Neidio i'r prif gynnwy

Nid yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn ac nid yw ymgais Llywodraeth y DU i daflu llwch i’n llygaid yn llwyddo – Prif Weinidog Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ymateb i gynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer ymadael yr UE heb gytundeb, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones,

“Mae’r sgrifen ar y mur. Byddai ‘dim cytundeb’ yn fethiant trychinebus ar ran Llywodraeth y DU. Byddai’n creu trafferthion enfawr ac yn achosi niwed economaidd a chymdeithasol difrifol ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig am flynyddoedd i ddod.

“Mae hyn yn rhwystredigaeth fawr, oherwydd petai Llywodraeth y DU wedi mabwysiadu’r patrwm a osodwyd gennym ni 18 mis yn ôl ar gyfer y negodiadau, gallent fod wedi gwneud cynnydd sylweddol o ran y bartneriaeth â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol. Bydden nhw wedi gallu osgoi’r sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu heddiw - ein cyflogwyr mwyaf yn ystyried gadael y DU a miloedd o swyddi’n cael eu colli gan amharu ar ein heconomi, y perygl y bydd ein prifysgolion ar eu colled o ran gwaith ymchwil hanfodol a’n hysbytai’n rhybuddio y bydd prinder staff yn peryglu cleifion.  

“Nid yw ymadael heb gytundeb yn opsiwn ac nid yw ymgais Llywodraeth y DU i daflu llwch i’n llygaid yn llwyddo. Mae’n bryd i’r Prif Weinidog roi ei chardiau ar y ford a mynd ati i weithio’n adeiladol gyda 27 yr UE i sicrhau cytundeb Brexit sy’n diogelu ein dinasyddion, ein gwasanaethau a’n heconomi.”