Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi datganiad ynglŷn â data perfformiad diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Diolch i ymdrechion arwrol staff y GIG, dim ond cynnydd o 0.2% a welsom yn y rhestrau aros ym mis Rhagfyr. Dyma’r cynnydd isaf ers dechrau'r pandemig, er gwaethaf y ffaith bod cynifer o staff wedi'u dargyfeirio’n gyflym i gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu yn ystod y mis hwnnw.
Parhaodd y straen sylweddol ar y GIG ym mis Rhagfyr 2021 yn sgil pwysau heriol y gaeaf, y don Omicron, a’r angen i gefnogi’r rhaglen frechu.
Arweiniodd yr heriau hyn at ohirio nifer o apwyntiadau a thriniaethau a oedd wedi’u cynllunio ledled Cymru, ac roedd rhai yn aros yn hirach na fuasem yn ei ddymuno am driniaeth.
Hoffem ddiolch i’n gweithlu gofal iechyd am sicrhau bod nifer fawr o frechiadau atgyfnerthu wedi cael eu rhoi, ac am barhau i ddarparu gofal o safon uchel i gannoedd o filoedd o gleifion bob mis.
Er gwaethaf y pwysau parhaus hwn, mae’r data yn dangos bod y nifer o gleifion a oedd yn aros am therapïau wedi gostwng ychydig yn ystod y mis diwethaf ar ôl cynyddu bob mis yn 2021.
Yn ogystal, rydym wedi gweld rhywfaint o welliant mewn perfformiad yn erbyn y targed canser 62-diwrnod. Cynyddodd hyn i 58.6 y cant o gleifion yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol cyntaf yn ystod y mis o fewn yr amser targed o’i gymharu â’r mis blaenorol.
Er bod nifer y cleifion a oedd yn aros am driniaeth wedi cynyddu eto ym mis Rhagfyr 2021, roedd hyn ar y gyfradd arafaf ers dechrau’r pandemig.
Mae ein data ar y gwasanaeth ambiwlans yn dangos bod gostyngiad wedi bod yng nghyfanswm y nifer o alwadau a wnaed i'r gwasanaeth ym mis Ionawr 2022 o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fodd bynnag, mae nifer y galwadau am gleifion y mae bygythiad i’w bywyd yn parhau yn uchel iawn gyda mwy na 100 o alwadau yn cael eu cofnodi yn ddyddiol. Er gwaethaf hyn, cynyddodd perfformiad yn erbyn y targed ymateb wyth munud i ambiwlansys 1.4 o bwyntiau canran o’r mis blaenorol.
Hyd yma, rydym wedi dyrannu £248m er mwyn cefnogi ein cynlluniau i adfer y GIG. Ym mis Ebrill, byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl ynglŷn â sut y byddwn yn mynd i’r afael ag amseroedd aros i’r cleifion hynny y mae eu triniaethau wedi’u gohirio oherwydd y pandemig.
Mae ystod eang o wasanaethau wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw dros y blynyddoedd diwethaf megis offthalmoleg.
Mae Canolfan Gofal Llygaid GIG Cymru yng Nghaerdydd yn un enghraifft o’r modd y mae GIG Cymru yn gostwng yr amser aros i bobl sydd ag anawsterau llygaid cymhleth neu frys cyn y cânt eu gweld yn yr ysbyty. Caiff hyn ei sicrhau drwy roi triniaethau gofal llygaid mewn lleoliadau gofal sylfaenol.
Ers tro, rydym wedi gosod ein huchelgais i drawsnewid y modd rydym yn darparu gwasanaethau er mwyn cwrdd â galw’r dyfodol. Mae clinigau cymunedol, y theatrau ychwanegol, yn ogystal â Chanolfan Gofal Llygaid GIG Cymru Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn enghreifftiau gwych o’r weledigaeth hon.