Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw. Dywedodd llefarydd:
Mae ein staff hynod o weithgar yn y Gwasanaeth Iechyd yn dal i roi gofal sy'n achub a newid bywydau a hynny yn wyneb galw anhygoel am ei wasanaethau.
Fis Mai, cafodd dros 14,250 o bobl wybod y newyddion da nad oes ganddyn nhw ganser - nifer anhygoel. Mae'n braf gweld hefyd fod perfformiad wedi gwella yn erbyn y targed o 62 o ddiwrnodau.
Roedd nifer y galwadau 999 lle'r oedd bywyd yn y fantol (coch) a wnaed bob dydd i'r gwasanaeth ambiwlans yr ail uchaf ar gofnod, ac roedd cyfran y galwadau hyn yr uchaf a gofnodwyd erioed.
Mae'r lefel hon o alw, cynnydd o 28% o gymharu â'r un mis yn 2023, yn golygu ei bod hi'n anoddach fyth cyflawni'r targed o ran amseroedd ymateb, ond er hynny, gwelwyd gwelliant ym mis Mehefin a chafodd bron i wyth o bob 10 galwad ymateb o fewn 15 munud.
Gwnaeth perfformiad yn erbyn y targed 12 awr ar gyfer adrannau brys wella ychydig ym mis Mehefin a chafodd y mwyafrif o bobl eu rhyddhau, eu derbyn neu eu trosglwyddo o fewn llai na dwy awr a 50 munud.
Gwnaeth nifer y derbyniadau brys leihau 5.6% y mis hwn. Dyma arwydd pellach bod gwaith drwy ein rhaglen Chwe Nod genedlaethol i ofalu am bobl yn agosach i'w cartrefi yn cael effaith.
Ond ar y cyfan, mae hon yn set siomedig arall o ffigurau perfformiad y Gwasanaeth Iechyd.
Mae'r rhestr aros wedi tyfu eto ac, ar ôl i'r nifer leihau am 24 mis yn olynol, mae nifer y bobl sy'n aros mwy na dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu eto am yr ail fis yn olynol.
Mae'r Ysgrifennydd Iechyd wedi ei gwneud yn glir i fyrddau iechyd ei bod yn disgwyl gweld cynnydd - a chynnydd parhaus - i leihau arosiadau ac amseroedd aros hir am driniaethau. Bydd hi'n dweud yn glir wrth arweinwyr y Bwrddau Iechyd heddiw nad yw'r sefyllfa yn derbyniol a bydd angen pethau newid.
Mae gwaith i'w wneud o hyd i leihau'r ôl-groniad o achosion a ddaeth i'r amlwg yn sgil y pandemig. Ond mae'r Gwasanaeth Iechyd yn parhau i gyflawni llawer iawn o waith ar gyfer poblogaeth o 3 miliwn o bobl. Ers Ebrill 2022, mae dros 2.5 miliwn o lwybrau cleifion wedi'u cau, sef cyfartaledd o 103,000 o lwybrau y mis.