Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw. Dywedodd llefarydd:

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r set hon o ffigurau perfformiad y GIG ar gyfer Ebrill a Mai yn siomedig ac mae'n dangos bod gennym gryn dipyn o waith i'w wneud o hyd i leihau arosiadau hir a wnaeth gronni yn ystod y pandemig. Ond dylid nodi y gallai'r ffigurau hyn fod wedi cael eu heffeithio gan ostyngiad mewn gweithgarwch yn ystod cyfnod gwyliau'r Pasg ddechrau mis Ebrill.

Mae'r rhestr aros gyffredinol wedi tyfu eto ac, ar ôl i'r nifer ddisgyn am 24 mis yn olynol, mae nifer y bobl sy'n aros fwy na dwy flynedd am driniaeth wedi cynyddu.

Rydym wedi ei gwneud yn flaenoriaeth i leihau amseroedd aros hir a heddiw mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyfarfod â chadeiriau byrddau iechyd i'w cyfarwyddo i ddyblu eu hymdrechion i fynd i'r afael â'r rhain a'r amrywiad sylweddol ledled Cymru.

Mae lefelau digynsail o alw hefyd yn cyfrannu, er hynny, gyda mwy o atgyfeiriadau newydd yn y flwyddyn ddiweddaraf nag erioed o'r blaen. Ym mis Ebrill gwelwyd yr atgyfeiriadau dyddiol uchaf ond un ar gyfer unrhyw fis y mae cofnod ar ei gyfer.

Dechreuodd mwy o bobl eu triniaeth ganser gyntaf ym mis Ebrill nag ym mis Mawrth a chafodd mwy o bobl y newyddion da nad oes ganddyn nhw ganser nag yn y mis blaenorol.

Ond er i fwy o gleifion canser newydd a phresennol gael eu trin ym mis Ebrill, gostyngodd y nifer a gafodd eu trin o'i gymharu â'r targed ar gyfer canser. Rydyn ni'n benderfynol o wella cysondeb yn erbyn y targed hwn i bobl sy'n cael eu hatgyfeirio gyda chanser a amheuir.

Mae'r ffigurau hyn yn dangos bod y GIG yn parhau i reoli'r galw anhygoel am ofal brys ac argyfwng - roedd nifer y galwadau 999 lle'r oedd bywyd yn y fantol ym mis Mai 25% yn uwch na'r flwyddyn flaenorol ac mae'r galw bron ddwywaith a hanner yn uwch na'r lefelau cyn y pandemig.

Cafodd mwy o bobl ymateb o fewn wyth munud o'i gymharu â mis Mai y llynedd ond nid yw amseroedd ymateb ambiwlansys yn cyrraedd y targed y bydden ni, y gwasanaeth ambiwlans na'r cyhoedd am iddyn nhw ei gyrraedd.

Ym mis Mai hefyd y gwelwyd y nifer uchaf o achosion brys a gofnodwyd ond parhaodd y perfformiad yn erbyn y targed o bedair awr yn sefydlog.

Cafwyd gostyngiad o 2.3% hefyd mewn derbyniadau brys, sy'n dyst i lwyddiant gwasanaethau newydd yr ydym wedi'u hariannu i helpu i gadw pobl allan o'r ysbyty.

Mae angen i ni barhau i ddarparu mwy o ddewisiadau amgen yn hytrach na gofal mewn adrannau brys i bobl nad oes angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty fel y gallwn gefnogi pobl yn eu cymunedau lleol yn ddiogel ac atal derbyniadau diangen.

Byddwn yn parhau i gefnogi staff y GIG sy'n gweithio'n eithriadol o galed wrth iddyn nhw ddarparu gofal i achub bywydau a newid bywydau.

Rydym yn obeithiol iawn y bydd meddygon iau, ymgynghorwyr a meddygon SAS yn pleidleisio dros argymhellion pwyllgorau'r BMA Cymru i dderbyn y cynigion cyflog diweddar fel y gallwn i gyd ganolbwyntio ein hymdrechion ar sicrhau'r canlyniadau clinigol gorau posibl i bobl Cymru.