau i fod yn agos at y lefelau uchaf erioed, roedd derbyniadau i'r ysbyty fwy na 5% yn is na’r un adeg y llynedd, sy’n awgrymu bod cynlluniau i gefnogi mwy o bobl i osgoi arhosiad yn yr ysbyty yn cael effaith.
Rydym yn cydnabod bod angen gwneud mwy o waith i gefnogi pobl ag anghenion gofal mewn argyfwng yn y gymuned ac i ryddhau pobl o'r ysbyty'n fwy prydlon i helpu i leihau arosiadau hir mewn ambiwlansys ac yn yr adrannau argyfwng eu hunain.
Mae ein hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi yn cefnogi pobl i gael y gofal iawn ar yr adeg iawn gan y gwasanaeth iawn.