Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Cyhoeddwyd adroddiad blynyddol Llesiant Cymru am y tro cyntaf erioed ar 25 Medi 2017. Mae adroddiad yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyflawni 7 nod llesiant Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Cynhaliwyd arolwg defnyddwyr ar-lein rhwng mis Tachwedd 2017 a mis Chwefror 2018.

Nodiadau am yr arolwg

Hysbysebwyd yr arolwg ar gyfryngau cymdeithasol, mewn cylchlythyrau, e-byst, blogiau ac ar dudalennau adroddiad Llesiant Cymru ar y we. Cafwyd cyfanswm o 43 ymateb i'r arolwg: 42% yn perthyn i gorff cyhoeddus, 21% yn unigolion ac 16% o'r trydydd sector. Roedd y 21% o ymatebwyr sy'n weddill yn perthyn i sefydliadau eraill, fel busnesau neu grwpiau buddiant. I roi cyd-destun, o fewn cyfnod o 6 mis, edrychwyd ar y brif dudalen lanio 3,200 o weithiau, ac fe lawrlwythwyd PDF o'r adroddiad 1,100 o weithiau.

Roedd yr arolwg yn cynnwys 20 o gwestiynau am wahanol agweddau o'r adroddiad. Roedd y cwestiynau yn gymysgedd o rai amlddewis a rhai testun rhydd.

Crynodeb o'r adborth

Mae pobl yn defnyddio'r adroddiad. Dywedodd dros draean o'r rhai a ymatebodd eu bod yn gweld yr adroddiad yn hawdd ei ddefnyddio wrth wneud penderfyniadau. Mae pobl wedi defnyddio, neu'n bwriadu defnyddio, yr adroddiad mewn amrywiol sefyllfaoedd, o ymchwil i gyllidebu. Mae nifer y rhai sydd wedi edrych ar yr adroddiad yn cyfateb i brif ystadegau eraill Llywodraeth Cymru. Mae'r cyflwyniad o'r prif ganfyddiadau ar SlideShare wedi cael ei weld cryn dipyn yn fwy nag unrhyw ddefnydd blaenorol o'r system honno i rannu ystadegau.

Roedd y prif negeseuon yn cael eu trosglwyddo. Yn ôl 7 o bob 10 o'r rhai a ymatebodd, roedd y prif negeseuon yn cael eu cyfathrebu mewn ffordd ‘eithaf da’ neu ‘yn dda iawn’.

Mae'r adroddiadau cynnydd unigol ar gyfer pob nod llesiant yn cael eu defnyddio. Yn ôl 7 o bob 10 o'r rhai a ymatebodd, roedd yr adroddiadau cynnydd 'rhywfaint yn ddefnyddiol' neu'n 'ddefnyddiol iawn'.

Dywedodd 19 o'r rhai a ymatebodd bod llywio rhwng gwahanol elfennau o'r adroddiad yn 'hawdd' neu'n 'hawdd iawn'. Dywedodd 5 bod hynny'n 'anodd' neu'n 'anodd iawn'. Fe gafodd y PDF ei lawrlwytho gan dros draean o'r bobl a edrychodd ar y brif dudalen lanio. Fodd bynnag, dim ond 1 o bob 8 ymwelydd â'r brif dudalen ddefnyddiodd y rhan rhyngweithiol.

Er bod y rhai a ymatebodd yn gyffredinol o'r farn bod y negeseuon yn cael eu cyfathrebu mewn ffordd dda, roedd rhai sylwadau am jargon. Roedd 23 o bobl yn ansicr os oedd y naratif 'Cyfrifol ar lefel fyd-eang' yn ffordd effeithiol o nodi cynnydd yn erbyn y nod, a 5 o'r farn nad ydoedd.

O ganlyniad i'r adborth

Byddwn yn parhau i gyfathrebu'r prif negeseuon, a cheisio defnyddio iaith glir i wneud hynny. Byddwn yn edrych ar ffyrdd o wella'r naratif "Cyfrifol ar lefel fyd-eang" er mwyn dod o hyd i'r ffordd orau o gyfleu ei neges.

Byddwn yn cadw cynllun presennol yr adroddiad ac yn parhau i’w ddarparu mewn gwahanol ffurfiau. Byddwn yn ceisio tynnu sylw at y tab adroddiad rhyngweithiol, na sylwodd nifer o ddefnyddwyr arno. Mae hyn yn fater rydym yn ceisio rhoi sylw iddo mewn adroddiadau rhyngweithiol eraill fel rhan o'n gwelliannau cyffredinol i ddosbarthu ystadegau a'r wefan dros y 12 mis nesaf.

Byddwn yn parhau i ofyn am adborth a gwella'r adroddiad, drwy amrywiol sianelau, gan gynnwys siarad yn uniongyrchol gyda'r rhanddeiliaid. Os am gyfrannu gallwch anfon e-bost at desg.ystadegau@llyw.cymru.