Ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad Lugg
Ymateb Llywodraeth Cymru i adolygiad annibynnol o raglenni cynnal a chadw blynyddol cyfredol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Ym mis Rhagfyr 2021, gofynnodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters AS, am adolygiad annibynnol o'r rhaglenni cynnal a chadw blynyddol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru. Gofynnwyd i dîm o arbenigwyr annibynnol, dan arweiniad Matthew Lugg OBE, ystyried a yw cost y rhaglenni cynnal a chadw cyfredol yn cyflawni dyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru yn effeithiol o ran sicrhau diogelwch a defnyddioldeb y rhwydwaith.
Cyflwynodd y Tîm Adolygu ei adroddiad terfynol ym mis Mai 2023. Ystyriodd yr adroddiad gyhoeddiadau Polisi diweddar, sef adroddiad y Panel Adolygu Ffyrdd, ‘Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru’, ac ymateb Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2022-2027.
Cefndir
Y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, sy'n werth £19bn, yw ased seilwaith mwyaf gwerthfawr Llywodraeth Cymru.Er ei fod ond yn cyfrif am tua 5% o gyfanswm hyd ffyrdd y wlad, mae'n cludo dros un rhan o dair o'r holl draffig.
Fel yr Awdurdod Priffyrdd, mae Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ac mae dyletswydd statudol arnynt i sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn ddefnyddiol o dan Ddeddf Priffyrdd 1980. Mae sicrhau bod y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn parhau i fod yn ddiogel yn hollbwysig felly ac mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu dull gweithredu a phrosesau costeffeithiol er mwyn sicrhau y caiff y dyletswyddau statudol hyn eu bodloni. Y ffordd orau o sicrhau hyn yw drwy adolygiad annibynnol cyfnodol.
Fel y nodwyd yn Llwybr Newydd - Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 a Chynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth 2023, mae gan y Rhwydwaith Ffyrdd Stratregol rôl allweddol o ran cyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy ac effeithlon. Mae hyn yn cynnwys gwneud y defnydd gorau o'r seilwaith presennol ac ailddyrannu gofod ffyrdd i ddulliau cynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru felly yn symud ymlaen i fabwysiadu dull newydd o gynnal a chadw ffyrdd a thrwy hefyd roi argymhellion yr adolygiad annibynnol ar waith, bydd hyn yn cyflawni polisïau Llywodraeth Cymru ar y lefel uchaf bosibl, yn lleihau effeithiau andwyol newid hinsawdd, ac yn addasu yn unol â nhw, ac yn gwella bioamrywiaeth. Bydd hyn hefyd yn cynnwys cyflwyno polisi a strategaeth rheoli asedau newydd ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a fydd wrth wraidd rhaglen newydd o waith adnewyddu asedau mawr gyda'r nod o fynd i'r afael â'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw hanfodol.
Dull Newydd o Gynnal a Chadw Ffyrdd
Mae Gweinidogion Cymru yn uniongyrchol gyfrifol am y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru a bydd sicrhau ei fod yn ddiogel o'r pwys mwyaf bob amser. Fodd bynnag, drwy gynllunio'n ofalus, gall gwariant ar waith cynnal a chadw ffyrdd sicrhau gwerth gwell a chyfrannu'n sylweddol at gyflawni nodau ac amcanion polisi ehangach Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd a sicrhau newid mewn dulliau teithio.
Gall newidiadau syml i'r ffordd y caiff lleiniau ymylon ffyrdd a'r ystad feddal eu rheoli, er enghraifft, gael effaith fuddiol enfawr ar fioamrywiaeth, a gall newid cynllun ffordd neu ailddyrannu gofod ffyrdd ar gyfer mesurau teithio llesol neu i roi blaenoriaeth i fysiau fel rhan o gynlluniau adnewyddu asedau gefnogi'r newid mewn dulliau teithio sydd ei angen i Gymru gyflawni ei thargedau carbon sero net.
Yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r dull gweithredu canlynol wrth gynnal a chadw ffyrdd:
- Bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n bennaf mewn gwaith cynnal a chadw rheolaidd a chyfalaf er mwyn cyflawni dyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru a sicrhau bod y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn ddiogel ac yn ddefnyddiol.
- Pan fydd yn buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw, caiff y gwaith ei gynllunio mewn ffordd sy'n adlewyrchu “swyddogaeth” neu “gymeriad” y llwybr a bydd yn achub ar bob cyfle i:
- Sicrhau newid mewn dulliau teithio i fathau mwy cynaliadwy o drafnidiaeth, gan adlewyrchu'r hierarchaeth trafnidiaeth yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru;
- Darparu budd net i fioamrywiaeth ac ecosystemau mwy cadarn;
- Gwneud y rhwydwaith a'r ardal o'i amgylch yn fwy gwydn i effeithiau newid yn yr hinsawdd;
- Lleihau llygredd, gan gynnwys llygredd aer, sŵn, dŵr a thir;
- Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r hierarchaeth lleihau carbon wrth gynnal a chadw a gweithredu'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn unol â PAS 2080 – Carbon management in infrastructure.
- Yn benodol, ni fydd y Rhaglen Rheoli Asedau yn y dyfodol yn cymryd yn ganiataol y dylid eu disodli seilwaith ar sail tebyg am debyg. Yn hytrach, caiff y broses o adnewyddu asedau ei thrin fel cyfle i ailystyried diben sylfaenol y ffordd dan sylw, gan ystyried Strategaeth Drafnidiaeth Cymru a'r pedwar prawf adeiladu ffyrdd a nodwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Ffyrdd [Ymateb Llywodraeth Cymru i'r Adolygiad Ffyrdd [HTML] | LLYW.CYMRU] Er enghraifft, gall fod yn bosibl lleihau costau adnewyddu ased drwy leihau cyflymder neu gapasiti'r ffordd. Yn ei dro, gall hyn ryddhau adnoddau i fuddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy.
Cwmpas yr Adolygiad
Cwmpas yr adolygiad oedd:
- Meithrin dealltwriaeth dda o natur, graddau ac amcan pob un o'r rhaglenni cynnal a chadw blynyddol perthnasol ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol;
- Adolygu cynigion ar gyfer Rhaglen Adnewyddu Asedau Mawr mewn ymateb i'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw cyfalaf ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol sy'n werth tua £1bn, ac ystyried y risgiau cyfreithiol sy'n wynebu awdurdodau priffyrdd, gan gynnwys dynladdiad corfforaethol;
- Defnyddio gwybodaeth arbenigol am ddyletswyddau awdurdodau priffyrdd statudol er mwyn rhoi barn annibynnol am ba raglenni sydd eu hangen i'w bodloni (gan gynnwys y Rhaglen Adnewyddu Asedau Mawr) ac a yw'r rhaglenni hynny wedi'u diffinio'n gywir i fodloni'r dyletswyddau hynny;
- Asesu i ba raddau y gellir dehongli'r broses o gyflawni cyfrifoldebau statudol mewn ffordd wahanol neu ehangach er mwyn dangos gwerth am arian a chyflawni rhwymedigaethau statudol;
- Asesu i ba raddau y gallai rhaglenni cynnal a chadw ac adnewyddu asedau gael eu hoptimeiddio drwy fabwysiadu dull rhagnodi mwy hyblyg.
A llunio adroddiad yn nodi'r casgliad ar gyfer pob rhaglen gyda rhesymau, gan gynnwys:
- Dehongliad o'r term ‘hanfodol o ran diogelwch’ a sut y gallai hynny ddylanwadu ar raglenni gwaith presennol ac yn y dyfodol;
- Barn am ba weithgarwch cynnal a chadw rheolaidd sy'n ‘hanfodol’ er mwyn sicrhau bod y rhwydwaith yn ddiogel o ddydd i ddydd, gan gynnwys asesu'r dull gweithredu, yng ngoleuni newidiadau posibl i swyddogaeth y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, a nodir yn y Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd;
- Opsiynau amgen ar gyfer y Rhaglen Adnewyddu Asedau Mawr gan ganiatáu dull gweithredu mwy “hyblyg” er mwyn gallu cymharu dull cyflawni ac amserlenni;
- Argymhelliad ar y safonau priodol i'w mabwysiadu er mwyn osgoi gor-ragnodi, a ph'un a ddylid defnyddio'r Llawlyfr Dylunio ar gyfer Ffyrdd a Phontydd ym mhob achos.
Argymhellion yr Adolygiad ac Ymateb Llywodraeth Cymru
Nodir argymhellion yr Adolygiad ac ymateb Llywodraeth Cymru isod:
Argymhelliad 1
Wrth ddatblygu a chyflawni rhaglenni cynnal a chadw, dylid rhoi blaenoriaeth i gyflawni dyletswydd statudol Gweinidogion Cymru i gynnal diogelwch y rhwydwaith yn ogystal â chynyddu cyfraniad y buddsoddiad at gyflawni blaenoriaethau ac amcanion Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Gwneir hyn drwy fabwysiadu dull gweithredu carbon oes gyfan o leiaf, gwella gwydnwch i newid yn yr hinsawdd ac achub ar unrhyw gyfleoedd i wella bioamrywiaeth a hyrwyddo newid i fathau mwy cynaliadwy o deithio, megis teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Gweler “Dull Newydd o Gynnal a Chadw Ffyrdd” Llywodraeth Cymru uchod.
Argymhelliad 2
Dylid datblygu cyfres o feini prawf buddsoddi ar gyfer cynnal a chadw ffyrdd a gwaith arall i'r ased presennol, yn debyg i'r hyn a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi mewn ffyrdd newydd yn dilyn argymhellion yr Adolygiad Ffyrdd. Dylai hyn flaenoriaethu diogelwch a chyfanrwydd hirdymor y rhwydwaith, ond hefyd sicrhau yr achubir ar gyfleoedd i gyflawni blaenoriaethau ac amcanion ehangach Strategaeth Drafnidiaeth Cymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Gweler “Dull Newydd o Gynnal a Chadw Ffyrdd” Llywodraeth Cymru uchod.
Argymhelliad 3
Dylid rhoi blaenoriaeth i gwblhau'r Strategaeth a'r Polisi Rheoli Asedau trosfwaol sy'n cael eu datblygu a'u “cymeradwyo” gan Weinidogion er mwyn sicrhau lefel uchel o gymorth ac ymrwymiad sefydliadol. Bydd hyn yn sicrhau, ar y cyd â'r meini prawf newydd ar gyfer buddsoddi mewn gwaith cynnal a chadw ffyrdd, fod dull trwyadl o gydymffurfio â dyletswyddau statudol a chyflawni blaenoriaethau Strategaeth Drafnidiaeth Cymru ar lawr gwlad, wrth sicrhau gwerth am arian.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae Polisi a Strategaeth Rheoli Asedau yn cael eu paratoi yn unol â'r dull newydd o gynnal a chadw ffyrdd a nodwyd uchod. Ar ôl eu cwblhau, caiff y dogfennau hyn eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 4
Dylid adolygu “cymeriad” pob rhan o'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a'r rhannau lle gallai'r terfyn cyflymder gael ei newid yn benodol, gyda'r nod o bennu'r safon briodol o ran cynnal a chadw.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Fel rhan o'r strategaeth a'r polisi rheoli asedau, nodir cyfleoedd lle gellid ailddiffinio cymeriad y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru. Gallai hyn arwain at roi safonau gwahanol ar waith mewn perthynas â gofynion archwilio a chynnal a chadw drwy newid cymeriad y ffordd, megis drwy ostwng terfynau cyflymder neu gapasiti'r ffordd.
Argymhelliad 5
Dylid diwygio'r Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd er mwyn symud i system seiliedig ar risgiau o archwilio ac atgyweirio. Dylai'r Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd gael ei gysoni drwy'r Strategaeth a'r Polisi Rheoli Asedau ag ymrwymiadau polisi Llywodraeth Cymru, a'r newidiadau posibl i swyddogaeth y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol a fydd yn deillio o'r rhain ac o bolisïau eraill. Dylai fersiwn ddiwygiedig o'r ddogfen gael ei rhoi ar waith yn 2023/24 a dylid ei hadolygu'n gyson.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Bydd fersiwn ddiwygiedig o'r Llawlyfr Cynnal a Chadw Cefnffyrdd sy'n gyson â Pholisi a Strategaeth Rheoli Asedau newydd Llywodraeth Cymru a'r nodau a'r amcanion polisi ehangach yn cael ei rhoi ar waith yn ystod 2023/24. Mae diwygiadau pellach i'r Llawlyfr wedi'u cynllunio a fydd yn adlewyrchu newid tuag at ffordd o archwilio ac atgyweirio sy'n seiliedig ar risgiau ac amodau.
Argymhelliad 6
Dylai Llywodraeth Cymru ystyried y ffordd orau o gymhwyso, ac addasu pan fo angen, y safonau a'r canllawiau yn y Llawlyfr Dylunio Ffyrdd a Phontydd drwy ddefnyddio Atodiadau Cais Cenedlaethol a Chanllawiau ar Weithdrefnau a Chyngor fel ei fod yn gwbl gyson â pholisïau Llywodraeth Cymru a'r gwaith o gyflawni dyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gwneud defnydd da o Atodiadau Cais Cenedlaethol, Canllawiau ar Weithdrefnau a Chyngor ac yn gweithredu proses Gwyro oddi wrth Safonau, a bydd yn parhau i wneud hynny, er mwyn sicrhau bod gwaith ar y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn gyson â'r gwaith o gyflawni dyletswyddau statudol ac amcanion polisi ehangach.
Enghraifft dda o hyn yw Canllawiau ar Weithdrefnau a Chyngor 115/20 “Teithio Llesol a Chynlluniau Gwella Cefnffyrdd” sy'n gwneud dull gweithredu aml-randdeiliad yn ofynnol er mwyn sicrhau y ceir y manteision gorau posibl i deithio llesol yn sgil buddsoddiadau yn y rhwydwaith ffyrdd.
Argymhelliad 7
Dylid darparu hyfforddiant rheolaidd i bob aelod o staff, gan gynnwys uwch-swyddogion, ar ddyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru ar gyfer y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol fel awdurdod priffyrdd fel y nodir yn y Ddeddf Priffyrdd ac mewn deddfwriaeth arall.
Dylai'r hyfforddiant hefyd gynnwys dealltwriaeth o Lawlyfr Ymchwilio i Farwolaethau ar y Ffyrdd yr Heddlu a deddfwriaeth yn ymwneud â dynladdiad corfforaethol.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae hyfforddiant ar ddyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru a deddfwriaeth yn ymwneud â Dynladdiad Corfforaethol wedi cael ei ddarparu i staff y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol ac asiantiaid cefnffyrdd.
Bydd yr hyfforddiant hwn yn parhau i gael ei ddarparu'n rheolaidd.
Argymhelliad 8
Dylid adolygu'r weithdrefn rheoli risgiau bresennol er mwyn sicrhau bod proses gadarn ar gyfer nodi a chofnodi'r holl risgiau perthnasol, eu bod yn cael eu neilltuo i'r rheini sydd yn y sefyllfa orau i'w rheoli, bod gweithdrefn glir ar gyfer uwchgyfeirio risgiau gan yr Asiantiaid Cefnffyrdd i Lywodraeth Cymru a bod pob risg yn cael ei hadolygu'n barhaus mewn ffordd archwiliadwy.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae adolygiad cynhwysfawr o'r broses rheoli risg yn cael ei gynnal ar hyn o bryd ar y cyd â dau asiant cefnffyrdd Llywodraeth Cymru.
Argymhelliad 9
Yn amodol ar argymhellion 1 a 2, dylai pob rhaglen bresennol sy'n hanfodol o ran diogelwch barhau. Dylid rhoi sylw penodol i Adnewyddu Asedau Mawr a'r Rhaglen Twnelau, sef y meysydd lle mae Gweinidogion Cymru yn wynebu'r risg fwyaf ym marn y Tîm Adolygu.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Bydd yr holl raglenni presennol sy'n hanfodol o ran diogelwch, gan gynnwys y rhaglen waith twnelau, yn parhau i gael eu datblygu a'u cyflawni.
Mae gwaith annibynnol wedi cael ei gomisiynu i ddatblygu rhaglen Adnewyddu Asedau Mawr wedi'i blaenoriaethu er mwyn cyflawni rhaglen o gynlluniau sy'n hanfodol o ran diogelwch.
Argymhelliad 10
Dylid creu rhestr o waith adnewyddu/atgyweirio asedau sydd angen ei wneud fel gofyniad sylfaenol (y gwaith sydd angen ei wneud er mwyn bodloni dyletswydd i gynnal Llywodraeth Cymru), a dylid symud dyluniadau ymlaen i'r cam lle gellir dechrau adeiladu.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Caiff rhaglen o waith adnewyddu/atgyweirio asedau sydd angen ei wneud fel gofyniad sylfaenol yn unol â dyletswydd i gynnal Llywodraeth Cymru ei datblygu i gam lle gellir dechrau adeiladu.
Argymhelliad 11
Dylai'r gwaith o ddatblygu'r rhestr atgyweirio/adnewyddu asedau fod yn broses ddiffiniedig a thryloyw yn seiliedig ar gynnal diogelwch y rhwydwaith gan roi sylw penodol i'r risg o fethiant catastroffig.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae proses flaenoriaethu dryloyw yn cael ei datblygu a chaiff ei rhoi ar waith wrth ddatblygu'r rhaglenni y cyfeiriwyd atynt yn Argymhellion 9 a 10.
Bydd archwiliadau rheolaidd o strwythurau'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn parhau i gael eu cynnal yn unol â safonau cenedlaethol.
Argymhelliad 12
Dylid blaenoriaethu rhaglenni ar draws pob disgyblaeth ar sail y meini prawf buddsoddi a argymhellir a nodwyd yn argymhelliad 2 a'u cynnal fel un rhaglen archwiliadwy.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Yn unol â'r ymateb i argymhelliad 11, caiff proses dryloyw wedi'i blaenoriaethu ei chymhwyso wrth fabwysiadu'r ‘Dull Newydd o Gynnal a Chadw Ffyrdd’.
Argymhelliad 13
Dylai swyddogion Llywodraeth Cymru gadarnhau bod yr holl ddata am gyflwr asedau a ddefnyddir wrth flaenoriaethu rhaglenni a gwaith y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yn gywir yn gyntaf. Dylai swyddogion hefyd sicrhau bod unrhyw fodelau a ddefnyddir i ragfynegi dirywiad asedau a chost y gwaith o'u hatgyweirio yn seiliedig ar dybiaethau realistig a'u bod yn cael eu cadarnhau dros amser wedi hynny.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cael data cywir am gyflwr asedau a defnyddio modelau dadansoddi priodol wrth ddatblygu rhaglenni buddsoddi. Bydd swyddogion yn sicrhau bod y data hyn yn cael eu cadarnhau.
Argymhelliad 14
Dylid sicrhau bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cael mynediad llawn at Offeryn Prisio Asedau a Buddsoddi ar gyfer Adeileddau er mwyn iddynt allu diwygio'r data eu hunain gan fod cyfyngiadau technoleg gwybodaeth o fewn Llywodraeth Cymru yn atal gwaith dadansoddi ar hyn o bryd.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Gwneir trefniadau i swyddogion Llywodraeth Cymru gael mynediad llawn at yr offeryn.
Argymhelliad 15
Dylid cynnal adolygiad o'r adnoddau sydd ar gael i Lywodraeth Cymru er mwyn pennu a oes ganddi'r capasiti a'r galluogrwydd technegol i gyflawni dyletswyddau statudol Gweinidogion Cymru a chyflawni blaenoriaethau ac amcanion Strategaeth Drafnidiaeth Cymru. Dylid cynnal adolygiad cwbl gynhwysfawr o raglenni er mwyn helpu i nodi meysydd blaenoriaeth ac adnoddau y gellid eu hailgyfeirio.
Ymateb Llywodraeth Cymru: Derbyniwyd
Mae adolygiad o'r adnoddau o fewn Llywodraeth Cymru yn cael ei gynnal. Caiff proses wedi'i blaenoriaethu sy'n cael ei datblygu, fel y nodwyd yn yr ymatebion i Argymhellion 9, 10 ac 11, ei defnyddio i lywio'r adolygiad hwn.