Datganiad Llywodraeth Cymru ar Ddata Perfformiad a Gweithgarwch diweddaraf GIG Cymru a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau 19 Awst).
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru:
Mae amseroedd aros ar gyfer triniaethau yn parhau i gynyddu. Fodd bynnag, mae’n galonogol gweld bod gwelliant yn cael ei wneud – mae nifer y cleifion sy’n aros dros 52 wythnos wedi gostwng am y trydydd mis yn olynol. Yn ogystal, gwelwyd y nifer mwyaf o ymgyngoriadau arbenigol yn cael eu cwblhau a thriniaethau’n dechrau mewn unrhyw fis ers dechrau’r pandemig.
Y ffigurau ar gyfer nifer y cleifion a ddechreuodd eu triniaeth gyntaf am ganser a nifer y cleifion a ddechreuodd driniaeth o fewn yr amser targed oedd yr ail uchaf ers i’r dull casglu data presennol ddechrau.
Heddiw, fe wnaethom gyhoeddi £140m ychwanegol i helpu GIG Cymru i fynd i’r afael â’r rhestr o driniaethau a ohiriwyd yn ystod pandemig Covid. Mae’r cyllid hwn yn ychwanegol i’r £100m cychwynnol a gyhoeddwyd ym mis Mai.
Mae’r pwysau ar wasanaethau brys yn parhau i gynyddu. Cafodd y gwasanaeth ambiwlans fwy o alwadau’r mis diwethaf nag mewn unrhyw fis ers i’r pandemig ddechrau. Roedd derbyniadau mewn adrannau achosion brys hefyd ar eu huchaf ers dechrau’r pandemig.
Rydym yn annog pobl i ystyried yr opsiynau gorau ar gyfer eu gofal, ac i beidio o reidrwydd â mynd i’r adran achosion brys leol. I gael y gofal cywir y tro cyntaf, gall pobl hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth 111 ar-lein a’u fferyllfa leol pan fo hynny’n briodol.
Fis diwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd gynlluniau i drawsnewid darpariaeth gofal brys a gofal mewn argyfwng, gyda chymorth £25m y flwyddyn. Rydym yn gweithio gyda byrddau iechyd i roi’r cynlluniau hyn ar waith mewn da bryd cyn y gaeaf.
Darllenwch am yr ystadegau swyddogol a’r ymchwil sy’n cael eu cyhoeddi ynglŷn â Chymru.