Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i ddata perfformiad diweddaraf y GIG a gyhoeddwyd heddiw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Mae’r data diweddaraf yn dangos bod y pwysau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i dyfu. Ond mae ein staff iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau i weithio’n galed i ddarparu gofal o safon uchel pan fydd pobl ei angen.
Mae’n galonogol gweld bod nifer y cleifion sydd newydd gael diagnosis o ganser ac yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol gyntaf a nifer y cleifion a gafodd wybod nad oes ganddynt ganser wedi cynyddu o gymharu â’r mis blaenorol.
I roi hwb i ddiagnosis a thriniaeth canser, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd heddiw y bydd mwy na £51m yn cael ei fuddsoddi i ddarparu offer newydd yn lle hen offer delweddu diagnostig ar draws GIG Cymru.
Bydd hyn yn gwella ansawdd y delweddau’n sylweddol, a fydd yn helpu i roi diagnosis cynharach a chywirach yn aml.
Rydym wedi buddsoddi £248m ychwanegol eleni i drawsnewid gwasanaethau a mynd i’r afael ag amseroedd aros, ond oherwydd y pwysau parhaus ac effeithiau’r pandemig nid ydym yn disgwyl y byddwn yn gweld cynnydd gwirioneddol cyn y gwanwyn.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, fel gweddill y DU, yn parhau i fod o dan bwysau enfawr. Roedd nifer y galwadau coch, sy’n alwadau lle mae bygythiad i fywyd, ar y lefel uchaf a gofnodwyd erioed ym mis Hydref. Roedd nifer y galwadau ym mis Hydref hefyd 24% yn uwch nag ym mis Hydref y llynedd.
Yn gynharach eleni, rhoesom £25m ychwanegol tuag at gefnogi trawsnewidiad gwasanaethau gofal brys a gofal argyfwng i ddarparu’r gofal iawn, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Mae’r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi cael arian i recriwtio 120 o staff cyfwerth â llawn amser.
Rydym yn annog pobl i ystyried beth yw’r dewisiadau gorau ar gyfer eu gofal, a pheidio â mynd yn syth i’w hadrannau argyfwng lleol, o reidrwydd. I gael y gofal iawn, y tro cyntaf, gall pobl hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth 111 ar-lein a mynd at eu fferyllydd lleol os yw’n briodol.