Neidio i'r prif gynnwy

Y Ganolfan fel dylanwadwr strategol

Argymhelliad 1

Dylai “Cam 2” ganolbwyntio’n bennaf ar ddatblygu a chryfhau sefyllfa’r Ganolfan fel pwerdy a dylanwadwr strategol ym maes caffael y Gymraeg. Mae arolygiad Estyn yn galw am i’r Ganolfan rannu ei harbenigedd mewn addysgu llwyddiannus a chaffael ail iaith â sectorau perthnasol eraill. Dylid annog y Ganolfan i weithio gyda phartneriaid i nodi’r meysydd hynny o addysgeg a’r cwricwlwm y mae’n rhagori ynddynt gyda’r nod o ddod yn hwb cenedlaethol ar gyfer datblygu ac arloesi o ran methodoleg, addysgeg a’r cwricwlwm wrth ddysgu iaith.

Derbyn

Mae’r Llywodraeth yn fodlon bod y Ganolfan, ers ei sefydlu, wedi sefydlu strwythur cenedlaethol sydd wedi rhoi sail gadarn i’r sector Dysgu Cymraeg. Mae’r Arolwg hwn, wedi’i gyplysu gydag adroddiad Estyn a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021, yn cadarnhau bod y Ganolfan a’r sector Dysgu Cymraeg yn ei gyfanrwydd yn cyfrannu’n effeithiol i strategaeth Cymraeg 2050 ac yn llwyddo i gyflwyno’r Gymraeg i siaradwyr newydd.

Rydym yn cytuno gyda’r argymhelliad cyntaf hwn, ac wrth gynllunio gwaith y Ganolfan ar gyfer yr ail gyfnod o Awst 2022 ymlaen byddwn yn chwilio am gyfleoedd i ddatblygu’r Ganolfan ymhellach a chryfhau dylanwad y Ganolfan ym maes caffael y Gymraeg. Rydym yn falch bod y Ganolfan wedi ffurfio partneriaethau effeithiol gyda rhanddeiliaid yn y maes dysgu iaith a gyda phartneriaid cymunedol ers cael ei sefydlu. Mae’r partneriaethau hyn wedi ehangu’r arlwy Dysgu Cymraeg i ddysgwyr ac wedi hwyluso cyfleoedd i siaradwyr newydd i ddefnyddio’u Cymraeg mewn peuoedd y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth. Yn ystod yr ail gyfnod o Awst 2022 ymlaen byddwn yn hwyluso i’r Ganolfan ymestyn ar y partneriaethau hyn a chreu partneriaethau ffurfiol gyda rhanddeiliaid o’r maes addysg statudol, gan gyfrannu ei arbenigedd mewn dysgu iaith i’r ymdrechion i ddysgu Cymraeg o fewn yr oed addysg statudol fel rhan o’r cwricwlwm newydd. Rydym yn falch bod y Ganolfan eisoes wedi cydweithio gyda chonsortia addysg i addasu peth o’i hadnoddau i’w defnyddio i ddysgu’r Gymraeg mewn ysgolion, a byddwn yn sicrhau bod cydweithio fel hyn yn parhau ac yn cael ei ehangu yn strategol ar lefel genedlaethol.

Argymhelliad 2

Dylai’r Ganolfan ddatblygu’n hwb ar gyfer arloesedd ymchwil ym maes caffael iaith. Bydd nodi ac ariannu meysydd sydd â’r potensial i lywio ei darpariaeth yn ddangosydd allweddol arall o ffocws y Ganolfan yn ystod “Cam 2”.

Derbyn

Rydym yn cytuno gyda’r argymhelliad hwn. Yn ystod y tymor grant cyntaf rhwng 2015 a nawr mae’r Ganolfan wedi bod yn cynnal ymchwil achlysurol i lywio ei darpariaeth, gan gynnwys ymchwil i’r farchnad a gwerthusiadau o rai elfennau o’i darpariaeth. Yn ystod Cam 2 mae’r Llywodraeth yn dymuno gweld y Ganolfan yn cryfhau ac yn ehangu ei rôl ymchwil ym maes caffael iaith i oedolion. Byddwn yn gweithio gyda’r Ganolfan i gynllunio camau tuag at wireddu hyn. Byddwn yn sicrhau hefyd bod swyddogaeth y Ganolfan o ran ymchwil a thystiolaeth ym maes caffael iaith yn cael ei datblygu drwy gydweithio strategol â rhanddeiliaid a rhwydweithiau ymchwil eraill.

Argymhelliad 3

Bydd angen rhoi proses glir ar waith ar gyfer hwyluso trafodaethau rhwng y Ganolfan a Llywodraeth Cymru am ‘dargedu strategol’ mewn perthynas â’r ddarpariaeth erbyn “Cam 2” datblygiad y Ganolfan.

Derbyn

Byddwn yn delio gyda’r argymhelliad hwn ochr yn ochr ag argymhelliad 4, isod. Mae angen sicrhau bod modelau llywodraethiant y Ganolfan yn caniatáu ar gyfer trafodaeth bolisi barhaus ac effeithiol rhwng Llywodraeth Cymru a’r Ganolfan i sicrhau bod darpariaeth y Ganolfan yn cyd-fynd â blaenoriaethau polisi’r Llywodraeth. Dylai’r drafodaeth hon helpu i sicrhau bod y Ganolfan yn parhau i ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i anghenion newydd ar gyfer ymyraethau fel maent yn codi (er enghraifft pan adnabyddir bod angen targedu darpariaeth i grwpiau penodol o fewn cymdeithas, neu sectorau penodol o fewn y gweithlu).

Argymhelliad 4

Wrth ystyried yr argymhellion uchod, ac wrth i’r Ganolfan gychwyn ar “Gam 2”, byddai’n amserol i’r Ganolfan a Llywodraeth Cymru ystyried a yw’r model llywodraethu presennol yn briodol.

Derbyn

Rydym yn cytuno dylid ystyried os yw’r trefniadau llywodraethiant presennol yn briodol, ac os oes angen gwneud newidiadau i’r trefniadau hynny o Awst 2022 ymlaen. Fel rhan o’r gwaith hwn byddwn yn ystyried rôl a chylch gorchwyl Pwyllgor Craffu Cymraeg i Oedolion Llywodraeth Cymru, ynghyd a thrafod gyda’r Ganolfan rôl a chylch gorchwyl ei Bwrdd Ymgynghorol hwy.

Ehangu cylch gwaith y Ganolfan

Argymhelliad 5

Dylai’r Ganolfan a Llywodraeth Cymru archwilio sut y gall ei chylch gwaith yn ystod “Cam 2” gael ei ehangu i feysydd fel hyfforddi’r gweithlu addysg, gan rannu adnoddau ac arferion da â’r sector ail iaith mewn ysgolion a meithrin sgiliau iaith ar gyfer pynciau addysg bellach.

Derbyn

Mae’r Ganolfan eisoes yn cyfrannu at y maes o hyfforddi’r gweithlu addysg trwy ddarparu cyrsiau ar-lein wedi’u teilwra ar lefelau Mynediad a Hyfedredd. Byddwn yn parhau i gyd-weithio gyda’r Ganolfan a rhanddeiliaid eraill sy’n darparu hyfforddiant iaith i’r gweithlu addysg i sicrhau rhaglen lawn o gyrsiau iaith i ymarferwyr addysg ar draws y lefelau.

Argymhelliad 6

Dylai’r Ganolfan a Llywodraeth Cymru gwmpasu ehangu’r ddarpariaeth a’r cylch gwaith i gynnwys pobl 16-25 oed sydd wedi astudio’r Gymraeg fel pwnc yn y sector ysgolion cyfrwng Saesneg.

Derbyn

Rydym eisoes wedi ymrwymo i weithredu’r argymhelliad hwn yng Nghynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2021 i 2026. Mae’r Cynllun yn cynnwys y pwynt gweithredu canlynol:

Datblygu cynigion i warantu bod pobl ifanc 16 i 25 oed yn gallu cael mynediad am ddim i gyrsiau Cymraeg i oedolion, er mwyn iddyn nhw allu adeiladu ar y sgiliau a gawson nhw drwy addysg statudol, fel bod gan bob person ifanc yr un cyfle i ddod yn siaradwr hyderus.

Ar hyn o bryd darparu gwersi Dysgu Cymraeg i oedolion dros 18 mlwydd oed sydd yng nghylch gorchwyl y Ganolfan. I sicrhau bod y Ganolfan yn gallu chwarae rhan lawn mewn gwireddu’r polisi hwn, fe fyddwn yn edrych i ymestyn cylch gorchwyl y Ganolfan i gynnwys oed 16 i 18. Byddwn yn trafod gweithrediad y polisi hwn gyda’r Ganolfan i sicrhau bod rhanddeiliaid eraill o’r sectorau ysgolion, addysg bellach, ac addysg uwch yn cael eu cynnwys yn y cynllunio. Byddwn hefyd yn sicrhau bod trefniadau diogelwch / amddiffyn plant priodol yn eu lle i alluogi’r Ganolfan i ddysgu personau sy’n iau nag 18.

Argymhelliad 7

Dylai’r Ganolfan fynd ati gydag asiantaethau cynllunio iaith a phartneriaid priodol i ystyried ffyrdd o roi cyngor ar strategaethau ar gyfer newid yr iaith a ddefnyddir gydag unigolyn penodol, e.e. o fewn y teulu neu gyda phartner / plant.

Derbyn

Mae’n bwysig bod gan siaradwyr Cymraeg newydd gefnogaeth ac yn cael eu harfogi gan ddulliau i’w cefnogi i ddefnyddio’r Gymraeg. Byddwn yn gweithio gyda’r Ganolfan i sicrhau ei bod yn cyfrannu at weithredu ein polisi cenedlaethol ar drosglwyddo’r Gymraeg a’i defnydd mewn teuluoedd.

Yn ogystal â hynny byddwn yn parhau i weithredu ymyraethau eraill i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg mewn peuoedd eraill, er enghraifft parhau i ddefnyddio cynllun “Iaith Gwaith” mewn gweithleoedd a mannau derbyn gwasanaethau fel dull o ddynodi bod gwasanaeth Cymraeg ar gael.

Argymhelliad 8

Mae angen i rôl y Ganolfan wrth hwyluso taith y dysgwr o’r ystafell ddosbarth i’r gymuned gael ei diffinio’n gliriach. Dylid cydnabod y gall cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gymuned fod yn her, nid yn unig i oedolion sy’n dysgu Cymraeg, ond hefyd i’r rhai sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg ac i siaradwyr Cymraeg sy’n symud i’r ardaloedd hyn. Mae angen gwneud gwaith cynllunio cyfannol er mwyn gwireddu ac ehangu’r cyfleoedd hyn gyda phartneriaid priodol.

Derbyn

Un o’r heriau mwyaf yn y sector Dysgu Cymraeg yw sicrhau bod siaradwyr newydd yn cael yr hyder a’r cyfle i ddefnyddio’i sgiliau newydd yn y Gymraeg mewn peuoedd eraill fel yn y gymuned, mewn gweithleoedd a mewn cartrefi. Mae cymhathu siaradwyr newydd i grwpiau cymunedol yn fater sy’n ymestyn y tu hwnt i gyfrifoldebau’r Ganolfan Dysgu.

Rydym eisoes yn annog cydweithio rhwng ein partneriaid a’r Ganolfan trwy Grŵp Hyrwyddo’r Llywodraeth. Trwy’r Grŵp hwnnw byddwn yn gofyn i’r Ganolfan weithio gyda partneriaid eraill i sicrhau bod pob partner yn cynllunio ar gyfer denu siaradwyr newydd i’w gweithgareddau. Mae’r Ganolfan a’r Mentrau Iaith eisoes wedi lansio cynllun Mwynhau’r Gymraeg sydd wedi cael ei dargedu at siaradwyr newydd, a darparu cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth gyda phobl leol.

Yn ogystal a gwaith gyda partneriaid cymunedol, bydd polisi a amlinellir yn yr ymateb i argymhelliad 6 uchod hefyd yn cyfrannu at rhoi hyder i bobl ifanc i ddefnyddio’u Cymraeg yn y gymuned.

Argymhelliad 9

Dylai’r Ganolfan ystyried ehangu’r cynllun Siarad i greu cymunedau ymarfer sy’n dod ag unigolion â diddordebau tebyg (e.e. chwaraeon, hobïau, gweithgareddau diwylliannol) at ei gilydd.

Derbyn

Rydym yn awyddus i weld cymaint o ddulliau ag sy’n bosib ar waith i roi cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg newydd ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i ystafell ddosbarth Dysgu Cymraeg. Rydym yn derbyn bod defnyddio diddordebau cyffredinol yn ffordd effeithiol o ddod a phobl at ei gilydd ac yn ffordd o annog partneriaethau hir-dymor rhwng siaradwyr Cymraeg newydd â chymunedau o ddiddordeb. Credwn felly dylid gwneud ymdrechion penodol i ddod a siaradwyr Cymraeg a siaradwyr newydd at ei gilydd i ddefnyddio’r Gymraeg mewn cyd-destun ddiddordebau ar y cyd. Byddwn yn trafod yr argymhelliad hwn gyda’r Ganolfan, gyda’r golwg o’i weithredu’n llawn yn ystod Cam 2.

Argymhelliad 10

Dylai’r Ganolfan a Llywodraeth Cymru werthuso faint o fuddsoddiad fyddai ei angen o ran amser staff ac adnoddau eraill er mwyn ehangu’r cynllun Siarad, a’u dyrannu’n unol â hynny.

Derbyn

Byddwn yn trafod hwn gyda’r Ganolfan fel rhan o’r ymateb i argymhelliad 9, uchod.

Darpariaeth y Ganolfan

Argymhelliad 11

Dylai’r ganolfan werthuso llwyddiant dulliau fel dysgu cyfunol, ystafell ddosbarth rithwir a hunan-astudio i wneud y gorau o ddarpariaeth wrth i ni symud ymlaen o gyfnod y pandemig trwy ddefnyddio dulliau ymchwil priodol.

Derbyn

Rydym yn ymwybodol bod y Ganolfan eisoes yn ystyried pa wersi sydd wedi eu dysgu o’r newidiadau a wnaed i’r ddarpariaeth yn ystod y pandemig. Maent yn casglu barn tiwtoriaid a dysgwyr am fanteision ac anfanteision dysgu rhithiol, ac yn edrych ar wybodaeth megis cyfraddau mynychu dosbarthiadau. Byddwn yn parhau i drafod gyda’r Ganolfan i sicrhau bod y ddarpariaeth yn cael ei gwerthuso drwy ddulliau priodol, ac yn cael ei datblygu ymhellach ar sail y dystiolaeth.

Rydym yn awyddus i weld y Ganolfan a’r darparwyr yn adeiladu ar y gwaith arloesol sydd wedi digwydd yn ystod y pandemig o ran darparu gwersi cyfunol, rhithiol, ac ehangu’r ddarpariaeth hunan-astudio. Rydym yn croesawu bod gan ddysgwyr ddewis mor eang â phosibl o ddulliau i ddysgu Cymraeg, ac yn awyddus i’r arlwy eang barhau.

Argymhelliad 12

Dylai’r Ganolfan ddatblygu adnoddau, darpariaeth a phartneriaethau i ehangu’r ddarpariaeth ar lefel C1+ Gloywi (Hyfedredd).

Derbyn

Rydym yn derbyn yr argymhelliad hwn ac yn cytuno bod angen datblygu adnoddau, darpariaeth a phartneriaethau ar y lefelau uwch hyn i sicrhau bod siaradwyr newydd yn teimlo’n gwbl hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn peuoedd fel gweithleoedd ac yn y cartref. Byddai datblygu’r arlwy gloywi iaith hefyd yn cyfrannu at wireddu argymhelliad 6, uchod, ac yn cynnig darpariaeth addas i bobl ifanc sydd wedi dysgu’r Gymraeg yn yr ysgol, neu sydd wedi symud i ffwrdd o Gymru am gyfnod ac felly wedi colli hyder yn eu Cymraeg. Gall darpariaeth C1+ neu loywi addas rhoi’r hwb sydd angen arnynt i fedru defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle neu siarad Cymraeg yn y cartref.

Argymhelliad 13

Mae angen ymchwilio ymhellach i’r meincnod o gwblhau lefel B1 (Canolradd) fel arwydd o ruglder ac mae angen amlinellu’r meini prawf a ddefnyddiwyd.

Derbyn

Fel rhan o raglen ymchwil y Ganolfan o 2022 ymlaen, rydym yn cytuno fod angen gwaith ymchwil pellach fel sail ar gyfer asesu a chofnodi cyrhaeddiad ieithyddol yn y Gymraeg. Fel rhan o hynny dylid archwilio a yw pennu B1 fel arwydd o ruglder yn y Gymraeg yn briodol. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd cael eglurder ynghylch meini prawf sy’n diffinio lefelau cyrhaeddiad yn y Gymraeg. Mae hyn yn bwysig ar gyfer gallu olrhain taith siaradwr ar hyd continwwm ieithyddol. Gellid delio â’r ymchwil hwn wrth i ni drafod gweithredu’r ymateb i argymhelliad 2 gyda’r Ganolfan.

Er bod manteision i bennu lefel cyrhaeddiad sydd gyfystyr a bod yn “rhugl”, mae’n bwysig hefyd ein bod yn cydnabod a dathlu sgiliau pob siaradwr. Nid yw cyrraedd rhuglder o anghenraid yn nod i bob unigolyn sy’n mynd ati i ddysgu Cymraeg. Rydym yn annog pob dysgwr i ddefnyddio faint bynnag o Gymraeg sydd ganddynt.

Rhaid cofio hefyd ei bod yn bosibl y gall unrhyw ddata sydd yn seiliedig ar hunan asesiad o ruglder gael ei ddylanwadu gan ganfyddiad neu ddehongliad personol yr ymatebydd. Mae angen cadw hyn mewn cof wrth ddehongli gwybodaeth am allu ieithyddol sydd wedi ei seilio ar hunan asesiadau.

Argymhelliad 14

Dylai’r Ganolfan a Llywodraeth Cymru gynllunio er mwyn sicrhau bod llwybrau gyrfa amser llawn ar gael i greu más critigol o ymarferwyr (a gweinyddwyr) yn y sector Cymraeg i Oedolion.

Derbyn

Rydym yn cytuno gyda’r argymhelliad hwn ac yn awyddus i sicrhau bod gweithlu proffesiynol a digonol o ran ei faint yn y sector Dysgu Cymraeg. Mae’r Ganolfan wedi bod yn gweithredu Cynllun Academi er mwyn datblygu sgiliau’r gweithlu Dysgu Cymraeg. Fel rhan o weithredu cynllun datblygu gweithlu’r Ganolfan maent wedi llunio rhaglen genedlaethol o hyfforddiant sydd ar gael i diwtoriaid a staff gweinyddol y sector Dysgu Cymraeg. Mae’r Ganolfan wedi dechrau’r gwaith o baratoi cymhwyster cenedlaethol cydnabyddedig; rydym yn croesawu hynny ac yn credu bod hynny’n gam mawr ymlaen i broffesiynoli a chynyddu statws y maes. Byddwn yn trafod gyda’r Ganolfan i sicrhau bod y trefniadau hyn yn parhau ar ôl Awst 2022 i sicrhau bod gweithlu’r sector wedi cael eu hyfforddi’n briodol, ac i sicrhau bod y gweithlu yn cael eu hyfforddi yn y datblygiadau diweddaraf e.e. dysgu digidol / o bell.

Yn ogystal, mae gan y Ganolfan gynllun yn ei le i recriwtio tiwtoriaid newydd. Rydym yn falch bod y Ganolfan yn cydnabod bod gwerth mewn cael amrywiaeth o fathau gwahanol o swyddi gwahanol o fewn y sector - gan gynnwys tiwtoriaid llawn amser, a thiwtoriaid rhan amser a ffracsiynol. Mae hwn yn cynyddu apêl y sector i gyflogeion posib ac yn cynyddu hyblygrwydd wrth chwilio am diwtoriaid i weithio oriau amrywiol, fel dysgu dosbarthiadau nos.

Rheoli gwybodaeth gan y Ganolfan

Argymhelliad 15

Dylai’r Ganolfan gysylltu strategaeth yn agosach â thystiolaeth o’i data ei hun a chanfyddiadau o ddadansoddi bylchau, gan atgyfnerthu ei gallu i ysgogi blaenoriaethau polisi fel creu mwy o siaradwyr a defnyddwyr y Gymraeg.

Derbyn

Rydym yn falch iawn o’r camau mae’r Ganolfan wedi’u cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i sefydlu system casglu data cadarn. Mae’r Ganolfan bellach yn cyhoeddi data yn rheolaidd yn unol â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Nawr bod systemau casglu data ac adrodd wedi’u sefydlu rydym yn cytuno y dylai’r Ganolfan ddefnyddio’r data sydd ar gael i wirio os yw’r bobl sy’n dysgu Cymraeg yn cyd-fynd â thargedau Cymraeg 2050, a defnyddio data i adnabod bylchau yn y gynulleidfa ac os oes angen ymgyrchoedd recriwtio wedi’u targedau at unrhyw grwpiau penodol. Byddwn hefyd yn trafod gyda’r Ganolfan sut y gellir defnyddio data ynglŷn â thaith dysgwyr trwy’r lefelau Dysgu Cymraeg, a gwybodaeth ynglŷn â dysgwyr sy’n cael eu colli o’r system rhwng lefelau i wella dilyniant a chynyddu’r nefoedd sy’n cwblhau’r daith Dysgu Cymraeg.

Argymhelliad 16

Dylai’r Ganolfan ddefnyddio’r data sydd bellach ar gael iddi i gael dealltwriaeth well ynghylch pwy sy’n ymgysylltu â Dysgu Cymraeg a sut y mae hyn yn cydweddu â thargedau “Cymraeg 2050”. Dylai hyn lywio’r gwaith o recriwtio, monitro a thargedu’r grwpiau penodol yr ystyrir eu bod yn bwysig yng nghyd-destun “Cymraeg 2050” ac mae’n gysylltiedig ag Argymhelliad 3.

Derbyn

Mae’r ymateb i’r argymhelliad hwn wedi’i gynnwys yn yr ymateb i argymhelliad 15, uchod.

Meithrin partneriaethau

Argymhelliad 17

Dylid parhau partneriaethau’r Ganolfan â darparwyr preifat fel SSiW (Say Something in Welsh) a Duolingo. Byddai codi ymwybyddiaeth dysgwyr o’r mathau hyn o ddarpariaeth (SSiW, Duolingo a Learn Welsh) a hwyluso symudiad rhwng ac ar draws darparwyr dysgu yn fuddiol iddynt gan wneud llwybrau cynnydd yn gliriach.

Derbyn

Rydym yn falch o’r partneriaethau ffurfiol sydd yn eu lle rhwng y Ganolfan a SSiW, a Duolingo. Ers rhai blynyddoedd, mae darparwyr Dysgu Cymraeg y Ganolfan wedi bod yn annog dysgwyr i wneud y mwyaf o ddarpariaeth y cwmnïau hyn wrth iddynt ddysgu Cymraeg. Mae’r partneriaethau gyda SSiW a Duolingo wedi mynd ymhell tuag at greu un gymuned o ddysgwyr, ac wedi cynyddu’r arlwy o adnoddau sydd ar gael i droi ato i helpu dysgu Cymraeg.

Yn Mai 2020 fe gytunodd y Ganolfan partneriaeth ffurfiol gyda SSiW sy’n golygu rhannu adnoddau dysgu; ac mae’r Ganolfan erbyn hyn yn darparu cynnwys SSiW i 2,000 o’i dysgwyr nhw yn rhad ac am ddim i ategu at y dysgu a wneir yn y dosbarth. Yn y cefndir hefyd mae’r Ganolfan a SSiW yn gallu elwa ar arbenigedd ei gilydd a rhannu arfer dda sy’n arwain at well darpariaeth i’r dysgwyr.

O ran Duolingo, mae gwaith wedi mynd rhagddi i sicrhau bod cynnwys Duolingo yn cyd-fynd â chwricwlwm y Ganolfan, sy’n golygu bod dysgwyr yn gallu defnyddio’r wefan fel adnodd i ymarfer rhwng gwersi, ac i wneud gwaith cartref. O fis Hydref 2021 ymlaen bydd y bartneriaeth honno’n datblygu ymhellach gan fod y Ganolfan wedi dod i gytundeb gyda Duolingo i gymryd cyfrifoldeb am y cwrs Cymraeg Duolingo. Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros y cynnwys a monitro defnydd o’r adnodd. Bydd y cwrs Duolingo yn cynnwys cyfeiriad at ddarpariaeth Dysgu Cymraeg y Ganolfan ac yn rhannu brandio.

Mae’n bwysig bod darpariaeth y gwahanol ddarparwyr yn cefnogi’i gilydd ac yn hwyluso’r broses o ddysgu Cymraeg. Rydym yn agored i weld y Ganolfan yn partneriaethu gyda chwmnïau preifat eraill yn y dyfodol pe bai cyfleoedd yn codi.

Argymhelliad 18

Dylid cynnal y bartneriaeth bresennol â CBAC i ddarparu arholiadau a chymwysterau i’r dysgwyr hynny sy’n dymuno eu sefyll. Dylid ymchwilio ymhellach i ffyrdd o gysylltu’r cymwysterau hyn â’r gofynion iaith ar gyfer gweithlu dwyieithog.

Derbyn

Mae’r Ganolfan wedi meithrin perthynas dda gyda CBAC ac wedi datblygu rhyngddynt system arholiadau sy’n gweddu’r lefelau ar hyd y ddarpariaeth Dysgu Cymraeg. Ers sefydlu’r Ganolfan mae’r nifer o ddysgwyr sy’n penderfynu eistedd arholiadau ac ymgeisio am gymwysterau ffurfiol trwy’r system Dysgu Cymraeg wedi cynyddu. Rydym yn cyd-fynd â chasgliadau’r Arolwg bod hi’n bwysig cydnabod nad yw pob dysgwr eisiau eistedd arholiadau a chael cymwysterau ffurfiol; fodd bynnag mae angen bod y berthynas gyda CBAC yn parhau fel bod strwythur arholiadau a chymwysterau cadarn yn ei le i rheiny sydd eisiau.

Nawr bod y prosiect Cymraeg Gwaith wedi ennill ei blwyf yn y maes caffael iaith, a bod nifer sylweddol o gyflogwyr a dysgwyr yn defnyddio’r cyrsiau sy’n cael ei ddarparu, byddwn yn gofyn i’r Ganolfan yn ystod Cam 2 i sicrhau bod arholiadau a’r strwythur cymwysterau yn addas ar gyfer anghenion gweithleoedd o bersbectif cyflogwyr a chyflogai.

Argymhelliad 19

Dylai’r Ganolfan barhau i weithio’n adeiladol gyda’r Mentrau Iaith a chyrff perthnasol eraill i gynnig cymorth i ddysgwyr. Yn benodol, dylid ystyried partneriaethau a fyddai’n rhoi cyfleoedd i ddysgwyr weithio gyda’r Papurau Bro.

Derbyn

Rydym eisoes yn annog cydweithio rhwng ein partneriaid a’r Ganolfan trwy’r cytundebau grant a byddwn yn sicrhau bod hynny yn parhau. Rydym yn falch bod y Ganolfan a’r Mentrau Iaith wedi lansio cynllun Mwynhau’r Gymraeg sydd wedi cael ei dargedu at siaradwyr newydd, a darparu cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth gyda phobl leol. Mae’n bwysig bod ein partneriaid yn gweithio gyda’i gilydd i hwyluso cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar lawr gwlad, ac mae angen i siaradwyr Cymraeg newydd fod yn rhan o hynny.

Mae rhai darparwyr Dysgu Cymraeg eisoes yn gweithio gyda Phapurau Bro lleol ac mae hynny’n ddull da o hyrwyddo’r ymdrechion mae pobl yn gwneud i ddysgu Cymraeg, a dathlu eu llwyddiant. Byddwn yn trafod gyda’r Ganolfan sut gellid lledaenu’r arfer hynny fel bod darllenwyr Papurau Bro ar draws Cymru yn cael cyfle i ddarllen am lwyddiant dysgwyr lleol, ac fel bod y rheiny sy’n dysgu Cymraeg yn defnyddio papurau bro i ymarfer darllen Cymraeg a’u cynorthwyo i gymhathu i’r gymuned leol.

Argymhelliad 20

Dylai’r Ganolfan ystyried cydweithredu pellach â’r cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig defnyddio’r cyfryngau Saesneg eu hiaith (e.e. radio masnachol) fel adnodd marchnata a chodi ymwybyddiaeth.

Derbyn

Byddwn yn trafod gyda’r Ganolfan i sicrhau ei bod yn defnyddio’r cyfryngau yn effeithiol wrth farchnata a thargedu dysgwyr newydd. Mae’r Ganolfan wedi nodi yn ein trafodaethau bod rhai darparwyr eisoes wedi meithrin perthynas gyda gorsafoedd radio masnachol lleol ac yn defnyddio hynny i godi ymwybyddiaeth o’r ddarpariaeth Dysgu Cymraeg lleol. Bydd y Ganolfan yn gofyn i’r darparwyr hynny rhannu’r profiad o weithio gyda radio masnachol lleol gyda’r darparwyr eraill.

Argymhelliad 21

Dylai’r Ganolfan hwyluso trafodaethau â sefydliadau/cyrff Cymraeg neu ryngwladol eraill i nodi enghreifftiau o bolisi / arferion da sydd wedi arwain at gymhathu siaradwyr newydd.

Derbyn

Rydym bob amser yn croesawu cyrff yn rhannu arfer da gyda’i gilydd, a rhwydweithio gan gyrff i osgoi dyblygu gwaith. Mae’r Llywodraeth yn darparu cyfleoedd rheolaidd i hynny ddigwydd trwy gyfarfodydd o’n prif bartneriaid, a byddwn yn sicrhau ein bod yn parhau i ddarparu’r cyfleoedd hynny.

Byddwn hefyd yn croesawu’r Ganolfan yn rhwydweithio a rhannu arfer da gyda phartneriaid o gymunedau ieithyddol eraill i elwa o wersi sy’n deillio o ymdrechion i gymhathu siaradwyr newydd yn y cymunedau hynny. Byddwn yn ystyried os oes modd defnyddio’r rhwydwaith Ewropeaidd NPLD (Network for the Promotion of Linguistic Diversity) i hwyluso hynny.

Argymhelliad 22

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Mentrau Iaith i drafod a diffinio’u rôl fel partner allweddol â’r Ganolfan wrth gymhathu dysgwyr i’w cymunedau Cymraeg lleol

Derbyn

Rydym yn cytuno bod cymhathu siaradwyr Cymraeg newydd i’w cymunedau a rhoi cyfleoedd iddynt ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg mewn amgylchedd naturiol yn hollbwysig o ran gwireddu targedau Cymraeg 2050. Ar ôl i ddysgwyr gaffael rhywfaint o Gymraeg mewn dosbarthiadau ffurfiol, mae gan y Llywodraeth nifer o bartneriaid cymunedol sy’n gallu hwyluso hynny yn enwedig trwy gysylltiadau’r Mentrau Iaith.

Mae’r Ganolfan a’r Mentrau Iaith eisoes wedi lansio cynllun Mwynhau’r Gymraeg sydd wedi cael ei dargedu at siaradwyr newydd, a darparu cyfleoedd iddynt ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth gyda phobl leol.

Rydym eisoes yn annog cydweithio rhwng ein partneriaid a’r Ganolfan trwy’r cytundebau grant a byddwn yn sicrhau bod hynny yn parhau.