Neidio i'r prif gynnwy

Dogfen i gyd-fynd â’r Datganiad Llafar gan Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, 19 Ionawr 2021, yn dwyn y teitl Ymateb Llywodraeth Cymru i Argymhellion Terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De Ddwyrain Cymru.

Ar ôl cyfuno elfennau a ailadroddwyd, mae’r 77 argymhelliad gan y Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru (Comisiwn) wedi’u crynhoi i’r 58 a restrir isod.  

Mae Gweinidogion Cymru yn derbyn holl argymhellion y Comisiwn mewn egwyddor.

Mae rhifau paragraffau perthnasol Adroddiad Terfynol y Comisiwn wedi’u cynnwys er mwyn gallu croesgyfeirio.

Cyf.

Para Adroddiad y Comisiwn

Argymhelliad y Comisiwn

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

1

93, 286

Ad-drefnu Prif Linell De Cymru i wahanu gwasanaethau cymudo lleol oddi wrth wasanaethau rhwng dinasoedd. Uwchraddio’r cledrau wrth gefn er mwyn i bob un o’r pedwar trac allu gweithredu hyd at 90mya.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i ddarparu digon o gapasiti, lleihau amseroedd siwrneiau a gwella cadernid y rhwydwaith rheilffyrdd i ateb y galw gan deithwyr a llwythi yn y dyfodol.

2

101, 103, 208

Cymeradwyo dyhead Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru i ymestyn Cledrau Croesi Caerdydd i orsaf newydd ar Heol Casnewydd.

Mae Gweinidogion Cymru yn agored i ystyried cynigion Cyngor Caerdydd wrth iddynt ddod ymlaen.

3

101, 104, 208

Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer gorsaf newydd Parcffordd Caerdydd yn Llaneirwg.

Rydym yn croesawu’r argymhelliad hwn gan fod Llywodraeth Cymru eisoes yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu’r orsaf newydd.
Mae disgwyl i’r orsaf gael ei gweithredu gan ein corff trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru, ac mae’n anelu at sicrhau 12 gwasanaeth trên bob awr (24 i mewn ac allan) a chludo o leiaf 800,000 o deithwyr bob blwyddyn. Mae’r prosiect eisoes yn mynd rhagddo’n dda drwy fenter ar y cyd rhwng datblygwyr preifat a Llywodraeth Cymru. Yn amodol ar ganiatâd, gallai’r gwaith adeiladu ddechrau yn 2021 gyda gorsaf Parcffordd Caerdydd yn agor i deithwyr yn 2024.

4

101, 105, 208

Gorsaf newydd Gorllewin Casnewydd

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i ddarparu gorsafoedd newydd ar gyfer cael mynediad i Brif Linell De Cymru a lleihau’r ddibyniaeth ar goridor yr M4.

5

101, 107, 208

Gorsaf newydd Dwyrain Casnewydd

6

101, 108, 109, 208

Cymeradwyo cynlluniau ar gyfer gorsaf newydd yn Llan-wern

7

101, 110, 208

Cymeradwyo’r cynnig ar gyfer gorsaf newydd ym Magwyr

8

117

Cymeradwyo cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau ychwanegol o Lundain a Bristol Temple Meads i Gaerdydd, Abertawe a gorllewin Cymru

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i gynyddu amlder gwasanaethau rhwng de-orllewin Cymru a Llundain, Caerdydd a Bryste Temple Meads; ac Abertawe a Chaerdydd.

9

118

Uwchraddio Rheilffordd Maesteg

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth i fwrw ymlaen â’r buddsoddiad yn llinell gangen Maesteg er mwyn cynyddu amlder gwasanaethau.

10

118

Cwblhau'r gwaith o uwchraddio rheilffordd Glynebwy

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail a’r Adran Drafnidiaeth i fwrw ymlaen â’r buddsoddiad yn llinell gangen Glynebwy er mwyn cynyddu amlder gwasanaethau ac anelu at gyrraedd 4 trên yr awr.

11

118

Uwchraddio gorsaf Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r buddsoddiad ym Mhrif Linell De Cymru er mwyn cynyddu amlder gwasanaethau.

12

118

Uwchraddio gorsaf Casnewydd

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, Network Rail ac Adran Drafnidiaeth Llywodraeth y DU i fwrw ymlaen â’r buddsoddiad ym Mhrif Linell De Cymru er mwyn cynyddu amlder gwasanaethau.

13

125

Cymeradwyo uchelgais Cyngor Caerdydd i sefydlu cyfres o Goridorau Bysiau Craidd

Rydym wrthi ar hyn o bryd yn edrych ar y math hwn o gynllunio rhwydwaith ledled Cymru. Byddwn yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd, ac awdurdodau lleol eraill yn y rhanbarth, fel rhan o hyn.

14

126

Coridor bysiau cyflym newydd rhwng Caerdydd a Chasnewydd.

Rydym wedi gofyn i Uned Datblygu newydd TrC, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, fwrw ymlaen i ystyried hyn.

15

135

Mynediad uniongyrchol o ansawdd uchel i gerddwyr ym mhob gorsaf gyda blaenoriaeth dros geir.

Mae ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru, a’n polisïau cynllunio, yn adlewyrchu’r dull gweithredu hwn. Byddwn yn parhau i gefnogi Awdurdodau Lleol i roi hyn ar waith drwy Grantiau Trafnidiaeth a bydd TrC yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol i ddatblygu rhwydweithiau Teithio Llesol o amgylch gorsafoedd.

16

136

Llwybrau cerdded a beicio diogel a phwrpasol, gydag arwyddion pan fo gorsafoedd bysiau a rheilffyrdd yn agos i’w gilydd

Mae ein canllawiau cynllunio, "Polisi Cynllunio Cymru 10", yn nodi sut y dylai ein trefi a'n dinasoedd gyflawni hyn yn ein barn ni. Rydym yn nodi sut rydym yn credu y dylid gwneud hyn yn ein Canllawiau Dylunio Teithio Llesol a byddwn yn parhau i gefnogi Awdurdodau Lleol i’w roi ar waith drwy Grantiau Trafnidiaeth. Bydd TrC yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol i ddatblygu rhwydweithiau Teithio Llesol o amgylch gorsafoedd. 

17

137, 140, 154

Cymeradwyo cynlluniau Cyngor Caerdydd ar gyfer llwybrau beicio ar wahân newydd.

Bydd Gweinidogion Cymru yn parhau i gefnogi cynigion Cyngor Caerdydd i greu llwybrau beicio ar wahân a chyfleusterau teithio llesol priodol eraill.

18

141, 142

Uwchraddio Llwybr 88 presennol y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.

Rydym wedi gofyn i Uned Datblygu newydd TrC, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, fwrw ymlaen i ystyried hyn.

19

141, 144

Llwybr beicio newydd i gymudwyr ar hyd yr A48.

Rydym wedi gofyn i Uned Datblygu newydd TrC, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, fwrw ymlaen i ystyried hyn.

20

148

Ehangu cyfleusterau storio diogel ar gyfer beicwyr mewn gorsafoedd a chyfnewidfeydd trafnidiaeth eraill

Mae ein Canllawiau Dylunio Teithio Llesol yn nodi enghreifftiau o fannau storio beiciau da mewn gorsafoedd.  Drwy TrC rydym yn datblygu Rhaglen Gwella Gorsafoedd sy’n cynnwys gwella cyfleusterau parcio beiciau ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.

21

149

Cynllun llogi beiciau newydd yng Nghasnewydd.

Mater i Gyngor Dinas Casnewydd ei ystyried yw hyn.  Mae Llywodraeth Cymru, drwy TrC, yn datblygu ffyrdd o’i gwneud yn haws gweithredu cynlluniau llogi beiciau fel y rheini sydd wedi cael eu gwneud yn llwyddiannus yng Nghaerdydd ac yn Abertawe.

22

153

Cysylltu Gorsaf Parkway Caerdydd â llwybrau bysiau cyflym a llwybrau beicio Caerdydd.

Rydym yn cytuno bod cyfle i gysylltu Llwybr Beiciau 2 Cyngor Caerdydd â safle Parkway. Rydym yn hyderus y bydd yr Awdurdod Lleol yn ystyried yr agwedd hon yn briodol yn y broses cymeradwyo ceisiadau cynllunio, yn unol â’n canllawiau Teithio Llesol a Pholisi Cynllunio Cymru.

23

155, 207

Ailgynllunio’r ardal fawr y tu allan i Gasnewydd Canolog i ddarparu cyfleusterau cilfannau bysiau newydd.

Rydym wedi gofyn i Uned Datblygu newydd TrC, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, fwrw ymlaen i ystyried hyn.

24

157

Darparu mynediad cerdded a beicio da i orsaf Llan-wern o bentref Llan-wern, Ringland a Lliswerry.

Bydd TrC yn cydweithio ag Awdurdodau Lleol i wella cysylltedd lleol â gorsafoedd.

Bydd ein Huned Datblygu TrC newydd yn monitro cynnydd hyn yn ne-ddwyrain Cymru.

25

158, 207

Uwchraddio mynediad ffordd i orsaf Cyffordd Twnnel Hafren er mwyn caniatáu mynediad i fysiau.

Mae diffyg mynediad bysiau i’r orsaf hon yn amlwg yn gyfyngiad difrifol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Sir Fynwy.  Rydym hefyd yn ymwybodol bod yr Awdurdod Lleol wedi bod yn ystyried cyffordd yr M48/B4245 ers amser hir er mwyn lliniaru tagfeydd drwy drefi cyfagos Magwyr ac Undy. Rydym wedi gofyn i Uned Datblygu newydd TrC, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, fwrw ymlaen i ystyried hyn.

26

165

Ad-drefnu Cylchfan Old Green yng nghanol Casnewydd.

Rydym wedi gofyn i Uned Datblygu newydd TrC, mewn partneriaeth â Chyngor Dinas Casnewydd, fwrw ymlaen i ystyried hyn.

 

Darperir sylwebaeth bellach ar hyn ar ôl y tabl hwn

27

127, 168, 170

Gwella’r flaenoriaeth i fysiau ar Gyffordd y Senotaff a Phont Clarence Place.

28

127, 168, 171

Seilwaith sy’n rhoi blaenoriaeth newydd i fysiau ar hyd Heol Cas-gwent.

29

127, 168, 172

Seilwaith sy’n rhoi blaenoriaeth newydd i fysiau ar hyd Heol Malpas.

30

127, 168, 173

Seilwaith sy’n rhoi blaenoriaeth newydd i fysiau ar hyd Heol Caerdydd.

31

127, 168, 174

Seilwaith sy’n rhoi blaenoriaeth newydd i fysiau yn y man lle mae’r A48 a’r A4810 yn cwrdd.

32

127, 137, 146, 168, 176

Gwella’r seilwaith i hwyluso beicio i gymudwyr ar goridorau lle mae bysiau’n cael eu defnyddio.

33

183

Drafftio strategaeth cludo nwyddau ar lefel ranbarthol sy’n canolbwyntio ar ddinasoedd Caerdydd a Chasnewydd.

Mae Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru yn cynnwys ymrwymiad i weithio gyda llywodraeth y DU, y sector a phartneriaid eraill ar Gynllun Logisteg a Chludo i Gymru. Bydd anghenion rhanbarthol yn ardal Caerdydd a Chasnewydd yn rhan o’r Cynllun hwnnw.

34

193

Cynnig taliadau cardiau clyfar Digyffwrdd ar bob gwasanaeth trafnidiaeth ar y rhwydwaith

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC sy’n datblygu cynllun cenedlaethol Tocynnau ar Sail Cyfrif sy’n canolbwyntio ar ateb Talu Wrth Fynd wedi’i gapio, gan ddefnyddio technoleg cardiau banc digyffwrdd gyda chynllun peilot cychwynnol yn ne-ddwyrain Cymru.

35

194

Integreiddio trefniadau tocynnau ar gyfer cwmnïau rheilffyrdd a bysiau mewn un system docynnau.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, sydd â’r dasg o ddarparu system docynnau ddi-dor yn y dyfodol ar gyfer Cymru a fydd yn gweithio gydag unrhyw fodd ond sy’n cadw’r cymhellion masnachol i ddarparwyr trafnidiaeth, sy’n symleiddio prisiau a thocynnau ac yn cynnig y pris gorau posibl ar gyfer taith cwsmer.

36

195, 253

Cysoni prisiau tocynnau ar gyfer teithiau tebyg o ran hyd.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, sydd â’r dasg o adolygu prisiau a thocynnau yn ne-ddwyrain Cymru er mwyn darparu ateb teg o ran tocynnau a phrisiau.

37

196, 253

Cyflwyno system unedig ar sail parthau, wedi’i hintegreiddio â Metro De Cymru i gynnwys Caerdydd, Casnewydd a’r ardaloedd cyfagos.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, sydd â'r dasg o gynnal adolygiad cynhwysfawr o docynnau a phrisiau ym Metro De-ddwyrain Cymru er mwyn darparu llwyfan ar sail parthau ar gyfer tocynnau a phrisiau integredig.

38

202

Cyd-drefnu gwasanaethau trafnidiaeth yng ngorsafoedd Gorllewin Casnewydd a Chyffordd Twnnel Hafren.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC i ddatblygu ateb cyfnewidfa enghreifftiol gyda rhanddeiliaid allweddol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth cydgysylltiedig yn y canolfannau allweddol hyn.

39

210

Defnyddio un brand cyffredinol ar gyfer yr holl wasanaethau trafnidiaeth ar y rhwydwaith, ni waeth pwy yw’r gweithredwr.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC i adeiladu, datblygu a gweithredu brand TrC i sicrhau ei fod yn ymgysylltu â chwsmeriaid, yn cynnwys pob modd/gwasanaeth a seilwaith. Bydd brand TrC yn cael ei ategu gan hierarchaeth brand strategol a gwasanaethau/is-frandio a chynnyrch priodol.

40

212

Cymeradwyo ‘Gweledigaeth Gwella Gorsafoedd’ Trafnidiaeth Cymru sy’n gosod safonau sylfaenol ar gyfer gorsafoedd hyb, cyfnewidfa a thraws-rwydwaith.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, sydd â’r dasg o ddatblygu safonau sylfaenol ar gyfer Cyfnewidfeydd sy’n darparu cyfleusterau hygyrch, saff a diogel gyda brandio, gwybodaeth ac arwyddion cyson.

41

213

Ymestyn safonau sylfaenol Trafnidiaeth Cymru i orsafoedd bysiau ac arosfannau bysiau ar y coridorau bysiau cyflym.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC, sydd â’r dasg o ddatblygu hierarchaeth o Gyfnewidfeydd ac o bennu safonau sylfaenol ar gyfer cyfnewidfeydd o wahanol fath a gwahanol faint, gyda brand cyson a phwyslais ar ddarparu’r profiad gorau i gwsmeriaid, gyda seilwaith safleoedd bysiau o’r un safon uchel ar goridorau bysiau cyflym.

42

215

Sicrhau bod gwybodaeth fyw am gludiant a data amserlenni ar gael i wasanaethau trydydd parti er mwyn hwyluso integreiddio â cheisiadau sy’n bodoli eisoes.

Bydd Gweinidogion Cymru yn gweithio gyda TrC sydd â’r dasg o sefydlu dull mwy cyson o ddarparu gwybodaeth deithio aml-foddol a llwyfan ar gyfer gwybodaeth amser real sy’n gweithio gydag unrhyw fodd ac sy’n delio’n effeithiol â tharfu ar rwydweithiau ac ati.

43

214, 223, 224, 227

Cefnogi Awdurdodau Lleol i gyflawni cynlluniau teithio i’r gweithle neu greu uned gyflawni newydd o fewn Trafnidiaeth Cymru (TrC).

Rydym yn cydnabod y gwerth y gall cynllunio teithio ei gael o ran newid ymddygiad, yn enwedig i gymudwyr.  Byddwn yn ystyried y ffordd orau o weithio gydag Awdurdodau Lleol a chyflogwyr i helpu pobl i wneud eu penderfyniadau teithio ac yn ystyried ei wneud yn amod cynllunio ar gyfer pob datblygiad newydd a fydd yn cynnwys mwy na 10 o weithwyr.

44

235

Cymeradwyo bwriad Llywodraeth Cymru i ddarparu safleoedd gweithio o bell ar draws y prif drefi, dinasoedd a chanolfannau trefol yn ne-ddwyrain Cymru.

Hyd yn oed cyn Covid, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod manteision gweithio o bell a gweithio hyblyg i’w staff.  Rydym yn croesawu cefnogaeth y Comisiwn i’n nod o ddarparu safleoedd gweithio hyblyg gyda’r potensial i rannu gofod gyda chyrff eraill yn y sector cyhoeddus.  Ein nod yw lleihau’r pellter y mae angen i bobl ei deithio i’r gwaith, ac felly cynyddu’r dewisiadau teithio sydd ar gael iddynt; fel teithio llesol.  Mae Polisi Cynllunio Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio lleol sicrhau cydbwysedd rhwng cartrefi newydd a chyfleoedd cyflogaeth er mwyn lleihau’r angen i deithio.  Dylai tai newydd fod yn hygyrch i gyfleoedd cyflogaeth drwy deithio llesol a darparu seilwaith teithio llesol newydd ar y safle ac oddi ar y safle lle bo angen er mwyn cysylltu â’r rhwydwaith presennol.

45

236, 310

Defnyddio ystod lawn yr ystâd gyhoeddus yn fwy hyblyg, gan wneud rhinwedd o’r portffolio eiddo i ddarparu lleoedd i weithio’n agos at y man lle mae pobl yn byw.

46

239, 241

Peidio â chyflwyno cynllun cynhwysfawr Codi Tâl ar Ddefnyddwyr Ffyrdd ar draws ffyrdd de-ddwyrain Cymru os nad oes cynllun ar gyfer y DU gyfan.

Yn dilyn adolygiad annibynnol o Godi Tâl ar Ddefnyddwyr y Ffyrdd yng Nghymru (sydd ar gael yma: https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2020-11/adolygiad-annibynnol-godi-tal-ar-ddefnyddwyr-y-ffyrdd-yng-nghymru.pdf) mae ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru, Llwybr Newydd, yn nodi y byddwn yn cefnogi symud o’r dreth tanwydd i ddull mwy teg o godi tâl ar ffyrdd a all helpu i wella ansawdd aer a thagfeydd mewn ardaloedd trefol, gan gydnabod bod rhai pobl, gan gynnwys y rhai mewn ardaloedd gwledig, yn dibynnu ar ddefnyddio ceir.  Dim ond un math o reoli’r galw am deithio yw codi tâl ar ffyrdd, a byddwn yn datblygu cynllun gweithredu a fydd yn cynnwys mesurau eraill fel strategaethau digidol a chynllunio defnydd tir.

47

245

Ystyried Ardollau Parcio yn y Gweithle unwaith y bydd dewisiadau amgen a fframwaith polisi ar waith (Awdurdodau Lleol).

Mae hyn yn fater i Awdurdodau Lleol sydd â’r pwerau i roi mesurau o’r fath ar waith os dymunant fel rhan o’u strategaethau ar gyfer rheoli tagfeydd yn ein trefi a’n dinasoedd.

48

273, 275

Ffurfioli partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru ac Awdurdodau Lleol i lywodraethu’r gwaith o ddylunio a gweithredu trafnidiaeth yn Ne Ddwyrain Cymru

Rydym yn croesawu’r argymhelliad hwn, ac rydym yn falch ei fod yn gyson â chyfeiriad ein Strategaeth Drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru, Llwybr Newydd, sy’n nodi ein bwriad i weithredu a chefnogi trefn ranbarthol effeithiol i gynllunio a darparu trafnidiaeth drwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig, a fydd yn cael eu grymuso (a’u cefnogi) i gynllunio gwasanaethau ar lefel ranbarthol, yn unol â blaenoriaethau cynllunio rhanbarthol a lleol eraill. Rydym yn cytuno bod rôl TrC yn hyn o beth yn bwysig er mwyn darparu gwasanaeth gwerthfawr ac effeithlon i lywodraethau a’r cyhoedd sy’n teithio.

Mae ein Rhaglen Diwygio Bysiau yn gweithio gydag awdurdodau lleol i edrych ar bwy sy’n gyfrifol am ba weithgareddau yn ymwneud â gwasanaethau bysiau a, phan fo’n berthnasol, pwy sy’n ymwneud â miniogi elfennau o’r ddarpariaeth gwasanaethau bysiau (Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Cyd-bwyllgorau Corfforedig, gweithredwyr) a sut y gallai hyn gael ei lunio orau yn y dyfodol i’n helpu i gyflawni ein hamcanion polisi a gwerth am arian.

49

290

Gwella’r model llywodraethu bysiau presennol (Partneriaeth)

Roedd y Cynllun Argyfwng Bysiau cyntaf, a gyflwynwyd yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf, yn cynnwys teithio am ddim i staff y GIG, cyllid ychwanegol i gefnogi dychwelyd i’r ysgol ac i fynd i’r afael â mannau problemus a chynhwysiant cymdeithasol.  Roedd iteriadau pellach o’r Cynllun yn caniatáu i Awdurdodau Lleol a TrC fod â mwy o ran yn y gwaith o benderfynu pa lwybrau mae’n eu cefnogi ac yn nodi’r newid tuag at gyflawni nodau Llywodraeth Cymru yn well o ran ffordd newydd o weithio drwy dargedu arian at anghenion penodol.

Yn y tymor hwy, ein bwriad yw pontio i gytundeb partneriaeth trosfwaol a fydd yn rheoli eu hymddygiad wrth ddarparu gwasanaethau dan gontract a gwasanaethau masnachol.

50

292

Ailgyflwyno’r Bil Gwasanaethau Bysiau cyn gynted â phosibl yn Nhymor nesaf y Senedd

Nid yw’r fframwaith cyfreithiol presennol yn hwyluso ein hagenda polisi ehangach gan gynnwys y potensial ar gyfer gweithrediadau masnachfraint ac mae cynnydd yn dal i gael ei wneud ar gyflwyno deddfwriaeth bysiau cyn gynted â phosibl yn nhymor nesaf y Senedd.

51

311

Lleoli gwaith yng nghanol trefi a dinasoedd ac nid ar y cyrion yn agos at y draffordd.

Rydym yn croesawu’r argymhelliad hwn sy’n gyson â’n polisïau cynllunio gofodol, gan gynnwys canol trefi yn gyntaf. Byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith drwy ddarparu cyngor a chefnogaeth a, lle bo angen, defnyddio ein pwerau mewn perthynas â pharatoi cynlluniau datblygu lleol a cheisiadau cynllunio.

52

313

Cynyddu dwysedd datblygu o amgylch gorsafoedd a choridorau’r rhwydwaith.

Rydym yn croesawu’r argymhelliad hwn sy’n gyson â’n polisïau cynllunio gofodol a byddwn yn ceisio gweithredu dulliau cynaliadwy fel cymdogaethau cerddadwy. Byddwn yn parhau i weithio gydag Awdurdodau Lleol i sicrhau ei fod yn cael ei roi ar waith.

53

315

Cymeradwyo’r datganiadau polisi lefel uchel ym Mholisi Cynllunio Cymru 10 a’r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (Cymru’r Dyfodol)

Croesewir cymeradwyaeth y Comisiwn.

54

319

Uwchgynllunio’r rhanbarth drwy’r Cynllun Datblygu Strategol

Rydym yn cytuno mai Cynlluniau Datblygu Strategol ar gyfer rhanbarthau yw’r ffordd o gyflwyno dull gweithredu cydgysylltiedig ar gyfer defnyddio a chynllunio tir, gyda manteision trawsbynciol yn sgil hynny i drigolion a chymudwyr.  Bydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig a sefydlir cyn bo hir yn gyfrwng i greu cysylltiadau cadarn rhwng cynllunio defnydd tir a thrafnidiaeth drwy sefydlu timau technegol ar y cyd sy’n gyfrifol am ddatblygu Cynllun Datblygu Strategol a Chynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol gan ddefnyddio’r un sylfaen dystiolaeth.

55

323

Rhoi cyngor ar oblygiadau’r lleoliadau strategol a nodir i'w datblygu drwy Trafnidiaeth Cymru o ran trafnidiaeth gynaliadwy.

Rydym yn cytuno bod goblygiadau datblygiadau o ran trafnidiaeth gynaliadwy yn rhan hanfodol o’u cynllunio.  Byddwn yn ystyried argymhelliad y Comisiwn y dylai TrC chwarae mwy o ran yn hyn.

56

328

Parhau i graffu ar Gynlluniau Datblygu Lleol a galw i mewn geisiadau unigol sydd mewn perygl o fod yn anghyson ag egwyddorion defnydd tir ar gyfer tai a chyflogaeth a ddisgrifir yn yr adroddiad

Rydym yn derbyn yr argymhelliad.  Byddwn yn parhau i wneud sylwadau ar Gynlluniau Datblygu Lleol ac yn ystyried galw i mewn geisiadau cynllunio nad ydynt yn adlewyrchu’r hierarchaeth trafnidiaeth yn ddigonol.  Byddwn yn defnyddio ein pwerau ymyrryd lle bo angen.

57

371

Sefydlu tîm cyflawni ar y cyd ar ôl ystyried yr argymhellion

Rydym yn derbyn yr argymhelliad. Mae uned ddatblygu wedi cael ei sefydlu yn TrC a bydd yn adrodd i grŵp llywio o Lywodraeth Cymru a phartïon eraill (fel Awdurdodau Lleol a Network Rail) fel sy’n briodol.

58

374

Nodi ffyrdd o gyflymu’r broses o roi coridorau bysiau cyflym a beicio ar waith, hyd yn oed os mai dim ond ar sail peilot (Awdurdodau Lleol).

Rydym yn cymeradwyo argymhelliad y Comisiwn ac yn nodi bod rhai Awdurdodau Lleol wedi cymryd agwedd newydd tuag at gyflymu’r mathau hyn o fesurau yn ystod Covid. Byddwn yn ystyried sut y gallwn gefnogi hyn er mwyn parhau i symud ymlaen.